200 likes | 383 Views
Dewiswch ddelwedd i’w gweld trwy glicio arni. J’Y SUIS – J’Y RESTE. Wedi i chi astudio’r posteri hyn cliciwch y botwm isod. Astudiaeth gymharol. Taflenni Gwaith. J’Y SUIS – J’Y RESTE. Cartŵn o Brydain o’r cylchgrawn Punch , 1923. Poster o’r Almaen o’r flwyddyn 1923.
E N D
Dewiswch ddelwedd i’w gweld trwy glicio arni J’Y SUIS – J’Y RESTE Wedi i chi astudio’r posteri hyn cliciwch y botwm isod Astudiaeth gymharol Taflenni Gwaith
J’Y SUIS – J’Y RESTE Cartŵn o Brydain o’r cylchgrawn Punch, 1923. Poster o’r Almaen o’r flwyddyn 1923.
Nawr, cliciwch ar y rhannau o’r poster rydych am wybod mwy yn eu cylch.
Defnyddir menywod yn aml i gynrychioli gwledydd. Ffrainc yw’r wlad sy’n cael ei chynrychioli yma. Sut mae’n cael ei phortreadu? Beth sydd ganddi yn ei llaw? Beth yw arwyddocâd y pethau hynny?
Pa fath o adeiladau sydd i’w gweld yma? Beth sy’n digwydd i’r adeiladau? Yn eich barn chi, pa mor bwysig oedd yr adeiladau hyn i’r Almaen wedi’r rhyfel? Beth, o bosib, mae’r helm filwrol yn ei gynrychioli?
Mae’r capsiwn yn dweud - ‘Gadwch lonydd i’r Ruhr!’ Beth yn eich barn chi yw’r Ruhr ac i bwy rydych chi’n credu y mae’n perthyn?
J’Y SUIS – J’Y RESTE Beth sydd i’w weld yma?
J’Y SUIS – J’Y RESTE Beth sydd i’w weld yma? Nawr, cliciwch ar y rhannau o’r poster rydych am wybod mwy yn eu cylch.
J’Y SUIS – J’Y RESTE Yma yr ydwyf – Yma rwy’n aros Pa mor benderfynol yw’r fenyw i aros ble mae? Sut rydych yn gwybod hynny?
Pwy yn eich barn chi mae’r fenyw hon yn ei gynrychioli? Beth wnaeth eich helpu i benderfynu?
Ble mae ardal y Ruhr? http://en.wikipedia.org/wiki/Ruhr_area Beth yw ystyr y term blockade? Pwy sy’n defnyddio ‘blockade’ a pham y gallent fod yn gwneud hynny?
Ar beth mae’r fenyw yn eistedd? A yw hynny’n rhoi cliw i chi am yr hyn a wnaeth yr ardal hon yn enwog?
J’Y SUIS – J’Y RESTE O Brydain y daw y cartŵn ar y chwith ac o’r Almaen y daw y poster ar y dde. Pam, yn eich barn chi, maent yn rhoi dehongliadau gwahanol o oresgyniad a meddiannaeth y Ruhr gan Ffrainc?
Here I Am – Here I Stay Edrychwch eto ar y cartŵn o Brydain. Yn ôl y ffynhonnell hon, pa mor llwyddiannus a pha mor gyfiawn oedd y goresgyniad? Cliw: Sylwch ar yr edrychiad, yr osgo, y teitl, yr amddiffynfeydd….
J’Y SUIS – J’Y RESTE Hands Off The Ruhr ! Edrychwch eto ar y poster o’r Almaen. Yn ôl y ffynhonnell hon, pa mor llwyddiannus a pha mor gyfiawn oedd y goresgyniad? Cliw: Sylwch ar yr edrychiad, y cymeriad, y teitl….
J’Y SUIS – J’Y RESTE Yn eich barn chi, pa ddehongliad o’r digwyddiad hwn yw’r cywiraf? Eglurwch eich ateb yn ofalus.
Nawr bydd angen i chi ddarllen a chwblhau tudalen 1 o’r daflen waith:Y Ruhr a’r Gorchwyddiant Amcanion y Wers Dod i wybod pa effaith a gafodd goresgyniad y Ruhr ar Weriniaeth Weimar.
Pa mor bwysig, yn eich barn chi, oedd ardal y Ruhr? Pam hynny? Beth sy’n digwydd yn y ffynhonnell hon?
Pa mor bwysig, yn eich barn chi, oedd ardal y Ruhr? Pam hynny? Beth sydd i’w weld yma?