1 / 9

ANSODDAIR DANGOSOL

ANSODDAIR DANGOSOL. Beth yw ANSODDAIR DANGOSOL?. Ystyriwch beth yw safle’r ansoddair yn y Gymraeg. Mae’n dod AR ÔL yr enw e.e. bachgen tal merch osgeiddig aderyn hardd disgyblion gweithgar dosbarth lliwgar llyfr diflas.

leala
Download Presentation

ANSODDAIR DANGOSOL

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. ANSODDAIR DANGOSOL

  2. Beth yw ANSODDAIR DANGOSOL? Ystyriwch beth yw safle’r ansoddair yn y Gymraeg. Mae’n dod AR ÔL yr enw e.e. bachgen tal merch osgeiddig aderyn hardd disgyblion gweithgar dosbarth lliwgar llyfr diflas

  3. Mae ANSODDAIR DANGOSOL hefyd yn dod ar ôl enw. Maen nhw’n cael eu defnyddio i ddangos rhywbeth. Yr ansoddeiriau dangosol yw: hwn hon hwnnw honno hyn hynny

  4. HWN, HON a HYN Rydym yn defnyddio ‘hwn’, ‘hon’ a ‘hyn’ pan fo’r hyn sy’n cael ei ddangos o fewn ein golwg e.e. Y bachgen hwn yw’r gwaethaf yn y dosbarth! Y ferch hon enillodd y wobr. Y plant hyn wnaeth y murlun.

  5. HWNNW, HONNO a HYNNY Rydym yn defnyddio rhain pan nad yw’r hyn sy’n cael ei ddisgrifio o fewn ein golwg e.e. Roedd y bachgen hwnnw’n ddigywilydd. Mae’r ferch honno’n byw yn Ninbych. Y disgyblion hynny oedd y gorau.

  6. Gwallau cyffredin Y gwall mwyaf cyffredin gydag ansoddair dangosol yw defnyddio ansoddair dangosol gwrywaidd gydag enw benywaidd e.e. Mae’r flwyddyn hwn yn hedfan heibio! Ansoddair dangosol gwrywaidd Enw benywaidd Rhaid cael ansoddair dangosol benywaidd gydag enw benywaidd

  7. Ble mae’r gwallau? • Mae’r llyfgell hwn yn un dda. • Roedd y gath hwn yn sâl ddoe. • Mae’r goeden hwn yn drwch o ddail. • Bu’r flwyddyn hwn yn llwyddiannus iawn. • Mae’r côr hon yn canu’n ardderchog. • Roedd yr athro hon yn byw yn Ninbych. • Mae’r cyfrifiadur hon yn gyflym iawn. • Mae’r llun hon yn lliwgar iawn.

  8. Mae’r llyfgell hwn yn un dda. • Roedd y gath hwn yn sâl ddoe. • Mae’r goeden hwn yn drwch o ddail. • Bu’r flwyddyn hwn yn llwyddiannus iawn. • Mae’r côr hon yn canu’n ardderchog. • Roedd yr athro hon yn byw yn Ninbych. • Mae’r cyfrifiadur hon yn gyflym iawn. • Mae’r llun hon yn lliwgar iawn.

  9. Atebion Naill ai Angen ansoddair dangosol benywaidd gydag enw benywadd neu Angen ansoddair dangosol gwrywaidd gydag enw gwrywaidd

More Related