E N D
Mab i ffyriwr oedd Thomas Barnado, ac fe’i anwyd yn Nulyn, Iweddron ar 4 Gorffennaf 1845. Gweithiodd fel clerc nes iddo gael troedigaeth yn 1862. Wedi cyfnod o bregethu yn slymiau Dulyn, symudodd Barnado i Lundain i astudio meddygaeth. Ei fwriad oedd bod yn genhadwr yn China.
Pan oedd yn fyfyriwr yn Ysbyty Llundain, agorodd Barnardo ysgol i’r tlodion yn Stepney, a sefydlodd gyfarfodydd ‘Band of Hope’ i’r plant. Cyn hir daeth Barnardo i ddeall pa mor dlawd a difreintiedig oedd bywyd plant Llundain.
Roedd Barnardo yn siaradwr gwych, a darlithiodd ar broblem plant tlawd mewn cynhadledd i genhadon yn 1867. Roedd yr Arglwydd Shaftesbury yn y gynulleidfa ac fe gafodd y ddarlith cymaint o effaith arno fel y cynigiodd helpu Barnardo i sefydlu cartrefi ar gyfer y plant tlawd hyn.
Cytunodd y banciwr Robert Barclay hefyd i helpu. Ar 2 Mawrth, 1868 cododd Barnado ddigon o arian i agor ei gartref cyntaf i blant tlawd digartref.
Cartref Bechgyn Stepney Pan oedd Thomas Barnardo yn 25, agoredd gartref mawr yn Nwyrain Llundain, 18 Stepney Causeway, a’i wneud yn addas ar gyfer 25 o fechgyn i fyw yno. Roedd e’n awyddus i beidio a chymryd mwy o fechgyn nag oedd e’n gallu gofalu amdanyn nhw. Ond newidiodd un digwyddiad ei feddwl.
Un noson, daeth John Somers, Carrots roedd pawb yn ei alw, bachgen 11oed at ddrws y ty. Plediodd ar i Barnardo ei adael i mewn. Roedd e wedi cael bywyd caled ar y strydoedd ers oedd e’n 7oed. Doedd dim lle yn y ty, ond rhoddodd Barnardo arian iddo a bwyd a diod. Yn ddiweddarch, daeth rhywun o hyd i Carrots wedi marw o achos oerfel a newyn. Roedd Barnardo yn torri ei galon, ac yn beio ei hun am farwolaeth Carrots. Gosododd arwydd y tu allan i’r cartref
Does dim un merchnabachgendigartrefyncaeleidroio’rneilltu Penderfynodd Barnardo na fyddai byth eto yn troi plentyn digartref i o’r neilltu. Yn wir, ar dair noson bob wythnos byddai’n mynd o gwmpas Dwyrain Llundain yn chwilio am blant oedd yn cysgu yn yr awyr agored, ac yn eu perswadio i ddod i fyw yn ei gartref.
Byddai diwrnod y bechgyn yn dechrau’r gynnar. I ddechrau bydden nhw’n gwneud eu gwelyau, golchi’u dillad a glanahu. Ar ol hyn byddai gwersi. Yn y prynhawn bydden nhw’n dysgu sgiliau gwerthfawr a defnyddiol fel gwaith coed, gwneud esgidiau ac argraffu. Pan fyddai bachgen yn 16 oed, ac yn barod i adael y cartref, bydden nhw’n cael mynd fel prentisiaid i fasnachwyr fel eu bod yn gallu ennill arian mewn ffordd ddefnyddiol.
Yn 1874 agordd Dr Barnardo Adran Ffotograffig yng Nghartref Stepneu. Dros y 30 mlynedd nesaf cafodd pob un a fu yng nghartrefi Barnado eu lluniau wedi’u tynnu. Ar ol ychydig fisoedd byddai’r plant yn cael eu llun wedi’i dynnu eto, er mwyn dangos y gwahaniaeth.
Byddai Barnardo yn gwerthu’r lluniau ‘Cyn ac Ar ol’ mewn pecynnau. Roedd hyn yn ffordd o ennill cyhoeddusrwydd i’w gartrefi.
Erbyn 1878 roedd hanner cant o gartrefi plan yn Llundain, gan gynnwys Cartref Pentref yn Ilford, Essex ar gyfer merched. Roedd hwn yn gymuned gyfan, gyda 70 o fythynod, eglwys ac roedd dros 1,000 o blant yn byw yno.
Datblygodd Barnardo gynllun ar gyfer anfon plant i Ganada. Rhwng1882 a 1901 anfonodd 8,046 o blant. Ystyr hyn oedd bod un rhan o dair o un y cant o boblogaeth Canada wedi dod o un o gartrefi Barnado.
Pan bu farw Thomas Barnardo ar 19 Medi, 1905, roedd bron 8,000 o blant yn ei gartrefi. Roedd mwy na 4,000 yn byw allan, ac roedd 18,000 wedi’u gyrru i Canada ac Awstralia.