50 likes | 219 Views
Sut mae ennill neu golli ras 200m?. Techneg gwibio. Beth sydd ei angen i fod yn rhedwr 200m effeithiol?. Po fyrraf yw’r amser ymateb, y cyflymaf yw'r gwibiwr. Bod y cyntaf allan o’r blociau. Rhedeg gyflymaf yn y 100m olaf. Bethan. Sarah. Alun. Jack. Rwy’n credu.
E N D
Sut mae ennill neu golli ras 200m? Techneg gwibio
Beth sydd ei angen i fod yn rhedwr 200m effeithiol? Po fyrraf yw’r amser ymateb, y cyflymaf yw'r gwibiwr. Bod y cyntaf allan o’r blociau. Rhedeg gyflymaf yn y 100m olaf. Bethan Sarah Alun Jack Rwy’n credu . . . Cyrraedd y cyflymder uchaf cyn gynted â phosibl. Cynnal y cyflymder uchaf am y ras gyfan. Rhedeg gyflymaf yn y 100m cyntaf. Jenny Gethin
Cynllunio • Gyda pha ddamcaniaeth rydych chi’n cytuno fwyaf? Pam? • Gyda pha un rydych chi’n cytuno leiaf? Pam? • Beth yw eich damcaniaeth chi? O ble y cawsoch chi y syniadau hyn? • Sut y gallech chi brofi eich damcaniaeth? • Pa ddata y byddwch chi’n ei ystyried? Pam rydych chi wedi dewis hyn? • Beth rydych chi’n disgwyl ei ganfod? Pam eich bod chi’n credu hynny? • Pa gyfrifiadau y byddwch chi’n eu gwneud? • Sut y byddwch chi’n cofnodi eich canfyddiadau?
Adolygu • Pam bod yr amser ymateb yn cael ei fesur fesul milfed eiliad? • Pam bod yr amseroedd gorffen yn cael eu cofnodi i ddau le degol? • Sut mae’r data rydych chi wedi ei ddefnyddio yn cefnogi neu’n gwrthddweud eich damcaniaeth? • Pa mor siŵr rydych chi am y casgliad a luniwyd gennych chi? • Sut y gallech chi brofi dilysrwydd eich casgliad? • Pa mor bwysig yw’r amser ymateb o’i gymharu â’r amser gorffen ar ddiwedd y ras? Sut rydych chi’n gwybod hyn? • Pa ffracsiwn neu ganran o’r amser gorffen a gynrychiolir gan yr amser ymateb? • A yw’r amser ymateb yn bwysicach dros bellter penodol? Pam eich bod chi’n credu hynny? Sut y gallech chi gadarnhau hyn?
Adolygu • Pam bod yr amser ymateb yn cael ei fesur fesul milfed eiliad? • Pam bod yr amseroedd gorffen yn cael eu cofnodi i ddau le degol? • Sut mae’r data rydych chi wedi ei ddefnyddio yn cefnogi neu’n gwrthddweud eich damcaniaeth? • Pa mor siŵr rydych chi am y casgliad a luniwyd gennych chi? • Sut y gallech chi brofi dilysrwydd eich casgliad? • Pa mor bwysig yw’r cyflymder uchaf o’i gymharu â’r amser gorffen ar ddiwedd y ras? Sut rydych chi’n gwybod hyn? • A yw’r un ‘patrwm cyflymder’ i’w weld ar gyfer pellteroedd gwibio eraill? Sut rydych chi’n gwybod hyn? • A yw’r ‘patrwm cyflymder’ yn bwysicach dros bellter penodol? Pam eich bod chi’n credu hynny? Sut y gallech chi gadarnhau hyn?