1 / 23

H C I s Rhyngwyneb cyfrifiadur-pobl

H C I s Rhyngwyneb cyfrifiadur-pobl. Arddulliau Rhyngwynebau. Seiliedig ar Orchmynion Ffurflenni Dewislenni Iaith Naturiol Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffigol.

Download Presentation

H C I s Rhyngwyneb cyfrifiadur-pobl

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. H C Is Rhyngwyneb cyfrifiadur-pobl

  2. Arddulliau Rhyngwynebau • Seiliedig ar Orchmynion • Ffurflenni • Dewislenni • Iaith Naturiol • Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffigol

  3. Seiliedig ar Orchymynion Mae DOS, sy’n cynrychioli Disk Operating System, yn rhyngwyneb defnyddiwr cyffredin iawn a yrrir gan orchmynion. • Anogwr Gorchmynion • Teipio gorchmynion • Gall pob gorchymyn fod â switshis • Moddau gwahanol y gellir rhedeg y gorchymyn ynddynt yw’r rhain: • Mae Dir yn rhoi rhestriad cyfeiriadur • Mae Dir /w yn rhoi’r rhestriad ar draws y dudalen • Mae Dir /s yn cynnwys yr is-gyfeiriaduron • Mae Dir /p yn oedi ar waelod pob tudalen • Defnyddwyr arbenigol yn unig

  4. mantais rhyngwynebau a yrrir gan orchmynion yw y gallant fod yn gyflym i’w defnyddio cyhyd â bod y defnyddiwr yn gwybod y gorchmynion cywir. Caiff y gorchmynion cywir i gopïo’r ffeil eu teipio i mewn gan y defnyddiwr ar y bysellfwrdd Mae’r system weithredu yn dangos neges i gadarnhau bod y gorchymyn wedi cael ei gyflawni’n llwyddiannus. • anfantais yw eu bod yn anodd iawn i’w defnyddio os ydy’r defnyddiwr yn ddechreuwr neu heb wybod y gorchmynion cywir. Gall systemau a yrrir gan orchmynion fod yn anghyfeillgar iawn i bobl nad ydynt yn arbenigwyr cyfrifiaduron a’u drysu.

  5. Ffurflenni • Labeli Data yn rhoi cymorth • Blychau i roi data i mewn/dewis data • Fe’u defnyddir i gofnodi data (cofnodion) • Mae dewis yn haws • Rhoddir dewisiadau i’r defnyddiwr • Defnyddiol i ddechreuwyr

  6. Dewislenni • Cyfres o eitemau perthynol y gellir eu clicio • Rhoi dewis cyfyngedig • Cyfeillgar i ddechreuwyr • Wedi’u strwythuro’n opsiynau

  7. Yn yr enghraifft hon mae rhyngwyneb defnyddiwr a yrrir gan ddewislenni wedi cael ei ddefnyddio i gopïo ffeil o’r enw fred.txt i ddisg hyblyg defnyddiwr.

  8. Adnabod llais • Defnyddir microffon i dderbyn mewnbwn llais. Defnyddir seinyddion ar gyfer allbwn llais. System a yrrir gan LAIS yw hon, mae’r rhain yn dal i fod yn y cyfnod arbrofol ond maen nhw’n cael eu datblygu a gallan nhw helpu pobl anabl. Hefyd mae systemau ar gyfer adnabod defnyddwyr cardiau arian neu gardiau smart yn cael eu datblygu. Problemau:   • Gall defnyddwyr ddefnyddio ieithoedd gwahanol  • Efallai na fydd acenion lleol yn cael eu hadnabod • Mae rhai geiriau Saesneg yn swnio’r un fath - two, to, too

