1 / 16

Creu getoau

Creu getoau. a'r dull o drin yr Iddewon yn yr Almaen 1933-45. Gan Des Quinn a Martin Williams. Beth ydych chi’n meddwl sy’n digwydd yn y llun hwn? Pwy yw’r bobl hyn a ble maen nhw? Cliw: Edrychwch ar uchder y wal a beth sydd arni. Llun trwy garedigrwydd Des Quinn.

lola
Download Presentation

Creu getoau

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Creu getoau a'r dull o drin yr Iddewon yn yr Almaen 1933-45 Gan Des Quinn a Martin Williams

  2. Beth ydych chi’n meddwl sy’n digwydd yn y llun hwn? Pwy yw’r bobl hyn a ble maen nhw? Cliw: Edrychwch ar uchder y wal a beth sydd arni. Llun trwy garedigrwydd Des Quinn

  3. Disgrifiwch gyflwr y plant hyn y tu mewn i’r geto. Llun trwy garedigrwydd Des Quinn Yn seiliedig ar y ddau lun rydych chi wedi’u gweld trafodwch pa fath o fywyd oedd y tu mewn i’r geto yma.

  4. Allwch chi ddyfalu ym mha iaith yr ysgrifenwyd yr arwydd a welir yn y ffenest? Llun trwy garedigrwydd Des Quinn Trafodwch ble rydych chi’n meddwl y lleolwyd y geto hwn. Rhowch resymau clir dros eich ateb.

  5. Llun trwy garedigrwydd Des Quinn Beth oedd enw’r geto yr anfonwyd y cerdyn hwn ohono? Fel mae’r marc swyddogol ar y cerdyn yn dangos ni chyrhaeddodd y cerdyn post yma fyth pen ei daith. Beth ydych chi’n meddwl yw ystyr ‘Unzulassig’?

  6. Llun trwy garedigrwydd Des Quinn Beth oedd enw’r geto yr anfonwyd y cerdyn hwn ohono? Fel mae’r marc swyddogol ar y cerdyn yn dangos ni chyrhaeddodd y cerdyn post yma fyth pen ei daith. Beth ydych chi’n meddwl yw ystyr ‘Unzulassig’? Gwaharddedig

  7. Llun trwy garedigrwydd Des Quinn Beth ydych chi’n meddwl mae’r swyddog Almaenig hwn yn dweud wrth yr Iddew?

  8. Llun trwy garedigrwydd Des Quinn Beth ydych chi’n meddwl sy’n mynd trwy feddwl yr Iddew hwn?

  9. Beth ydych chi’n dychmygu mae’r Swyddog Almaenig hwn yn ei gynllunio? At beth y gallai fod yn cyfeirio? Llun trwy garedigrwydd Des Quinn

  10. Disgrifiwch gyflwr y rhan hon o’r geto. Beth yn ôl pob golwg sy’n digwydd? Llun trwy garedigrwydd Des Quinn

  11. Mae’r bobl hyn wedi eu casglu ynghyd ac maen nhw’n cael eu gorfodi i orymdeithio allan o’r geto. Ydy hyn yn cadarnhau’r ateb a roddwyd gennych i’r cwestiwn ar y sleid flaenorol? Llun trwy garedigrwydd Des Quinn

  12. Llun trwy garedigrwydd Des Quinn Nid yw’n ymddangos fel petai llawer o’r dynion hyn yn filwyr Almaenig rheolaidd. Yng nghyd-destun yr hyn rydych chi’n ei astudio beth ydych chi’n credu oedd eu gwaith nhw?

  13. Beth sy’n dynodi yn y llun mai Iddewon yw’r bobl sy’n cael eu cludo ar y trên hwn? Llun trwy garedigrwydd Des Quinn Gallai’r bobl hyn fod yn cyrraedd y geto. Er hynny, os oedd y geto wedi cael ei ddifodi/losgi ble fydden nhw’n debygol o gael eu cludo nesaf?

  14. Diwedd y gân i filiynau o Iddewon oedd y gwersylloedd crynhoi lle roedd yn rhaid iddynt weithio, gan wneud eitemau yn aml a fyddai o fudd i beiriant rhyfel yr Almaen. Llun trwy garedigrwydd Des Quinn Gorfodwyd Iddewon i ildio eu heiddo a gwisgo bathodynnau adnabod a rhwymynnau breichiau. Roedd y rhwymyn braich uchod yn eiddo i weithiwr yn un o’r gwersylloedd mwyaf a grëwyd gan y Natsïaid ar ôl 1939. Allwch chi ddyfalu pa wersyll oedd hwn?

  15. Buna oedd yr is-wersyll mwyaf o fewn cyfadeilad Auschwitz. Erbyn 1944 roedd 10,000 o garcharorion yn y gwersyll ac fe’u rhoddwyd i weithio gan yr S.S. Iddewon oedd y mwyafrif o’r gweithwyr a bu farw llawer o newyn, o gael eu gorfodi i or-weithio, neu oherwydd iddynt gael eu dienyddio. Llun trwy garedigrwydd Des Quinn

  16. Faint ydych chi’n gallu cofio am y getoau a grëwyd gan y Natsïaid? Dwyn i gof DIWEDD

More Related