200 likes | 368 Views
AMGYLCHEDD. ARLUNWYR CYMREIG AC ERAILL. Iwan Bala www.iwanbala.com.
E N D
AMGYLCHEDD ARLUNWYR CYMREIG AC ERAILL
Iwan Balawww.iwanbala.com • “Mae fyngwaithynymdrin â thirwedd, tirwedddiwylliant, cof, dychymyg. Tirweddhunaniaeth. Rwyfynymdrechuiymchwilio ac igreurhywfath o fapo'rdirweddbersonolyma, fyynysfechan, ermwyneilleoli o fewntirweddehangach y bydmawr". • My work attempts to define the cultural particularity that I was born with, the language, myths, history and poetry. In a multicultural world, I am aware also of the fragility of all core cultural identities, just as I am aware of the fragility of the landscape and ecology of the places we live in, and the barren materialism of much of our lives. Lluniau trwy ganiatad caredig Iwan Bala
Brendan Stuart Burnswww.brendanstuartburns.co.uk • Mae perthynas agos gydag arfordir Sir Benfro wedi ysgogi cyfres o beintiadau mawr a chyfredol. • Mae’r cysyniad o ofod, yn wirioneddol ac yn ddarluniadol; goblygiadau amser a lle; materion o fewn symudiadau, tywydd a golau; ochr yn ochr ag ystum, cipolwg a chof yn themâu angenrheidiol o fewn y peintiadau hyn Lluniau trwy ganiatad caredig Brendan Stuart Burns
Sarah Bettswww.oriel.org.uk • Mae ei gwaith yn archwilio ei phrofiadau o ddieithrio, cyfrinachedd, tristwch a llawenydd. Mae hi’n defnyddio delweddau o ddrysau a ffenestri fel symbolau er mwyn mynegi’r profiadau preifat hyn. Mae hi’n gweithio gyda deunyddiau wedi’u hailgylchu a gwrthrychau mae hi’n canfod eu bod yn cynnwys eu hanesion eu hunain. Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd
Gwenllian Beynonwww.artinwales.com • “Pan oeddwnyniauroeddwn bob amseryncydnabodysbryd y lleynsythweledol – mewnanheddauynarbennig - “Dyma le hapus". “Dyma le trist". Roeddwn bob amserynteimlomaihanes, y bobl a oeddwedibodyno a oeddwedicreu’rysbrydhwn. Arhyn o bryd, rwyfynbywmewn man llerwyfwedicaelllawer o broblemau – cymydoggwael, gwyddau’nsgrechian ac ynymladd, combács, ienwiondychydig. Rwyfyncaelfyhunynmyfyrioarai’rlleneu’rpresennolsy’ncreueiysbryd – RwyfynGADAEL". Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
David Garner www.davidgarnerartist.com • Mae cyfosodiadau atgofus Garner yn ymwneud â natur hepgorol pobl. Caiff gwrthrychau a delwedd o fywyd pob dydd eu defnyddio i wneud gwaith sy’n myfyrio ar anghyfiawnder ac anghydraddoldeb, yn enwedig o ran ffoaduriaid a phobl wedi’u dadleoli. Caiff deunyddiau wedi’u hepgor ac wedi’u hailgylchu o’n cymdeithas sy’n taflu i ffwrdd eu bwndelu, gan greu eiddo wedi’u pecynnu, bywydau wedi’u pecynnu. Lluniau trwy ganiatad caredig David Garner
Arthur Giardelli • Yn 90 oed mae Giardelli yn parhau i “greu’r adeiladweithiau cerfweddol ysgafn a barddol y mae’n fwyf adnabyddus yn eu cylch. Yn haniaethol o ran ffurf, mae’r rhain yn adleisio symudiad y tymhorau, egni’r gwynt, neu symudiadau’r llanw. Cânt eu gwneud o ddeunyddiau hapgael atgofus, wedi’u gwneud ac yn naturiol, pob un â’i hanes a’i gysylltiadau. Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
Neale Howells • “Mae’n ymddangos bod ei beintiadau a’i ddarluniadau a ysbrydolwyd gan graffiti yn cyfeirio at y teledu, clebran a gipglywyd neu ddarnau o wybodaeth a glywyd wrth diwnio’r radio. Y canlyniad yw mas o farciau sy’n gadael y gwyliwr yn ansicr sut a phryd i symud ymlaen. Mae gwaith Howells yn ymddangos yn ‘rywbeth’ byw sydd â’i fywyd ei hun" (wedi’i ddyfynnu o Ffresh 3, arddangosfa yn Chapter/G97 ym Mawrth 2002). Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
Shani Rhys James • Rwyf yn peintio am y stiwdio, y gegin, yr artist, fy mhlant, atgofion o’m plentyndod. Felly mae elfennau dychmygus ac arsylwadol yn cydfodoli ym mhob darn o waith” Lluniau trwy ganiatad caredig Shani Rhys James
