160 likes | 500 Views
Catrin Daniel. Ysgol Gymraeg Trelyn. Erbyn diwedd y wers byddaf yn:. gwybod am y grwpiau bwyd gwahanol gwybod beth yw deiet cytbwys creu bwydlen ar gyfer deiet cytbwys. Bwyd!!!. Beth ydyn ni’n ei fwyta? Ydyn ni’n bwyta’n iach? Pa fwydydd sydd yn iach?. Grwpiau bwyd.
E N D
Catrin Daniel Ysgol Gymraeg Trelyn
Erbyn diwedd y wers byddaf yn: • gwybod am y grwpiau bwyd gwahanol • gwybod beth yw deiet cytbwys • creu bwydlen ar gyfer deiet cytbwys
Bwyd!!! • Beth ydyn ni’n ei fwyta? • Ydyn ni’n bwyta’n iach? • Pa fwydydd sydd yn iach?
Grwpiau bwyd • Mae bwydydd yn gallu cael eu rhannu i grwpiau gwahanol • Ydych chi wedi clywed am y grwpiau yma? • braster • carbohydrad • protein • fitaminau a mineralau • ffeibr
Braster • Mae braster yn cael ei storio yn y corff • Mae bwyta gormod o fraster yn wael i ni • Mae llawer o fraster mewn menyn, siocled a creision
Carbohydradau • Mae carbohydradau’n rhoi egni i ni • Mae chwaraewyr pel-droed a rygbi yn bwyta carbohydradau er mwyn cael egni cyn y gem • Mae llawer o garbohydradau mewn pasta, bara, reis a banana.
Proteinau • Mae protein yn ein helpu i dyfu • Rhaid gwneud yn siwr ein bod yn bwyta digon o brotein • Mae llawer o brotein mewn pysgod, caws a llaeth
Fitaminau a Mineralau • Mae llawer o wahanol fitaminau i gael • Mae nhw’n bwysig er mwyn ein cadw’n iach • Mae llawer o fitaminau a mineralau mewn ffrwythau a llysiau
Ffeibr • Mae ffeibr yn ein helpu i dreulio ein bwyd • Mae’n helpu bwyd i basio drwy’r corff • Mae llawer o ffeibr mewn grawnfwydydd, ffrwythau a llysiau
Deiet cytbwys • Beth yw deiet cytbwys? • Ydych chi’n bwyta deiet cytbwys? • Beth fyddai’n digwydd petai chi ond yn bwyta sglodion neu siocled neu gig?
Eich tasg • Allwch chi gynllunio bwydlen gytbwys iachus am un diwrnod? • Cofiwch gynnwys yr holl grwpiau bwyd • Cofiwch wneud bwydlen ar gyfer brecwast, cinio, te a swper
Dyma rai syniadau! siocled mefus pysgod salad grawnfwyd cyw iar bara
Nawr rydw i: • yn gwybod am y grwpiau bwyd gwahanol • yn gwybod beth yw deiet cytbwys • wedi creu bwydlen ar gyfer deiet cytbwys
Da iawn chi! • Cofiwch fwyta deiet cytbwys o hyd! • Dim gormod o siocled!