  9. Iaith Naturiol Mae’r ffactor dynol yn bwysig iawn wrth ddylunio’r systemau hyn ac mae diddordeb diweddar mewn systemau arbenigo a deallusrwydd artiffisial wedi gwneud nodweddion fel rhyngwynebau iaith naturiol yn fwy cyffredin gan wneud rhyngwynebau dynol peiriannau yn fwy cyfeillgar i’r defnyddiwr. • Mae’r defnyddiwr yn teipio neu’n siarad mewn iaith normal bob dydd ac mae’r cyfrifiadur yn ymateb • Fe’i defnyddir yn Microsoft Help a gwefan Ask Jeeves • Yn ddefnyddiol i ddechreuwyr gan nad oes angen iddynt ddeall y cyfrifiadur i’w ddefnyddio. • Â mewnbwn lleisiol, mae’n ddefnyddiol i bobl ag anabledd corfforol.

  10. Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffigol • Yn disgrifio’r rhyngwyneb rhwng y defnyddiwr a’r cyfrifiadur. • Yn rhoi delweddau yn lle rhywfaint o’r testun • Gall gynnwys dewislenni, ffurflenni a gorchmynion

  11. Rhyngwynebau defnyddwyr graffigol (GUI) Y math o ryngwynebau defnyddwyr graffigol (GUI) a ddefnyddir fwyaf yw systemau WIMP. Mae WIMP yn cynrychioli Windowsi ganiatáu amlorchwyl a dangos strwythur ffeiliau Iconscynrychioliadau symbolaidd o ffeiliau neu raglenni Menui restru cyfleusterau priodol Pointeri ddewis y gorchymyn neu’r cyfleuster rydych ei eisiau

  12. Yn ogystal • Cymorth ar y sgrin • Amgylcheddau wedi’u haddasu ar gyfer y defnyddiwr-ffefrynnau • Cynorthwyr ar y sgrin • Tiwtorialau

  13. Manteision • Yn gyfeillgar i’r defnyddiwr am nad oes raid i chi gofio pob gorchymyn • Yn hawdd ei ddefnyddio â’r maint lleiaf o hyfforddiant. Dull sythweledola 'chyfeillgar i’r defnyddiwr'. Yn addas ar gyfer defnyddwyr â’r sgiliau TG isaf. Bydd nifer o gymwysiadau gwahanol yn defnyddio’r un eiconau a dulliau – felly mae pob yn 'teimlo' yr un fath. • Yn gallu rhedeg mwy nag un darn o feddalwedd, felly mae’n hawdd trosglwyddo data rhyngddynt e.e. mewnforio clipluniau.

  14. Anfanteision • Mae amgylcheddau o’r fath yn defnyddio mwy o gof hapgyrch (RAM) a lle storio ar y disg, ond ni fu hynny’n llawer o broblem gan fod cost cof a storfa disg wedi dod yn rhatach a bod peiriannau’n cynnwys gyriannau caled mwy eu maint. • Gall wneud i’r peiriant redeg yn arafach

  15. Dyluniad rhyngwyneb defnyddiwr • Dylai rhyngwyneb defnyddiwr da fod yn gyfeillgar i’r defnyddiwr. • Cysondeb gweithredu, gosodiad sgrin ayb. • Dylid dewis lliwiau’n ofalus e.e. sy’n hawdd eu gweld • Gellir defnyddio sain i wneud pethau fel rhybuddio’r defnyddiwr ynghylch problemau ond hefyd dylai fod yn bosibl ei diffodd • Cymorth ar-lein ac wedi’i ddogfennu

  16. Cymorth ar-lein ac all-lein Mae angen meintiau gwahanol o gymorth ar ddefnyddwyr gwahanol. • Cymorth a gwallnegesau • Gall llawer o systemau gyfyngu ar lefel y sgrin gymorth sydd ar gael. Mae system gymorth dda yn bwysig i’r defnyddiwr newydd a gall ddarparu tiwtorial ar-lein neu lawlyfr ar-lein neu ddewislenni a ysgogir gan fysellau cymorth. • Mae gwall-negesau neu ddiagnosteg yn ddefnyddiol i bob defnyddiwr. Rhaid iddynt roi syniad o’r math o wall sydd wedi digwydd, nid dweud 'gwall' yn unig

