10 likes | 221 Views
Olew clofau. Ein profiad ni yn “Datgelu Cyfrinachau Cemegol”.
E N D
Olew clofau Ein profiad ni yn “Datgelu Cyfrinachau Cemegol” Datblygwyd y gweithdy yma gan Brifysgol Caerdydd a Techniquest er mwyn cyflwyno’r dulliau mae cemegwyr yn eu defnyddio i ynysu ac adnabod cyfansoddion cemegol. Mae’r enghreifftiau sy’n cael eu dewis yn berthnasol i’r cwricwlwm A2 Cemeg ac mae’r gweithgareddau yn cynnwys cyfle i ynysu’r sylweddau naturiol sy’n bwysig wrth greu blas ac aroglau mewn ffrwythau a deunydd planhigol arall. Mi gawsom gyfle i ddefnyddio offer labordy i ynysu ein samplau ein hunain ac i gynnal profion cyffredin arnynt. Roedd yn gyflwyniad arbennig o dda i’r cemeg organig y byddwn yn ei astudio eleni. Buom ar daith o amgylch yr Ysgol Gemeg yn y prynhawn a gwelsom y sbectromedrau modern a soffistigedig sy’n caniatau mesuriadau manwl o burdeb ac astudiaeth o adeileddau a phriodweddau cemegol. Gwelsom ychydig o ‘wyddoniaeth Hollywood’ yn dangos bod rhai meddyginiaethau pwysig yn cael eu hechdynnu o sylweddau naturiol a bod ‘olew clofau’ yn effeithiol iawn wrth leddfu poen dannoedd. Mi wnaethom echdynnu limonen o orennau a lemonau, menthon o bupur-fintys ac ewgenol o flagur clofau. Mae Limonen yn bresennol mewn orennau a lemonau ond mae ffurf arall ohono (sy’n arogli ac yn blasu yn gwbl wahanol) mewn sber-fintys. Mae Ewgenol mewn olew clofau. Mi wnaethom gynnal profion cemegol syml ar ein hechdynion a gwelsom yn hwyrach sut y gallwn ddefnyddio sbectrosgopeg i ddadansoddi’n samplau yn fanwl iawn. Mae gan Adran Gemeg Prifysgol Caerdydd sbectromedrau sydd werth cannoedd o filoedd o bunnoedd a gall y peiriannau hyn ddadansoddi samplau microsgopig gan roi bob math o wybodaeth ddefnyddiol. Cawsom gyfle i ddadansoddi sampl mewn sbectromedr is-goch. Mae gan sbectrosgopeg nifer o ddefnyddiau pwysig a defnyddir sbectromedrau bob dydd mewn gwaith ymchwil, diwydiant a meddygaeth. Mae sawl gwahanol math o sbectrosgopeg a phob un yn cynnig gwahanol wybodaeth am y cyfansoddyn sy’n cael ei ddadansoddi. Mae’r cyffur Paclitaxel yn cael ei ddefnyddio i drin canser. Cafodd ei ddarganfod ym 1967 ar ôl i gemegwyr ynysu’r cyfansoddyn o risgl coeden ‘Ywen y Môr Tawel’, cyn adnabod ei weithgaredd gwrth-diwmor. Dyma’r dulliau cyntaf a ddefnyddir gan gemegwyr ar gyfer adnabod cyfansoddion, mesur eu purdeb ac astudio’u priodweddau. Mae technegau sbectroscopeg yn allweddol bwysig ym mhob agwedd o gemeg, bioleg a ffiseg ac mewn meysydd megis meddygaeth, fferylliaeth, gwyddoniaeth fforensig, gwyddoniaeth amgylcheddol ac yn y blaen – ble bynnag a phryd bynnag mae angen adnabod cyfansoddyn cemegol neu ei burdeb. a. Mae’r holl gemegion a ddefnyddir ym mhob diwydiant – mwyngloddio, trafnidiaeth, peirianneg, bwyd, electroneg, tecstiliau, cosmetigion ac yn y blaen – yn ddibynnol ar sbectrosgopeg o ryw fath neu gilydd. Mae datblygiad dulliau sbectrosgopeg newydd neu well yn faes o ymchwil sylweddol mewn cemeg modern. b. a. Sbectromedr NMR 400MHz b. Sbectromedr mas manylder uchel Ysgol Gyfun Bro Morgannwg c. Cromatograffaeth hylif (HPLC) a spectromedr mas c.