130 likes | 335 Views
DIWALI. Stori Rama a Sita. Roedd dyn da o’r enw Rama, yn briod â thywysoges brydferth o’r enw Sita. Roeddent wedi’u halltudio i fyw yn y goedwig gyda’i frawd, Lakshman, gan ei lysfam, oherwydd roedd hi am i’w mab fod yn Frenin.
E N D
Roedd dyn da o’r enw Rama, yn briod â thywysoges brydferth o’r enw Sita.
Roeddent wedi’u halltudio i fyw yn y goedwig gyda’i frawd, Lakshman, gan ei lysfam, oherwydd roedd hi am i’w mab fod yn Frenin.
Clywodd Ravana, y brenin dieflig â deg pen, am brydferthwch a daioni Sita ac roedd yn bwriadu ei herwgipio. Trwy bwerau hudolus, creodd elain euraid. Gofynnod i Rama ei dal.
Daeth y brenin dieflig mewn cuddwisg hen ddyn a thwyllo Sita. Herwgipiodd Sita a hedfan i ffwrdd ar ei gerbyd rhyfel yn ôl i’w ynys, Lanka.
Chwiliodd Rama a Lakshman am sawl mis am Sita. Yn y diwedd, gofynasant i Hanuman, brenin byddin y mwncïod, am help. Gallai Hanuman hedfan.
Daeth o hyd i Sita wedi’i charcharu ar ynys Lanka. Roedd Hanuman, Rama a Lakshman wedi paratoi am frwydr.
Dyma un o’r brwydrau gorau a fu erioed. Parhaodd yr ymladd am ddeng niwrnod.
Roedd yn edrych yn debygol y byddai Ravana yn ennill, nes i Rama fenthyg bwa a saeth arbennig gan y duwiau. Saethodd Rama Ravana ac enillodd y frwydr.
Achubodd Rama Sita ac fe benderfynon nhw fynd adref. Wrth iddi dywyllu, rhoddodd bobl y deyrnas lampiau olew (divas) yn eu ffenestri i ddangos y ffordd adref iddynt. Roedd hi’n teimlo fel bod mwy o lampiau na sêr yn y nen.
Roedd pawb yn hapus ac roedd Rama a Sita yn teyrnasu’n dda. Nawr, bob blwyddyn mae pobl yn cofio’r stori hon yn ystod Divali drwy oleuo goleuadau diva yn eu cartrefi a chynnau tân gwyllt yn yr awyr agored.