240 likes | 580 Views
TAG AMSER. Pan fyddwn yn creu brawddeg gyda berfau, mae’n holl bwysig ein bod yn defnyddio tag amser. Rhain fydd yn sicrhau fod y ferf wedi ei defnyddio yn yr amser cywir. Defnyddio tag arferiadol.
E N D
TAG AMSER Pan fyddwn yn creu brawddeg gyda berfau, mae’n holl bwysig ein bod yn defnyddio tag amser. Rhain fydd yn sicrhau fod y ferf wedi ei defnyddio yn yr amser cywir.
Defnyddio tag arferiadol Gyda’r amser AMHERFFAITH, wrth greu brawddeg, dylem ddefnyddio tag arferiadol yn ogystal. Ystyr tag arferiadol yw fod rhywbeth wedi cael ei wneud yn gyson dros gyfnod o amser.
Tag arferiadol bob dydd bob nos bob wythnos bob mis bob blwyddyn yn ddyddiol yn wythnosol yn fisol yn flynyddol Yn achlysurol
Beth am greu brawddegau gyda’r amherffaith – cofiwch am y tag amser a’r tag arferiadol canai Cwmpasog: Roedd o/hi’n arfer canu Ers talwm mewn gwasanaeth ysgol boreuol, canai’r disgyblion emyn yn ddyddiol. tag amser berf amherffaith tag arferiadol
gwisgai Cwmpasog: Roedd o/hi/y plant yn arfer gwisgo Pan oedd yn ifanc, gwisgai fy nain het i’r capel bob dydd Sul. tag amser berf amherffaith tag arferiadol
eisteddwn i Cwmpasog – roeddwn i’n arfer eistedd Pan oeddwn yn y flwyddyn gyntaf, eisteddwn i yng nghefn y bws yn achlysurol. tag amser berf amherffaith tag arferiadol
caem Cwpmasog – roedden ni’n arfer cael Yn flynyddolyn yr ysgol gynraddcaem wisgo gwisg Gymreig ar ddiwrnod Gŵyl Ddewi. tag arferiadol tag amser berf amherffaith
aem Cwmpasog – Roedden ni’n arfer mynd Pan oeddwn yn iau, aem fel teulu am wyliau haf i Ffrainc yn flynyddol. tag amser berf amherffaith tag arferiadol
gwelai Cwmpasog – Roedd o/hi yn arfer gweld Ers talwm, gwelai Sion ei dad yn achlysurol yn dilyn ysgariad ei rieni. tag amser berf amherffaith tag amser
dysgwn i Cwmpasog – roeddwn i’n arfer dysgu Pan yn blentyndysgwn adnod gan fy nain yn wythnosol. berf amherffaith tag amser tag arferiadol
cysgem Cwmpasog – roedden ni’n arfer cysgu Pan oeddem yn blant, cysgem yn nhŷ ein ffrindiau yn achlysurol. tag amser berf amherffaith tag arferiadol
Beth am yr amser gorffennol? Gyda’r amser presennol/dyfodol, rhaid defnyddio tag amser er mwyn sicrhau fod defnydd y ferf yn gywir e.e. neithiwr ddoe echdoe mis diwethaf flwyddyn diwethaf
canodd Cwmpasog – mae o/hi wedi canu (ddaru o/hi/ganu) Yn y cyngerdd neithiwr, canodd côr yr ysgol yn ardderchog. tag amser berf gorffennol
gwelais Cwmpasog– rydw i wedi gweld(ddaru fi weld) Ar y ffordd i’r ysgol bore heddiw, gwelais ddamwain erchyll. tag amser berf gorffennol
siaradom ni Cwmpasog – rydyn ni wedi siarad (mi ddaru ni siarad) Yn yr arholiad llafar ddoe fe siaradom am ugain munud. tag amser berf gorffennol
cefais Cwmpasog – rydw i wedi cael (ddaru fi gael) Cefais fy mhenblwydd yn ddeunaw oed ddoe. berf gorffennol tag amser
Beth am y presennol/dyfodol? Gyda’r amser presennol/dyfodol, rhaid defnyddio tag amser er mwyn sicrhau fod defnydd y ferf yn gywir e.e. PRESENNOLDYFODOL heddiw rwan ar hyn o bryd y dyddiau hyn y flwyddyn hon heno yfory wythnos nesaf fis nesaf flwyddyn nesaf
prynaf Cwmpasog – rydw i’n prynu / byddaf yn prynu Heno, mi brynaf sglodion i swper ar fy ffordd adref o’r gwaith. tag amser berf dyfodol
eisteddwn ni Cwmpasog – Rydyn ni’n eistedd / Byddwn ni’n eistedd Er mwyn i ni allu gweld y sioe heno, mi eisteddwn ni yng nghanol y Theatr. tag amser berf dyfodol
af i Cwmpasog – Rydw i’n mynd / byddaf i’n mynd Heddiw mi af i i Gaer ar y trên. berf presennol tag amser
cyhoedda Cwmpasog – mae o/hi’n cyhoeddi/ Bydd o/hi’n cyhoeddi Yforycyhoedda’r bardd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth. tag amser berf dyfodol
Crynhoi • Mae’n rhaid defnyddio TAG AMSER mewn brawddegau i ddangos ystyr a defnydd y berfau • Gyda’r berfau amherffaith, mae angen defnyddio TAG ARFERIADOL yn ogystal • Mae’n rhaid sicrhau na all berf arall gael ei defnyddio yn y frawddeg y byddwch wedi ei chreu.
Rhowch gynnig arni… Lluniwch frawddegau gyda’r berfau canlynol: cofiodd yfai caiff darllenem caf dysgais gwisgwn i aethom ni