400 likes | 532 Views
Prawf y Farchnad Sengl a’r €. Mae’r prawf hwn yn cynnwys 10 cwestiwn i brofi eich dealltwriaeth o’r pethau sylfaenol ynghylch y farchnad sengl a’r €. Mae’r cysylltau’n rhoi dewis o atebion i chi, ynghyd ag esboniadau a datrysiadau. Cwestiwn 1. Pa un o’r canlynol sy’n wir am y Farchnad Sengl?
E N D
Prawf y Farchnad Sengl a’r € Mae’r prawf hwn yn cynnwys 10 cwestiwn i brofi eich dealltwriaeth o’r pethau sylfaenol ynghylch y farchnad sengl a’r €. Mae’r cysylltau’n rhoi dewis o atebion i chi, ynghyd ag esboniadau a datrysiadau.
Cwestiwn 1. Pa un o’r canlynol sy’n wir am y Farchnad Sengl? a. Mae’n dileu costau trafod b. Mae’n caniatáu i lafur symud yn rhydd c. Mae’n rhoi mwy o bŵer i’r Banc Canolog Ewropeaidd
Cywir – Dyma un o brif nodweddion y Farchnad Sengl, mae’n caniatáu i nwyddau a chyfalaf symud yn rhydd hefyd.
Cwestiwn 2. Pa un o’r canlynol sy’n wir am wlad sy’n aelod o’r €? A. Mae ei harian cyfred yn cael ei bennu yn erbyn y $ B. Banc canolog y wlad sy’n pennu polisi ariannol C. Mae’r Banc Canolog Ewropeaidd yn pennu un gyfradd llog ar gyfer pob gwlad sy’n aelod
Cwestiwn 3. Mae ehangu’r Farchnad Sengl yn golygu A. Masnach rydd i fwy o fathau o gynnyrch fferm B. Dileu tollau ar nwyddau o China C. Gwledydd newydd yn ymuno â’r Farchnad Sengl
Cwestiwn 4. Mae gwerth y £ yn codi mewn perthynas â’r €. O ganlyniad bydd A. mewnforion o’r UE i’r DU yn ddrutach B. allforwyr Prydeinig yn ei chael hi’n haws gwerthu yn yr UE C. allforwyr Prydeinig yn colli marchnadoedd yn yr UE
Da iawn! Bydd allforion Prydain yn ddrutach i brynwyr yn ardal yr Ewro.
Cwestiwn 5. Pa un o’r canlynol sy’n wir am fod yn aelod o’r Farchnad Sengl? A. Dileu cymorthdaliadau ar bob cynnyrch fferm B. Amddiffyn rhag mewnforion amaethyddol o wledydd datblygu
Anghywir – mae’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn dal i fynd.
Cwestiwn 6. Pa un o’r canlynol sy’n rheswm pam mae rhai pobl yn dadlau yn erbyn Prydain yn ymaelodi â’r €? A. Colli rhwystrau ar fewnforion B. Colli sofraniaeth ar bolisi ariannol C. Llai o amddiffyn i ddiwydiannau ifanc
Cywir. Bydd cyfraddau llog yn cael eu pennu gan y Banc Canolog Ewropeaidd.
Cwestiwn 7. Pa nodwedd o’r Farchnad Sengl fydd yn arwain at fwy o gystadleuaeth? A. Dileu costau trafod a chynyddu amlygrwydd prisiau. B. Dileu tollau, cwotâu a rhwystrau gweinyddol i fasnach.
Cwestiwn 8. Mae amlygrwydd prisiau’n golygu A. ei bod hi’n ofynnol yn gyfreithiol ar gwmnïau i ddyfynnu prisiau cystadleuwyr B. bod prisiau mewn gwledydd gwahanol yn cael eu rhoi yn yr un arian cyfred C. bod cwsmeriaid yn gallu cymharu prisiau ar beiriannau chwilio’r rhyngrwyd
Cwestiwn 9. Un ddadl o blaid Prydain yn ymaelodi â’r € yw 1. Rhyddid rhag ymyrraeth gan y Banc Canolog Ewropeaidd 2. Elw mwy rhagweladwy o fasnachu â gwledydd yn ardal yr € 3. Mwy o rym i Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr
Cywir. Heb unrhyw amrywiadau mewn ariannau cyfred, mae elw o farchnadoedd allforio/mewnforio yn fwy rhagweladwy.
Cwestiwn 10. Mae’r Farchnad Sengl yn sicrhau 1. masnach rydd rhwng yr holl aelodau 2. na fydd rhyfeloedd masnach ag UDA 3. bod pêl-droedwyr Prydeinig yn gallu chwarae i unrhyw dîm yn yr UE A. 3 yn unig B. 1 a 3 C. 1 a 2
Rydych wedi cwblhau’r prawf. Am adolygu ychwanegol mwy manwl defnyddiwch yr astudiaethau achos ar y wefan. I ymadael â’r prawf defnyddiwch y botwm ‘Back’ ar eich bar offer.