220 likes | 376 Views
Uned Cynnal Llywodraethwyr. Ymsefydlu Llywodraethwyr Newydd. Canllaw i Gyrff Llywodraethu.
E N D
Uned Cynnal Llywodraethwyr Ymsefydlu Llywodraethwyr Newydd Canllaw i Gyrff Llywodraethu
Diolch ichi am gytuno i wasanaethu fel aelod o gorff llywodraethu un o ysgolion yr Awdurdod. Mae aelodau’r Cyngor, ynghyd â phenaethiaid a staff yr ysgolion, yn gwerthfawrogi’r amser sy’n cael ei roi, o’u gwirfoledd, gan bobl fel chi, sy’n fodlon cymryd rhan i sicrhau bod plentyn lleol yn cael addysg o safon. • Fel llywodraethwr newydd, bydd gennych chi gyfle i fanteisio ar yr amrywiaeth mawr o gefnogaeth, cymorth a hyfforddiant sydd ar gael oddi wrth y canlynol: • Y Rheolwr Cefnogaeth Llywodraethwyr • Swyddog Gweinyddol/Swyddog Cefnogaeth dynodedig eich ysgol • Aelodau eraill y corff llywodraethu • Staff yr ysgol a staff yr AAL • i’ch galluogi i gymryd rhan fel rhan o’r tîm
Bydd unrhyw Lywodraethwr sydd â medr neu ddiddordeb penodol, yn eu gwaith gartref neu yn eu bywyd cymdeithasol, yn cael eu hannog i rannu hyn ac i ymwneud â phob agwedd ar waith y Corff Llywodraethol. • Nod y cyflwyniad yma yw rhoi gwybodaeth am y broses ymsefydlu ar gyfer Llywodraethwyr newydd. Mae’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol: • cymryd y camau cyntaf i’ch cyflwyno’ch hun • y dogfennau perthnasol y dylech eu cael • yr hyfforddiant a’r gweithgareddau datblygu sydd ar gael
Beth sy’n gallu cael ei wneud ? Dylai Llywodraethwyr newydd gael eu paratoi i chwarae rhan gweithgar yn y Corff Llywodraethu cyn gynted â phosibl. Mae’n rhaid i hyn gynnwys: • Rhoi gwybodaeth lawn iddyn nhw am waith y Llywodraethwyr • Llenwi bylchau yn eu gwybodaeth am y pynciau trafod cyfredol ym myd addysg • Cynnig cefnogaeth am gymaint o amser â phosibl • Gweithio mewn ffordd anffurfiol a heb hierarchaeth, er mwyn i’r Llywodraethwyr newydd wneud cyfraniad o’r cychwyn cyntaf Mae hyn yn golygu bod angen: • Ymroddiad ymhlith y Corff Llywodraethu cyfan • Gweithdrefn sy’n sicrhau na fydd Llywodraethwyr yn llithro drwy’r rhwyd, ond eu bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth angenrheidiol
Ym 1998, dechreuwyd defnyddio cyfnod o bedair blynedd mewn swydd. Mae hynny’n golygu y gallai Llywodraethwyr newydd ymuno â’r Corff Llywodraethu ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Mae hefyd yn golygu y gallai trosiant fod yn broses reolaidd a pharhaus. Mae llawer o gŵynion wedi’u gwneud yn y blynyddoedd diwethaf fod gormod o wybodaeth yn cael ei rhoi. Mae’n bwysig bod Llywodraethwyr yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth ac nid eu boddi o dan ormod o wybodaeth. Bydd defnyddio’r canllaw yma yn helpu i sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth angenrheidiol, ond bob yn dipyn, er mwyn iddyn nhw ymdopi.
Modelau Arferion Da Mae llawer o gyrff llywodraethu Sir Gaerfyrddin wedi dechrau defnyddio cynlluniau i helpu Llywodraethwyr newydd i ddod yn gyfarwydd â’u rôl newydd yn gyflym. Mae rhestr o’r rhain ar gael isod. Cyflwyno Mae’n gallu bod yn anodd cael eich cyflwyno i ddwsin a rhagor o wynebau newydd i gyd ar yr un pryd. Yn lle hynny, fe allech chi ystyried dangos enwau pawb ar ddarnau o gerdyn ar y bwrdd o’u blaen. Neu fe allai bathodynnau enw gael eu defnyddio.
