40 likes | 191 Views
Ymbelydredd a radioisotopau. Cwestiynau yn null arholiad Pam mae ymbelydredd yn niweidiol?. Cwestiwn yn null arholiad. Hanner oes nwy Radon 222 Rn yw 3.30 x 10 5 s . Cyfrifwch: nifer yr atomau Rn-222 mewn 10 -5 kg o nwy (1u = 1.66 x 10 -27 kg) Dangos yr ateb
E N D
Ymbelydredd a radioisotopau • Cwestiynau yn null arholiad • Pam mae ymbelydredd yn niweidiol?
Cwestiwn yn null arholiad • Hanner oes nwy Radon 222Rn yw 3.30 x 105 s. • Cyfrifwch: • nifer yr atomau Rn-222 mewn 10-5 kg o nwy (1u = 1.66 x 10-27kg) Dangos yr ateb • y cysonyn dadfeiliad l Dangos yr ateb • yr actifedd cychwynnol. Dangos yr ateb • Cynhaliwyd arbrofion cyfrif ar y sampl uchod o nwy radon dros gyfnod o dair awr. Cyfrifwch: • yr actifedd ar ôl tair awr Dangos yr ateb • canran y newid yn yr actifedd dros y cyfnod hwn • Dangos yr ateb
Pam mae pelydriad yn niweidiol? • Mae ymbelydredd yn achosi niwed i gelloedd byw trwy ïoneiddio'u moleciwlau. Mae ïoneiddio'n golygu bod yr ymbelydredd yn bwrw electronau oddiar foleciwlau'r celloedd, gan adael atomau a moleciwlau wedi'u gwefru'n bositif yn yr organeb MAE HYN YN BERYGLUS, oherwydd gall y celloedd hyn sydd wedi'u niweidio farw neu atgynhyrchu'n afreolus gan achosi canser. • Gall bod yn agored i ymbelydredd am amser hir, neu feintiau mawr o ymbelydredd achosi difrod difrifol. • Nwyon a llwch ymbelydrol yw'r mwyaf peryglus, oherwydd mae'n hawdd iawn eu hamsugno i'r corff, ond y rhain yw'r rhai mwyaf anodd i gael gwared â nhw. Unwaith mae'r ffynhonnell ymbelydrol wedi mynd i mewn mae'n aros yno ac mae'n achosi problemau, oherwydd mae'n ïoneiddio llawer o foleciwlau.
Amddiffyniad rhag ymbelydredd ffynonellau-α Pwyntiwch nhw i ffwrdd oddi wrth y corff Defnyddiwch efel i'w trafod Gwisgwch siwtiau amddiffynnol llawn i osgoi mewnanadlu gronynnau ymbelydrol ffynonellau-β Pwyntiwch nhw i ffwrdd oddi wrth y corff Defnyddiwch freichiau robot mewn ardaloedd ymbelydrol iawn Defnyddiwch efel i'w trafod Gwisgwch siwtiau wedi'u leinio â phlwm i atal gronynnau beta rhag mynd i mewn i'r corff ffynonellau-γ Pwyntiwch nhw i ffwrdd oddi wrth y corff Defnyddiwch efel i'w trafod Gwisgwch siwtiau wedi'u leinio â phlwm i atal pelydrau gama rhag mynd i mewn i'r corff Gweithredwch dan rwystrau plwm/concrit a sgriniau plwm trwchus