290 likes | 495 Views
Y MARATHON. Mae ras y marathon rydym ni yn gyfarwydd ag ef yn tarddu o’r stori am y milwr Groegaidd o’r enw Pheidippides. Mae’r hanes yn dweud i Pheidippides redeg ar draws yr paith Marathon i ddod a neges i Athen fod y fyddin Groegaidd wedi goroesi yn erbyn byddin y Persiaid.
E N D
Mae ras y marathon rydym ni yn gyfarwydd ag ef yn tarddu o’r stori am y milwr Groegaidd o’r enw Pheidippides. Mae’r hanes yn dweud i Pheidippides redeg ar draws yr paith Marathon i ddod a neges i Athen fod y fyddin Groegaidd wedi goroesi yn erbyn byddin y Persiaid.
Pan gyrhaeddodd Athen fe wnaeth Pheidippides ddweud "Rejoice, we conquer..." ac yna fe gwympodd yn gelain. Gwnaeth redeg pellter o ychydig dros 24 milltir.
Mae’r marathon modern yn cael ei redeg dros bellter od iawn sef 26 milltir 385 llathen. Pam mae dyma’r pellter heddiw? Mae’r ateb i’w gael oherwydd Olympics Llundain yn 1908.
Yn 1908 fe wnaeth y trefnwyr wneud y cwrs yn 25 milltir o hyd yn mynd o Windsor i’r Stadiwm Gwyn. Ond yna fe wnaeth Tywysog Cymru feddwl y byddai hi yn braf os byddai plant y teulu yn gweld dechrau y ras felly fe gafodd ei symud yn ol i lawnt ddwyreiniol Castell Windsor.
Ar yr un pryd fe wnaeth y frenhines Alexandra mynnu y dylai hi gael yr olygfa orau o ddiwedd y ras felly fe wnaeth y diwedd gael ei symud i flaen Bocs y teulu brenhinol. Fe wnaeth hyn y ras yn bellter o 26 milltir 385 llathen.
Y dyn cyntaf yn hanes i redeg y Marathon oedd Eidalwr o’r enw, Dolandro Pietre – er iddo gael ei ddiarddel am gael ei helpu pan wnaeth gwympo ar y trac yn y 385 llathen olaf.
Er i Dorando gael ei ddiarddel fe gafodd ei dderbyn yn arwr ac fe wnaeth y frenhines gwpan aur arbennig a’i gyflwyno iddo.
Y person cyntaf i ennill y marathon modern oedd Americanwr o’r enw Johnny Hayes.
Fe wnaeth y marathon 1908 ddal dychymyg y cyhoedd ac fe dyfodd i fod mor boblogaidd ag y mae heddiw.