  17. Bysellau un pwrpasGall rhai bysellau neu gyfuniadau o fysellau gyflawni tasgau rhagddiffiniedig. E.e. gall <CTRL> a <S> gadw darn o waith. Gall <CTRL> <ALT> a <DEL> ailgychwyn cyfrifiadur. Bysellau meddal Gall fod yn bosibl rhaglennu bysellau i gyflawni tasgau pan gânt eu pwyso. Efallai y bydd gan rai bysellfyrddau fysellau 'swyddogaeth' y gellir eu rhaglennu.  • Dyfeisiau pwyntioLlawdrin dyfais sy’n symud pwyntydd ar y sgrin. Enghreifftiau: Llygoden, Pêl lwybro, Ffon reoli, Pad Graffeg a Phen Golau/Cnap.  

  18. LlawysgrifenMae rhai cyfrifiaduron dal-yn-y-llaw yn caniatáu i ddefnyddwyr 'ysgrifennu' ar y sgrin. OCR Anfantais: Mae angen meddalwedd gymhleth i adnabod llawysgrifen pobl wahanol. 

  19. Cymhwyso Rhyngwynebau Defnyddwyr at Ddefnyddywr • Mae gan ddefnyddwyr gwahanol ofynion gwahanol: • Pobl â Diffyg Gweld: • Cynffon llygoden, sgrin wedi’i chwyddo, cynlluniau lliw cyferbyniol, eiconau mawr ayb. • Defnyddwyr arbenigol: • Llinell orchymyn, bysellau llwybr llygad, ychwanegion rhaglennu

  20. Lleoliad: ble fydd yn cael ei ddefnyddio? • Rhyngwyneb cyffwrdd sgrin, cyffyrddell, ayb • Pobl ag anabledd corfforol: • Ar gyfer dyfeisiau mewnbwn ychwanegol mae angen newidiadau i’r rhyngwyneb defnyddiwr

  21. Ar ôl i system gyfrifiadurol newydd gael ei dylunio, rhaid gwirio i sicrhau bod y dyluniad newydd yn gydnaws â rhagofynion gwreiddiol y system. • Gwneir adolygiad o’r dyluniad er mwyn sicrhau bod... • y dyluniad yn cyfateb i’r rhagofynion, a bod amcanion y system newydd wedi’u bodloni, • y technegau mwyaf priodol wedi cael eu defnyddio, • y rhyngwyneb defnyddiwr yn briodol. • Bydd gwallau a wneir yng nghyfnod y dylunio yn trosglwyddo i bob datblygiad pellach o’r system newydd. • Os gwnaed camgymeriadau yng nghyfnod y dylunio, byddai llawer o waith yn cael ei wneud yn gweithredu system oedd, ar y gwaethaf, yn methu â gweithio, neu ar y gorau, yn methu â gwneud y gwaith yn dda.

  22. Gwerthuso Dyluniad • Sut y byddech yn penderfynu ydy dyluniad system yn dda? • Dyma rai meini prawf.... • ydy’r dyluniad yn cyflawni’r amcanion? • ydy hi’n bosibl gweithredu’r dyluniad â’r adnoddau llafur a’r arbenigedd sydd ar gael? • ydy’r dyluniad yn dechnegol ddichonol? Ydy’r holl galedwedd yn bodoli? • ydy’r dyluniad mor syml ag sy’n bosibl fel y gall pobl ddeall yn hawdd sut y mae’n gweithio? Mae dyluniadau cymhleth yn anoddach i’w rhoi ar waith ac mae’n anoddach datrys problemau sy’n codi. • ydy hi’n bosibl ei weithredu o fewn yr amserlen arfaethedig? • ydy hi’n bosibl ei weithredu o fewn y gyllideb sydd ar gael?

  23. Sut y byddwch yn gwerthuso dyluniad? • Llyfr log o wallau • Holiaduron / Cyfweliadau • Arsylwi’r dyluniad ar waith

More Related