180 likes | 550 Views
ENW. Beth yw’r mathau o enwau?. enw cyffredin (enw ar bob gwrthrych) enw priod (llythyren fawr i’r rhain) enw torfol (enw am gr ŵp o bethau efo’i gilydd). ENW CYFFREDIN.
E N D
Beth yw’r mathau o enwau? • enw cyffredin(enw ar bob gwrthrych) • enw priod(llythyren fawr i’r rhain) • enw torfol(enw am grŵp o bethau efo’i gilydd)
ENW CYFFREDIN Mae pob enw cyffredin naill ai’n wrywaidd neu’n fenywaidd. Mae’n bwysig gwybod y gwahaniaeth rhwng enw benywaidd ac enw gwrywaidd gan fod ENW BENYWAIDD yn achosi sawl rheol treiglad. • Sut i adnabod enw benywaidd cyffredin? • Rhoi’r FANNOD o flaen yr enw(bydd enw benywaidd yn treiglo) • Rhoi HWN neu HON ar ôl yr enw • Defnyddio geiriadur!
Beth yw y FANNOD? Y FANNOD yw’r enw ar y ffurfiau o ‘the’ yn y Gymraeg, sef Y, YR a ‘R. Drwy roi rhain o flaen yr enw, mae’n gwneud yr enw’n bendant. enw pendant – y llyfr (the book) enw amhendant – llyfr (a book)
ENW PRIOD Enw PRIOD yw’r enw a roddir am yr enwau sydd â llythyren fawr iddynt, sef enwau arbennig e.e. - enw a chyfenw pobl - enwau gwledydd ac ieithoedd - enwau mynyddoedd ac afonydd - dyddiau’r wythnos a’r misoedd - teitlau o bob math
ENW TORFOL Dyma’r term am grŵp o bethau gyda’i gilydd e.e. torf o bobl Mae ‘TORF’ yn enw torfol Enwau torfol eraill yw: byddin o filwyr tusw o flodau gyrr o wartheg praidd o ddefaid
Beth yw cenedl enw? Mae pob enw cyffredin naill ai’n fenywaidd neu’n wrywaidd. Prin iawn yw’r geiriau sy’n ddeuryw! Gall enw fod yn wrywaidd yn y gogledd ac yn fenywaidd yn y de! Ystyriwch hyn: y bwrdd crwn (enw gwrywaidd) y ford gron (enw benywaidd)
Pwysigrwydd adnabod cenedl enw Mae llawer o reolau treiglo yn y Gymraeg yn dibynnu ar genedl enw. Yr enw BENYWAIDD sy’n achosi’r treiglad. (Cofiwch fod merched yn llawer mwy cymhleth na bechgyn!!!) Mae’n bwysig felly ein bod yn gallu adnabod cenedl enw. Ydych chi’n cofio sut i adnabod enw benywaidd cyffredin? Rhoi’r FANNOD o flaen yr enw(bydd enw benywaidd yn treiglo) Rhoi HWN neu HON ar ôl yr enw Defnyddio geiriadur!
Rheolau yn ymwneud ag ENW • Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod • Angen llythyren fawr i enw priod • Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal • Enw yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol
Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod Y fannod yw Y, YR a ‘R Os yw’r fannod yn cael ei ddilyn gan enw benywaidd, bydd yr enw’n treiglo’n feddal e.e. cath > y gath buwch > y fuwch dafad > y ddafad Y fannod sy’n achosi’r treiglad
Angen llythyren fawr i enw priod Mae’n rhaid cael llythyren fawr ar ddechrau bob enw priod: Enw PRIOD yw’r enw a roddir i’r enwau sydd â llythyren fawr iddynt, sef enwau arbennig e.e. - enw a chyfenw pobl - enwau gwledydd ac ieithoedd - enwau mynyddoedd ac afonydd - dyddiau’r wythnos a’r misoedd - teitlau o bob math
Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal Pan fo ansoddair yn dilyn enw benywaidd mae’n treiglo’n feddal e.e. bachgen da (ansoddair yn dilyn enw gwrywaidd) merch dda (ansoddair yn dilyn enw benywaidd) Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal Ystyriwch y canlynol: cadair gyfforddus cath filain drama ddiddorol Mae’r treiglad yn digwydd oherwydd fod yr ansoddair yn dilyn enw benywaidd
Enw yn dilyn yr ‘yn’ traethiadol yn treiglo’n feddal Mae POB enw’n treiglo’n feddal ar ôl ‘yn’ – enwau gwrywaidd, benywaidd a lluosog. e.e. merch > yn ferch bachgen > yn fachgen merched > yn ferched bechgyn > yn fechgyn Yr ‘yn’ traethiadol sy’n achosi’r treiglad
Cywiro brawddegau Mae cath du’r merch yn peryglus iawn. cath du > cath ddu Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal ‘r merch > ‘r ferch Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod yn peryglus > yn beryglus Treiglad meddal i’r ansoddair yn dilyn yr ‘yn’ traethiadol
Gwelodd sian y pont cam lle digwyddodd y damwain drwg. sian > Sian Angen llythyren fawr i enw priod y pont > y bont Enw unigol benywaidd yn treiglo’n faddal ar ôl y fannod pont cam > pont gam Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal y damwain > y ddamwain Enw unigol benywaidd yn treiglo’n faddal ar ôl y fannod damwain drwg > damwain ddrwg Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal
Mae cai yn bachgen ddawnus. cai > Cai Angen llythyren fawr i enw priod yn bachgen > yn fachgen Angen treiglad meddal i’r enw ar ôl yr ‘yn’ traethiadol bachgen ddawnus > bachgen dawnus Nid yw ansoddair yn treiglo ar ôl enw gwrywaidd
Mae’r cath du yn cath blin. mae‘r cath > mae‘r gath Enw unigol benywaidd yn treiglo’n faddal ar ôl y fannod cath du > cath ddu Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal yn cath > yn gath Angen treiglad meddal i’r enw ar ôl yr ‘yn’ traethiadol cath blin > cath flin Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal
Mae’r merch pert yn caru’r fachgen. Mae’r merch > Mae’r ferch Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod merch pert > merch bert Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal caru’r fachgen > caru’r bachgen Nid yw enw gwrywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod