1 / 13

[Aelod o’r Tîm Iechyd yr Amgylchedd] [Enw’r Awdurdod Lleol] [Cyfeiriad yr Awdurdod Lleol]

[Manylion y cyfarfod]. Mudo o’r [enw’r cynllun presennol] i’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Cenedlaethol yn [enw’r awdurdod lleol]. [Aelod o’r Tîm Iechyd yr Amgylchedd] [Enw’r Awdurdod Lleol] [Cyfeiriad yr Awdurdod Lleol] : [rhif ffôn perthnasol] E-bost: [cyfeiriad e-bost perthnasol].

zareh
Download Presentation

[Aelod o’r Tîm Iechyd yr Amgylchedd] [Enw’r Awdurdod Lleol] [Cyfeiriad yr Awdurdod Lleol]

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. [Manylion y cyfarfod] Mudo o’r [enw’r cynllun presennol] i’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Cenedlaethol yn [enw’r awdurdod lleol] [Aelod o’r Tîm Iechyd yr Amgylchedd] [Enw’r Awdurdod Lleol] [Cyfeiriad yr Awdurdod Lleol] : [rhif ffôn perthnasol] E-bost: [cyfeiriad e-bost perthnasol]

  2. Beth fydd y cyflwyniad hwn yn ei drafod? • Beth yw’r cynllun sgorio hylendid bwyd cenedlaethol? • Pam a sut y mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu a phryd gaiff ei gyflwyno? • Pam ddylai [enw’r awdurdod lleol] fudo i’r cynllun cenedlaethol? • Sut y bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cefnogi’r cynllun? • Beth yw’r manteision i ddefnyddwyr a busnesau lleol? • Beth yw’r goblygiadau i adnoddau’r Tîm Diogelwch Bwyd?

  3. Beth yw’r cynllun sgorio hylendid bwyd cenedlaethol? • Menter ar y cyd rhwng awdurdodau lleol/yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. • Rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr am safonau hylendid safleoedd bwyd ar yr adeg y cânt eu harchwilio i weld a ydynt yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol – mae’r sgôr yn adlewyrchu canfyddiadau’r archwiliad. • Ei ddiben yw galluogi cwsmeriaid i wneud dewisiadau gwybodus am y safleoedd lle maent yn bwyta allan neu’n prynu bwyd a, thrwy hynny, annog busnesau i wella’u safonau hylendid.

  4. Beth yw’r cynllun sgorio hylendid bwyd cenedlaethol? • Fel rhan o’r cynllun, rhoddir sgôr hylendid i dai bwyta, tecawês, caffis, siopau brechdanau, tafarndai, gwestai, archfarchnadoedd a safleoedd gwerthu bwyd eraill, ynghyd â busnesau eraill lle gall defnyddwyr fwyta neu brynu bwyd. • Mae chwe sgôr hylendid gwahanol ar gael – mae’r sgôr uchaf yn tystio bod busnes yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol at safon dda iawn. • Cyhoeddir yr holl sgoriau ar wefan genedlaethol ac anogir busnesau i’w harddangos ar eu safle – ‘Scores on the Doors’ fel y cânt eu galw.

  5. Pam a sut y mae’r cynllun cenedlaethol yn cael ei ddatblygu? • Mae’n cael ei ddatblygu gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. • Rhoddir cyngor ac arweiniad am ei ddatblygiad gan Grŵp Rhanddeiliaid y DU Gyfan. • Mae’r Grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr yr awdurdodau lleol (gan gynnwys LACORS a’r Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd), defnyddwyr a’r diwydiant bwyd, ynghyd â swyddogion yr Asiantaeth, y Weithrediaeth Gwell Rheoleiddio a’r Swyddfa Gwell Rheoleiddio Lleol.

  6. Pryd gaiff y cynllun ei gyflwyno? • Erbyn hyn, cytunwyd ar brif elfennau fframwaith y cynllun: • pa fusnesau i’w cynnwys; • sut i gyfrifo’r sgoriau; • y rhagofalon i sicrhau bod busnesau’n cael eu trin yn deg (proses apelio, hawl i ymateb a system i geisio sgôr newydd pan fydd gwelliannau wedi’u gwneud).