Mary Lloyd Jones • Mae ei gwaith yn ceisio distyllu’r dirwedd, yn ceisio cipio ei bodolaeth ffisegol, ynghyd â’i chreithiau, wrth ddatgelu ei hanes ac, yn rhyfedd, mewn gwaith sydd bob amser heb ffurf ddynol – yn dangos ein perthynas â’r tir nawr ac yn y gorffennol. ' Lluniau trwy ganiatad caredig Mary Lloyd Jones
Lois Williams • Yn fy stiwdio, rwyf yn gweithio â phethau o’m cwmpas: weiar sy’n fy atgoffa o wallt, gwallt go iawn a gwallt synthetig; blew ceffylau, gwlân defaid, mwslin, ffelt, rhaff, papur; pob math o bethau a dweud y gwir. Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
GWAITH TIR • Mae celf daear (fe’i gelwir hefyd yn “gelf tir") yn cyfeirio at fudiad o artistiaid sydd ag ystod eang o nodau, ond cawsant oll eu creu ym myd natur, gan ddefnyddio deunyddiau megis cerrig, baw a dail. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn gerfluniol. ARLUNWYR: • Robert Smithson • Andy Goldsworthy • Walter De Maria • Chris Dury • Richard Long • Tracey Emin • Van Gogh
Robert Smithson • Robert Smithson (Americanwr, 1938-1973), Spiral Jetty, 1970, cerrig basalt du, pridd a chrisialau halen, torch: 1,500 x 15 troedfedd, yn ymestyn yn wrthglocwedd i ddŵr coch tryleu Great Salt Lake, UT. Hyd yn hyn ni chafodd hyn ei wneud. Spiral Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
Andy Goldsworthy • Andy Goldsworthy, un o Two Oak Stacks, 2003, dwy belen fawr o ffyn derw wedi’u pentyrru a’u gweu, Canolfan Gelfyddydol Storm King, NY. Mae’r belen hon o ffyn yn syth y tu allan i adeilad yr amgueddfa, i’w gweld drwy ffenestr yr oriel lle cafodd y belen arall o ffyn yr un peth ei hadeiladu a’i harddangos. Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
Walter De Maria • Walter De Maria (Americanwr, 1935-), The New York Earth Room, 1977, cerflun pridd y tu mewn: 250 o lathenni ciwbig o bridd (197 metr ciwbig), 3,600 troedfedd sgwâr o ofod y llawr (335 metr sgwâr), 22 modfedd o ddyfnder y deunydd (56 centimetr), cyfanswm pwysau’r cerflun: 280,000 pwys. (127,300 cilo), Dia Center for the Arts, 141 Wooster Street, New York City. Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
Richard Long • Richard Long (Sais, 1945-), A Line Made by Walking, 1967, ffotograff a phensil ar fwrdd, delwedd: 37.5 x 32.4 cm, Tate Gallery, Llundain. Creodd Long y gwaith pridd hwn drwy gerdded yn ôl ac ymlaen ar yr un linell mewn cae glaswelltog yng Ngwlad yr Haf, Lloegr, gan dreulio llwybr cul, a barodd tan i’r glaswellt dyfu’n ôl eto.Tynnodd Long y ffotograff hwn o’i waith er mwyn ei gofnodi. Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
Tracey Emin • Mae My Bed, Tracey Emin, a aeth ar y rhestr fer yn hydref 1999 ar gyfer Gwobr Turner (plât 1), yn cyflwyno sylfaen sy’n dal matras ac ar ben hynny mae cynfasau crychlyd, gobenyddion a thywel; wedi’u pentyrru wrth eu hochr mae amrywiaeth o eitemau o boteli fodca i sliperi a dillad isaf, pecynnau sigarennau i gondomau a chyfarpar gwrthgenhedlu, (hunan) bortreadau Polaroid i degan fflwfflyd gwyn. Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.
Van Gogh • Cafodd y gwaith hwn ei beintio tra bod Van Gogh yn gweithio yng nghwmniGauguinyn Arles. Cafodd ei atgyffwrdd yn gynnar yn 1889. Peintiodd Van Gogh gymar i’r llun, o gadair freichiau Gauguin, a ddangosir gyda’r nos, sydd bellach yn Rijksmuseum Vincent Van Gogh, Amsterdam. Mae’n bosibl mai bwriad y ddau beintiad oedd cynrychioli natur a diddordebau cyferbyniol y ddau arlunydd. Mae’r llun hwn yn y parth cyhoeddus gan fod yr hawlfraint arno wedi terfynu
Mae’r llun hwn yn y parth cyhoeddus gan fod yr hawlfraint arno wedi terfynu