140 likes | 348 Views
Cyflwyniad Byr i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (y Confensiwn) Yr Is-adran Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Y Cefndir i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
E N D
Cyflwyniad Byr i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (y Confensiwn) Yr Is-adran Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Llywodraeth Cynulliad Cymru
Y Cefndir i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • Cytundeb rhyngwladol byd-eang yw’r Confensiwn sy’n nodi hawliau plant rhwng 0 ac 18 oed. • Mae wedi bodoli ers 21 mlynedd ar ôl i Bwyllgor Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ei fabwysiadu ym 1989. O bob cytundeb rhyngwladol, hwn sydd wedi’i fabwysiadu’n fwyaf eang. • Mae 54 erthygl i’r Confensiwn ei hun. Mae dau brotocol opsiynol sy’n ymwneud â materion a hawliau penodol.
Beth yw hawl? • Mae hawliau dynol yn sylfaenol i bobl er mwyn goroesi a datblygu. Mae gan bob person hawliau dynol, beth bynnag ei oed, ac mae cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i wneud yn siwr bod pobl yn gallu mwynhau a manteisio ar eu hawliau a bod pobl yn parchu’r hawliau hynny. • Mae angen hawliau arbennig ar blant a phobl ifanc gan eu bod yn fwy agored i niwed nag oedolion. Mae’r Confensiwn yn tynnu ynghyd hawliau dynol yn un confensiwn rhyngwladol. • Mae cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i sicrhau bod pawb yn deall ac yn parchu Hawliau Plant – mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc, rhieni, teuluoedd, gofalwyr, athrawon etc.
O fewn y Confensiwn, mae hawliau yn:- Cyffredinol – Yr un peth i bawb, ni waeth beth fo’u hil, rhyw, crefydd, gwleidyddiaeth etc Anwahanadwy – Maent yr un mor bwysig ac yn ddibynnol ar ei gilydd Anhrosglwyddadwy – Mae gan bawb hawliau dynol ac ni ellir eu cymryd oddi arnoch Mae’n bwysig cofio hefyd eu bod yn ddiamod – nid oes rhaid ichi ymddwyn mewn ffordd benodol neu gymhwyso. Mae bod yn fyw yn ddigon!
Pa fath o Hawliau sydd yn y Confensiwn? Amddiffyn, Darparu a Chyfranogi a) Egwyddorion Cyffredinol b) Hawliau a Rhyddid Sifil c) Amgylchedd Teuluol a Gofal Amgen ch) Iechyd a Lles Sylfaenol d) Addysg, Hamdden a Gweithgareddau Diwylliannol f) Amddiffyn a Diogelwch
Gweithredwr Dyletswydd Yn cyflawni ei gyfrifoldeb tuag at Yn hawlio gan Deiliad yr Hawliau Deiliaid yr Hawliau a Gweithredwyr Dyletswydd
Ymrwymiad Cynulliad Cymru i’r Confensiwn • Mabwysiadodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel sail ar gyfer llunio polisi ar gyfer plant a phobl ifanc (0-25 oed) yng Nghymru ym mis Ionawr 2004 yn swyddogol a chafodd gefnogaeth gref gan bob un o bleidiau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. • Datblygwyd Saith Nod Craidd Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer plant a phobl ifanc i grynhoi’r Confensiwn, i helpu gyda gwaith cynllunio cenedlaethol a lleol a gwaith darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc.
Sylwadau Clo Pwyllgor y CU Ym mis Hydref 2008, cyhoeddodd pwyllgor y CU eu ‘Sylwadau Clo' a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth y Cynulliad dipyn o waith i’w wneud o hyd, er gwaethaf rhai llwyddiannau. Tynnodd y sylwadau clo sylw penodol at: - y bwlch rhwng polisi ac arfer - y lefelau isel o ymwybyddiaeth o’r Confensiwn - yr angen am ddeddfwriaeth Ym mis Gorffennaf 2009, cyhoeddodd cyn-Brif Weinidog Cymru y byddai’n ystyried y posibilrwydd o gyflwyno Mesur i wneud egwyddorion y Confensiwn yn rhan o gyfraith Cymru. Ym mis Tachwedd 2009, lansiwyd Gwneud Pethau’n Iawn, y cynllun gweithredu cyntaf erioed i’w lansio ar gyfer Cymru mewn perthynas â’r Confensiwn. Nododd hwn 16 maes blaenoriaeth a 90 cam gweithredu.
Blaenoriaethau Gwneud Pethau’n Iawn • Mynd i’r afael â thlodi plant • 2) Sicrhau canlyniadau da i’r rhai mwyaf agored i niwed • 3) Codi ymwybyddiaeth o’r Confensiwn • 4) Lleihau’r bwlch rhwng polisi a chanlyniadau • 5) Gwella cyrhaeddiad o ran dysgu • 6) Helpu o ran lles emosiynol • 7) Gwella cyfleoedd i chwarae’n ddiogel • 8) Cynyddu’r cyfleoedd i gymryd rhan mewn penderfyniadau • 9) Rhoi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn y rhai sydd ag anableddau
Blaenoriaethau Gwneud Pethau’n Iawn (parhad) 10) Ei gwneud yn anghyfreithlon cosbi’n gorfforol 11) Cael gwared â phob math o fwlio 12) Sicrhau bod ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn gallu manteisio ar eu hawliau 13) Rhoi terfyn ar wahaniaethu ac anghydraddoldeb ar sail oedran 14) Sicrhau bod y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn manteisio ar eu hawliau 15) Gwneud y broses gyllidebu yn fwy tryloyw 16) Sicrhau bod y rhai yn y system cyfiawnder troseddol yn gallu manteisio ar eu hawliau
Gwell Lles 3 Gwybodaeth am Hawliau a Dealltwriaeth ohonynt 1 Mwy o Ddefnydd ar Hawliau 2 Sut Gall Hawliau Ysgogi Newid
Mesur Arfaethedig ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)
Beth sydd yn y Mesur? Yn fras Dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi Sylw Dyledus i’r Confensiwn – Adran 1 Cynllun y Plant – Adran 2 Llunio’r Cynllun ac Adrodd arno - Adrannau 3 a 4 Dyletswydd i Hybu Gwybodaeth o’r Confensiwn - Adran 5 Pwer i Ddiwygio’r Ddeddfwriaeth Gyfredol a’i halinio â’r Confensiwn – Adran 6 Cymhwyso i Bobl Ifanc (18-24 oed) – Adran 7 Y Confensiwn – Adran 8 a’r Atodlen
Dyddiadau Allweddol i’w Cofio Mai 2011 Y Mesur yn dod yn ddeddf a phob dyletswydd yn dod yn weithredol ac eithrio Adran 1 y ddyletswydd i roi Sylw Dyledus 31 Mawrth 2012 Gosod y Cynllun Drafft cyntaf gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Mai 2012 Rhaid i Weinidogion Cymru roi Sylw Dyledus i’r Confensiwn wrth wneud penderfyniad am ddatblygu polisi a deddfwriaeth 1 Mai 2014 Rhaid i Weinidogion Cymru roi Sylw Dyledus i’r Confensiwn wrth arfer eu swyddogaethau gan ddefnyddio dyletswydd neu bwer cyfreithiol