  7. Pryd gaiff y cynllun ei gyflwyno? • Mae elfennau eraill y cynllun wrthi’n cael eu datblygu: • y symbolau a’r disgrifyddion i’w defnyddio ar gyfer y gwahanol sgoriau; • y gweithdrefnau i sicrhau bod y cynllun yn gweithredu’n gyson o fewn ac ar draws awdurdodau lleol; • y wefan a’r gronfa ddata genedlaethol i ddarparu un pwynt lle gall defnyddwyr gael gafael ar sgoriau pob busnes sy’n rhan o’r cynllun. • Dylai’r system fod yn barod i’w chyflwyno ym mis Gorffennaf neu fis Awst eleni, ond gall awdurdodau lleol gychwyn paratoi er mwyn iddynt fod yn barod i lansio’r cynllun.

  8. Pam ddylai [enw’r awdurdod lleol] gyflwyno’r cynllun cenedlaethol? • Er bod [enw’r cynllun lleol] wedi bod yn llwyddiant, mae manteision ychwanegol o weithredu’r model cenedlaethol. • O gael un cynllun yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, bydd yn helpu i sicrhau cysondeb i fusnesau ac eglurder i ddefnyddwyr ar draws ffiniau awdurdodau lleol. • Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r cynllun.

  9. Toreth o gynlluniau lleol

  10. Sut y bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cefnogi awdurdodau lleol sy’n gweithredu’r cynllun? • Canllawiau ynghylch cyflwyno a gweithredu’r cynllun. • Deunydd hyrwyddo a marchnata. • Hyfforddiant cysondeb i swyddogion diogelwch bwyd yr awdurdodau lleol. • Gwefan a chronfa ddata genedlaethol a chymorth/hyfforddiant TG perthnasol. • Cyngor ac arweiniad i’r rhai sy’n mabwysiadu’r cynllun yn gynnar gan ddau swyddog iechyd yr amgylchedd ar secondiad i’r Asiantaeth o awdurdodau lleol. • Grŵp Mabwysiadwyr Cynnar. • Cymorth grant. • Gweithgareddau hyrwyddo cenedlaethol.

  11. Beth yw’r manteision i ddefnyddwyr a busnesau lleol? • O ran defnyddwyr, bydd y gweithgareddau hyrwyddo cenedlaethol yn codi ymwybyddiaeth ac yn gwella dealltwriaeth o’r sgoriau hylendid bwyd ac yn eu helpu i ddefnyddio’r cynllun. Gallant gymharu busnesau â’i gilydd yn hwylus, nid yn unig yn eu hardal, ond hefyd yn ehangach. • O ran busnesau, bydd yn rhoi sicrwydd iddynt eu bod yn cael eu trin yn deg ac yn gyson o’u cymharu â busnesau sy’n cystadlu â nhw yn lleol ac yn ehangach. • Bydd modd i unrhyw fusnes, beth bynnag fo’i faint neu’i natur, gyflawni’r sgôr uchaf.

  12. Beth yw’r goblygiadau i adnoddau’r Tîm Diogelwch Bwyd? • Seilir y cynllun o amgylch y rhaglen ymyriadau hylendid bwyd a gynlluniwyd i ysgafnhau unrhyw faich. • Mae cefnogaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cadw unrhyw gostau sefydlu a chostau parhaus yn isel. • Y brif effaith fydd ceisiadau gan fusnesau i gael sgôr newydd pan fydd gwelliannau wedi’u gwneud, oherwydd bydd ymweliadau ailsgorio’n digwydd tu allan i’r rhaglen ymyriadau a gynlluniwyd. • Mae’r Asiantaeth yn sylweddoli hyn ac yn ymrwymo i gadw golwg fanwl ar y mater i sicrhau nad yw’n peryglu’r gwaith o ddiogelu iechyd y cyhoedd. • Gwahaniaethau rhwng y cynlluniau lleol a chenedlaethol.

  13. Rhagor o wybodaeth a chwestiynau? • Rhagor o wybodaeth: • ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn: www.food.gov.uk/hygieneratings • Gan y Tîm Diogelwch Bwyd: [Enw a rhif ffôn y swyddog]

More Related