Mentora Cyn gynted ag y caiff Llywodraethwr newydd ei benodi, mae Llywodraethwr profiadol yn cael ei enwi yn gyflym i’w helpu yn y rôl newydd. Mae’r Llywodraethwr profiadol yn gweithredu fel ‘mentor’. Mae’r mentor yn helpu’r Llywodraethwr newydd drwy wneud y canlynol : • Cwrdd â nhw gyda’r cyn cyfarfod cyntaf y corff Llywodraethu, fel bod y Llywodraethwr newydd yn adnabod o leiaf un o’r rhai sy’n bresennol • Mynd drwy’r papurau ar gyfer y cyfarfod cyntaf gyda’r Llywodraethwr newydd, gan dynnu sylw at faterion syff o bwys i’r ysgol a helpu gyda phroblemau fel jargon • Esbonio rheolau’r cyfarfod, fel ‘siarad drwy’r Cadeirydd’
helpu’r Llywodraethwr newydd i weld pa ddiddordebau a medrau a allai fod o gymorth i’r Corff Llywodraethu • Trefnu bod y Llywodraethwr newydd yn cael ei gyflwyno neu ei chyflwyno i aelodau eraill y Corff Llywodraethu cyn eu cyfarfod cyntaf(os oes modd) neu yn ystod y cyfarfod • eistedd gyda’r Llywodraethwr newydd yn ystod eu cyfarfod cyntaf i ateb unrhyw gwestiynau am drefn pethau neu gwestiynau eraill • Trefniadau ffurfiol neu anffurfiol ar gyfer cyfieithu mewn cyfarfodydd dwyieithog
Cyflwyno’n Anffurfiol Pan gaiff y Llywodraethwr newydd ei benodu neu ei phenodi, bydd Cadeirydd yn trefnu bod pob aelod o’r Corff Llywodraethu’n cyrraedd 15 munud cyn dechrau swyddogol y cyfarfod . Awgrymir bod diodydd poeth ac oer yn cael eu cynnig a bod y Cadeirydd yn cyflwyno’r Llywodraethwr newydd i’r aelodau eraill yn unigol. Diddordebau ac eitemau i’r Agenda Cyn cyfarfod cyntaf y Corff Llywodraethu, bydd y Cadeirydd yn chwilio am gyfle i siarad â’r Llywodraethwr newydd am eu diddordebau a’u medrau. Os oes gan y Llywodraethwr newydd bryderon yr hoffen nhw eu codi, bydd y Cadeirydd yn sicrhau bod y rhain yn cael sylw yn yr agenda ar gyfer cyfarfod y Corff Llywodraethu, ac yn ystod y cyfarfod bydd yn gofyn i’r Llywodraethwr newydd siarad am yr eitem pan fydd yn codi ar yr yr agenda.
Y Llywodraethwr Newydd Gwybodaeth a chymorth yn y mis cynta
Bydd Llywodraethwyr newydd am gael gwybod : • beth yw diben y swydd • faint o amser y mae’n mynd i’w gymryd • pa gymorth fydd ar gael • sut i ddod i wybod beth sy’n mynd ymlaen yn yr ysgol Mae cyfarfod â’r Cadeirydd a/neu’r Pennaeth yn gyfle gwych i roi gwybod i’r Llywodraethwr newydd am y pethau hyn, yn ogystal â’r materion cyfredol sy’n effeithio ar yr ysgol. Dylai cyfarfod hwylus ac anffurfiol roi cyfle i’r Llywodraethwr newydd ofyn y cwestiynau syml ond hynod bwysig hynny sy’n angenrheidiol wrth ymgymryd ag unrhyw rôl newydd neu anghyfarwydd.
Yn ystod y mis cyntaf ar ôl cael eu penodi, dylai’r gefnogaeth a’r wybodaeth ganlynol gael eu cynnig i Lywodraethwyr
Y Llywodraethwr Newydd Gwybodaeth a chymorth yn y 3 mis cyntaf
Dylai’r Pennaeth a/neu’r Cadeirydd drefnu i’r Llywodraethwr newydd ymweld a’r ysgol cyn gynted ag y gellir. Bydd hyn yn gyfle i’r Llywodraethwr newydd ddod yn gyfarwydd â’r ysgol a chyfarfod â rhai o’r staff
Cymorth i Lywodraethwyr Mae amrywiaeth o wasanaethau cymorth a deuniadau ysgrifenedig ar gael i lywodraethwyr i’w helpu i gyflawni eu delytswyddau. Dyma restr o rai o rhain: Cynulliad Cenedlaethol Cymru • ‘Canllaw Llywodraethwyr Ysgolion i’r Gyfraith’ • Argaraffiad newydd a gyhoeddwyd yn Ionawr 2001.
Llywodraethwyr Cymru • ‘Llawlyfr Llywodraethwyr Ysgol’ – 3ydd argraffiad a gyhoeddwyd yn haf 2000 • Llinell gymorth 0845 6020100 (cyfradd leol) • Ymwelwch â’r wefan – www.governorswales.org.uk • Swyddogion maes yn cael eu cyflogi i gefnogi Cymdeithasau Llywodraethwyr yn lleol • Cynadleddau i gynyrchiolwyr y Cyndethasau Llywodraethwyr lleol
Uned Cefnogaeth Llywodraethwyr Sir Gaerfyrddin • Yn cefnogi llywodraethwyr yn Sir Gaerfyrddin • Cynhadledd flynyddol i gynrychiolwyr yr holl gyrff llywodraethu yn Sir Gaerfyrddin • Swyddogion Cefnogaeth Llywodraethwyr profiadol ar gael i gefnogi cyrff llywodraethu a llywodraethwyr unigol • Cymorth ar gael dros y ffôn • Rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant llywodraethwyr ar gael pob tymor • Cylchlythyr rheolaidd • Deyniadau cymorth ysgrifenedig
The Governor Support Team Ken Davies Rheolwr yr Uned 01267 224516 Jane Rees Swyddog Gweinyddol 01267 224508 Rhiannydd Jones-Evans Cynorthwy-ydd Gweinyddol 01267 224564 Zara James Cynorthwy-ydd Clercol 01267 224519
Canolfan Ragoriaeth Cymru Gyfan mewn Hyfforddiant ac Ymchwil Llywodraethwyr • Ymchwil ar hyfforddiant llywodraethwyr yng Nghymru • Cyngor, gwybodaeth a cylchlythyrau • Gwasanaethau ymgynghorol