120 likes | 370 Views
Astudio’r Cyfryngau. Nod y Tymor. Gwaith Cwrs MS2 Adolygu Cynrychiolaeth Adolygu Ymatebion Cynulleidfa Ymarfer cwestiynau MS1. Nod y Wers…. Archwilio ymatebion cynulleidfaoedd Deall sut i ddisgrifio cynulleidfaoedd e.e grwpiau ACORN Deall sut mae’r cyfryngau yn llunio cynulleidfaoedd
E N D
Nod y Tymor • Gwaith Cwrs MS2 • Adolygu Cynrychiolaeth • Adolygu Ymatebion Cynulleidfa • Ymarfer cwestiynau MS1
Nod y Wers… • Archwilio ymatebion cynulleidfaoedd • Deall sut i ddisgrifio cynulleidfaoedd e.e grwpiau ACORN • Deall sut mae’r cyfryngau yn llunio cynulleidfaoedd • Deall sut mae’r cyfryngau yn lleoli cynulleidfaoedd • Adolygu theorïau effeithiau e.e.Maslow, Hall
Disgrifio Cynulleidfa: • Rhyw • Oed • Ethnigrwydd • Dosbarth cymdeithasol • Cefndir diwylliannol • Cynulleidfa goddefol/gweithredol • Cynulleidfa cynradd, eilaidd, amgen • Grŵp ‘ACORN’
Tasg: Yn defnyddio eich nodiadau disgrifiwch brif gynulleidfa:
Theori Hierarchiaeth AnghenionMaslow (1943) “Awgrymodd Maslow fod ymddygiad dynol yn canolbwyntio ar ddiwallu rhai mathau sylfaenol o anghenion. Er enhraiff yr angen i oroesi neu yr angen i berthyn.”
Tasg: Edrychwch ar y ddau glawr cylchgrawn a gyda phartner trafodwch pa rai o’r anghenion dynol sy’n cael eu diwallu yn ôl Maslow?
MS1: Theorïau Effeithiau… • Defnyddiau a Boddhad (Blumler a Katz 1975) • Anghenion y Gynulleidfa (Maslow 1943) • Nodwydd Hypodermig • Brechu • Llif dau gam • Lleoli Cynulleidfa (Stuart Hall 1973)
Lleoli Cynulleidfa (Stuart Hall 1973) “Ystyr lleoli yw bod y gynulleidfa yn creu safbwynt yn seiliedig ar y negeseuon mae’n darllen o’r testun. Mae’r lleoli yma yn dibynnu’n fawr ar gefndir cymdeithasol a diwylliannol y gynulleidfa.” • Darlleniad Ffafriol – Cytuno a’r negeseuon • Darlleniad sy’n Gwrthwynebu – Gwrthdaro • Darlleniad a Drafodir – Cytuno/anghytuno Tasg: Trafodwch gyda phartner yn defnyddio’r un dau glawr cylchgrawn ddau ymateb gan ddau gynulleidfa wahanol. Cofiwch ystyried y canlynol: • Dulliau cyfarch • Llinellau’r clawr • Iaith • Cynrychiolaeth • Yr ‘Arsylliad’
Llunio Cynulleidfa Gwenud tybiaeth (assumptions) am ffordd o fyw a diddorbebau cynulleidfa. Er enghraifft proffil darllenwyr ‘Men’s Health’ yw: • 20au hwyr/30au cynnar • ABC1 • Hunan hyderus, agored ei feddwl, llwyddiannus, anturus • Wedi gwneud yn dda yn ei yrfa • Gwerthfawrogi ansawdd a phethau cain
Gwaith Cartref: Ymarfer cwestiwn arholiad MS1: Cynulleidfa “Sut mae’r un testun cyfryngol yn denu amrywiaeth o wahanol ymatebion cynulleidfa? Cyfeiriwch at eich enghreifftiau manwl eich hun.”(30 marc) • 35-40 munud • 2/3 enghraifft wahanol o destunau a astudiwyd yn y dosbarth • Trafod y ffyrdd gwahanol y gellir ‘darllen’ testun gan wahanol gynulleidfaoedd • Y gwahanol ffyrdd y gellir disgrifio cynulleidfa • Sut mae testunau yn llunio ac yn lleoli cynulleidfa • Sut mae cynulleidfa yn ymateb, defnyddio a dehongli testunau • Sut gall gwahanol gynulleidfaoedd ymateb i’r un testun a sut gellir dadansoddi’r dehongliad yma • Materion sy’n gysylltiedig ag astudio cynulleidfa • Theoriau perthnasol
Trafodwch… • Enwch ddau gynulleidfa gwahanol (prif gynulleidfa ag amgen) ar gyfer y ddau destun? • Sut mae cynulleidfaoedd yn cael eu denu at y testun? • Beth sy’n effeithio’r ffordd y mae gwahanol gynulleidfaoedd yn ymateb i destunau? • Enwch ddau ffordd gall dau gynulleidfa ymateb i’r un testun? • Sut mae’r testunau yn lleoli a llunio cynulleidfaoedd? • Pa theoriau gall helpu i ddeall ymatebion cynulleidfaoedd?