240 likes | 405 Views
Teyrnas Unedig, Amlddiwylliannol. Beth sy’n dylanwadu ar bwy ydym ni?. Mae llawer o bethau yr ydym yn ystyried i fod yn rhan o ffordd o fyw y DU. Ond a yw’r pethau hyn yn wirioneddol Brydeinig? Mae’r 10 sleid nesaf yn dangos lluniau o wahanol wledydd. Mae’n rhaid i chi adnabod pob glwad.
E N D
Beth sy’n dylanwadu ar bwy ydym ni? • Mae llawer o bethau yr ydym yn ystyried i fod yn rhan o ffordd o fyw y DU. Ond a yw’r pethau hyn yn wirioneddol Brydeinig? • Mae’r 10 sleid nesaf yn dangos lluniau o wahanol wledydd. Mae’n rhaid i chi adnabod pob glwad.
Gwlad 2 Minerals
Gwlad 4 Herbal Remedies
1 Ffrainc 2 Twrci 3 UDA 4 Tsieina 5 Yr Aifft 6 Yr Eidal 7 Israel 8 Cenia 9 India 10 Siapan Atebion
Cymunedau a Hunaniaethau • Mae bod yn rhan o gymuned yn rhoi’r teimlad o berthyn i chi. Mae pobl fel arfer yn perthyn i nifer o wahanol gymunedau, ac mae’r rhain yn helpu i siapio ein hunaniaeth, y ffordd yr ydym yn gweld ein hunain. • Rydym yn rhan o gymuned leol – ein cymdogaeth – ac rydym hefyd yn rhan o gymunedau mwy (megis dinas, tref neu wlad) lle mae llawer o wahanol grwpiau yn byw. • Weithiau bydd pobl yn teimlo eu bod yn perthyn a weithiau byddant yn teimlo nad oes neb yn poeni amdanynt ac nad ydynt yn perthyn.
Perthyn i Gymuned • I lawer. Mae cymuned yn ymwneud â pherthyn. • Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo eu bod yn perthyn i gymunedau y mae ganddynt rhywbeth yn gyffredin megis oed, iaith, hobiau, eu swydd neu’r gred grefyddol y maent yn ei rhannu. • Mae llawer o bobl yn rhan o nifer o gymunedau sy’n gorgyffwrdd – e.e. ysgol, ffrindiau, teulu a chymdogion, clybiau, grwpiau ethnig, man addoli.
Tasg Perthyn i Gymuned • Mae’r diagram yn dangos i ba gymunedau y mae Noah yn perthyn • Gwnewch ddiagram i ddangos y gwahanol gymunedau yr ydych chi’n teimlo eich bod yn perthyn iddynt. • A yw’r rhain i gyd gyda pobl o’r un oed â chi, neu ydych chi’n rhannu cymunedau gyda phobl o wahanol oedrannau. Ychwanegwch y wybodaeth hon at eich diagram • Trafodwch eich diagram gyda’ch grwp. A oes unrhyw gymunedau sy’n gorgyffwrdd yn eich dosbarth? Pam eich bod yn teimlo eich bod yn perthyn i’r cymunedau hyn. Ysgol Pêl-droed Teulu Cymdogaeth
Perthyn i gymunedau gwahanol sy’n rhoi eu synnwyr hunaniaeth i bobl. Mae’n wahanol i bob person. Mae rhai pethau yn bwysicach iddynt nac eraill. Edrychwch ar y dylanwadau canlynol ar hunanaieth ddiwylliannol a phenderfynwch pa rai sy’n bwysig i chi. Iaith Teulu Bwyd Crefydd Addysg Man geni Lle rydych yn byw Symbolau Traddodiadau Dillad Cerddoriaeth Diddordebau a Hobiau Ffrindiau Swydd Chwaraeon Hunaniaethau
Tasg Hunaniaeth • Meddyliwch am enghreifftiau o ddylanwadau sy’n bwysig i chi. • Gan ddefnyddio lluniau o gylchgronau a’ch lluniau chi gwnewch ludwaith i ddangos eich hunaniaeth eich hun. • Trafodwch eich gludwaith gyda gweddill y dosbarth. Sut mae pobl yn wahanol? Pa ddylanwadau y mae pobl yn eu rhannu. Pa mor bwysig yw eich hunaniaeth ddiwylliannol i chi?
Cymdeithas Heddiw O edrych ar y sleidiau blaenorol gallwn weld bod nifer o wledydd o bob rhan o’r byd yn cael effaith ar y ffordd yr ydym yn byw heddiw. Fodd bynnag, ni all pawb ym Mhrydain weld yr effeithiau cadarnhaol ar ein bywydau.
Cyd-fyw mewn Cymunedau • Nid yw cymunedau bob amser yn cyd-fyw’n hapus. • Weithiau bydd pobl yn beirniadu ei gilydd yn ôl nodweddion megis oedran, grwp ethnig, crefydd, cyfoeth a dosbarth. Nid ydynt yn dod i adnabod ei gilydd, nid oes ganddynt ffydd yn ei gilydd.
Beth am edrych ar oed • Pa fath o bethau mae pobl ifanc yn ei ddweud am hen bobl? • Pa fath o bethau mae hen bobl yn ei ddweud am bobl ifanc? • Pam eu bod yn dweud y pethau hyn? Trafodwch pam fod hen bobl a phobl ifanc yn teimlo fel hyn am ei gilydd yn y wlad hon.
StoriAli “Roeddwn i heb fy ffirndiau pan ddaeth y bechgyn mawr draw a dweud y dylwn fynd yn ôl i’m gwlad fy hun. Fe ddywedias i fy mod wedi cael fy ngeni yma a dyma nhw’n dweud fy mod i’n haerllug ac yna gafael yn fy mraich a fy nhaflu i’r llawr. Neidiodd un ar fy mraich a cheisiodd y ddau arall fy nghicio! Yna dyma nhw’n rhedeg i ffwrdd, yn galw fi’n enwau wrth fynd. Roeddwn wedi cynhyrfu oherwydd eu bod wedi bod mor gas i mi.”
Gweithgaredd 4d Ysgrifennwch lythyr i’ch papur newydd lleol yn rhoi eich barn am droseddau casineb hiliol.
Tasg Diwrnod Amlddiwylliannol • Dychmygwch fod eich ysgol yn cynnal diwrnod amlddiwylliannol er mwyn codi ymwybyddiaeth o ymosodiadau hiliol o’r fath. • Mewn grwpiau cynlluniwch faner a phosteri i hysbysebu’r diwrnod. Dylai eich gwaith bwysleisio pwysigrwydd cyd-fyw mewn heddwch a harmoni. • Dylai pobl sylweddoli bod cymdeithas Prydain yn newid a’i bod nawr yn amlddiwylliannol