140 likes | 645 Views
Diwali. Mae Diwali yn ŵyl Indiaidd hen iawn. Mae Diwali’n parhau am bum niwrnod Ystyr Diwali yw rhes o lampau Gelwir Diwali hefyd yn Ŵ yl y Goleuadau. Y diwrnod cyntaf.
E N D
Mae Diwali yn ŵyl Indiaidd hen iawn. • Mae Diwali’n parhau am bum niwrnod • Ystyr Diwali yw rhes o lampau • Gelwir Diwali hefyd yn Ŵyl y Goleuadau.
Y diwrnod cyntaf • Ar y diwrnod cyntaf, mae pobl yn glanhau blaenau eu tai ac yn creu patrymau prydferth ar y llawr o’r enw ‘rangoli’ gan ddefnyddio powdrau lliwgar. Paratoir bwyd a chaiff y lampau olew eu cynnau.
Yr ail ddiwrnod • Ar yr ail ddiwrnod, mae pobl yn cael bath olew ac yna’n cynnau lampau yn y nos a llosgi clecars.
Y trydydd diwrnod • Ar y trydydd diwrnod, mae pobl yn addoli Lakshmi, Duwies Cyfoeth. Mae busnesau’n gobeithio y bydd Lakshmi yn dod â lwc iddynt yn y flwyddyn i ddod.
Y pedwerydd diwrnod • Ar y pedwerydd diwrnod, mae pobl yn dathlu’r Duw Krishna. Mewn rhai rhannau o India, dethlir y pedwerydd diwrnod hefyd fel Annakoot sy’n golygu mynydd o fwyd. Y rheswm am hyn yw bod rhoddion bwyd yn cael eu rhoi i’r Duwiau ar siâp mynydd mewn pentwr o’u blaenau.
Y pumed diwrnod • Ar y pumed diwrnod, mae brodyr a chwiorydd yn dod ynghyd am bryd o fwyd mawr. Mae pob brawd yn cyflwyno anrheg i’w chwiorydd.