80 likes | 287 Views
CYFRESIAETH TECHNEG 12 TÔN. Mae pob darn o gerddoriaeth 12 tôn yn seiliedig ar raddfa (a elwir yn 'rhes o nodau' neu'n 'gyfres sylfaenol') wedi'i dylunio'n arbennig ar gyfer y darn hwnnw o gerddoriaeth.
E N D
Mae pob darn o gerddoriaeth 12 tôn yn seiliedig ar raddfa (a elwir yn 'rhes o nodau' neu'n 'gyfres sylfaenol') wedi'i dylunio'n arbennig ar gyfer y darn hwnnw o gerddoriaeth. • Rhaid i'r raddfa gynnwys 12 o nodau gwahanol (nodau o'r raddfa gromatig), a dylid defnyddo pob nodyn unwaith yn unig.
Dewisir trefn arbennig ar gyfer y nodau - 'P' (ar gyfer 'prif drefn')
Yna caiff y rhes o nodau ei hysgrifennu am yn ôl - 'O' (am 'ôl-redol') P O
Yna caiff 'P' ei throi wyneb i waered - 'G' (am 'gwrthdro') P G
Caiff nodau 'G' eu hysgrifennu am yn ôl - 'GO' (am 'gwrthdro ôl-redol') G GO
Gellir trawsgyweirio pob nodyn yn y rhes wythfed i fyny neu i lawr. • Gellir trawsgyweirio (codi neu ostwng traw) pob un o'r pedair ffurf yn y gyfres, fel eu bod yn dechrau ar unrhyw un o 12 nodyn y raddfa gromatig - P1 i P11 (ar gyfer 'Prif'). • Gellir trin y rhes a'i hamrywiadau'n alawol ac yn harmonig (cordiau wedi'u hadeiladu o'r rhes).
CYFANSODDI - TASG UNIGOL • Dewiswch un nodyn ar y tro i greu eich rhes o nodau (P), gan feddwl yn ofalus am y cyfyngau rhwng y naill nodyn a'r nesaf. Gweler y daflen waith am gyfarwyddiadau eraill