130 likes | 441 Views
RHAGENW DANGOSOL. Rydym eises wedi dysgu am yr ansoddair dangosol, sef y geiriau HWN, HON, HWNNW, HONNO, HYNNY, RHAIN. Mae’r geiriau hyn hefyd yn RAGENWAU DANGOSOL. Mae RHAGENW DANGOSOL yn gwneud yn lle’r enw e.e. HON yw’r ferch waethaf yn hytrach na dweud Carys yw’r ferch waethaf.
E N D
Rydym eises wedi dysgu am yr ansoddair dangosol, sef y geiriau HWN, HON, HWNNW, HONNO, HYNNY, RHAIN. Mae’r geiriau hyn hefyd yn RAGENWAU DANGOSOL. Mae RHAGENW DANGOSOL yn gwneud yn lle’r enw e.e. HON yw’r ferch waethaf yn hytrach na dweud Carys yw’r ferch waethaf
Gwahaniaethu rhwng ansoddair dangosol a rhagenw dangosol… Er mwyn gwahaniaethu, mae’n holl bwysig cofio ble mae’r ANSODDAIR yn cael ei roi yn y Gymraeg, sef AR ÔL yr enw e.e. y ferch hon, y bachgen hwnnw, y plant hynny, y dosbarth hwn Mae pob enghraifft uchod ar ôl yr enw, ac felly ANSODDAIR DANGOSOL ydyn nhw.
Beth am y rhagenw dangosol? Bydd RHAGENW DANGOSOL yn gwneud yn lle yr enw. Fydd o ddim yn dilyn yr enw e.e. Hwn yw’r gwaethaf; Hon sy’n dda; Rhain yw’r gorau; hwnnw enillodd Dydy rhain ddim yn dilyn enw, mae pob un ohonynt yn gwneud yn lle enw, ac felly RHAGENWAU DANGOSOL ydyn nhw.
Ydych chi’n gallu gwahaniaethu? Hon yw’r flwyddyn orau - rhagenw dangosol Y ferch hon enillodd - ansoddair dangosol Y bachgen hwn yw’r gorau - ansoddair dangosol Hwn yw’r talaf - rhagenw dangosol Y nofel hon yw’r gorau - ansoddair dangosol Hwn yw’r gwin mwyaf blasus- rhagenw dangosol Honno oedd yn y ffreutur - rhagenw dangosol Y cyfrifiadur hwn - ansoddair dangool Hon yw’r gân - rhagenw dangosl Hwnnw oedd yr un - rhagenw dangosol
Pa wallau sy’n gyffredin? Y gwall cyffredin yw defnyddio’r rhagenw dangosol benywaidd wrth gyfeirio at rywbeth gwrywaidd, neu ddefnyddio rhagenw dangosol gwrywaidd wrth gyfeirio at rhywbeth benywaidd e.e. Hwn yw’r flwyddyn orau Cywiriad: – Hon yw’r flwyddyn orau Esboniad Angen rhagenw dangosol benywaidd wrh gyfeirio at enw benywaidd
Esboniwch y gwallau? Hwn yw’r gath a oedd ar goll. Hon oedd y gwaith gorau. Hon yw’r dosbarth gwaethaf. Hwn yw’r nofel ddiweddaraf. Hon yw’r llun drytaf yn yr Oriel. Hwn oedd y ddarlith mwyaf diddorol. Hwn yw’r wers anoddaf.
Ble mae’r gwallau yn y brawddegau canlynol. Cywirwch yn ôl y drefn arferol gan lunio tair colofn. • Hwn yw’r blwyddyn mwyaf da. [3] • Mae’r cath hwn yn marwaidd iawn. [3] • Mae’r gwin hon yn blasus. [2] • Mae’r gyfrifiadur hon yn cyflym. [3] • Hon yw’r dosbarth mwyaf drwg. [2]