1 / 10

Pennod 2 Y ‘Stafell Ddirgel

Pennod 2 Y ‘Stafell Ddirgel. Marion Eames. Cynnwys Pennod 2. Noswyl Nadolig 1672 – Ann yn dri mis oed Meg yn edrych ymlaen i fynd i’r Plygain er mwyn ail gydio yn ei bywyd cymdeithasol. Rowland ddim mor siwr ond mae Meg yn llwyddo i’w berswadio i adael Ann yng ngofal Malan.

Download Presentation

Pennod 2 Y ‘Stafell Ddirgel

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Pennod 2Y ‘Stafell Ddirgel Marion Eames

  2. Cynnwys Pennod 2 • Noswyl Nadolig 1672 – Ann yn dri mis oed • Meg yn edrych ymlaen i fynd i’r Plygain er mwyn ail gydio yn ei bywyd cymdeithasol. • Rowland ddim mor siwr ond mae Meg yn llwyddo i’w berswadio i adael Ann yng ngofal Malan. • Huw yn dechrau amau fod Ellis yn Grynwr am nad ydi o’n bwriadu mynd i’r Plygain. • Ellis yn mynd i weld Ifan Roberts yng ngharchar Cae Tanws –rhoi triniaeth i’w goes.

  3. Parhâd… • Disgrifiad effeithiol o’r carchar a’r bobl sydd ynddo. • Ifan Roberts (32 oed cryf, tal a thad i naw o blant) yn ddifrifol wael. • Mae’r carcharorion sydd yno oherwydd “achos cydwybod” am gael eu rhyddhau yn fuan – derbyn pardwn y brenin. • Ifan Roberts yn holi Ellis am Rowland… “A Rowland Ellis…A ddaeth ef yn nes atom?”

  4. Datblygiad Rowland • Cawn wybod ei fod wedi derbyn addysg yn yr Amwythig ond ei fod wedi gorfod dod adref yn 17 oed ar ôl marwolaeth ei dad. • Wedi gwirioni ar ei fro ei hun.Yn meddwl y byd o’i ardal a’i harddwch hi. “Llanwodd ei galon â chariad poenus at y fro lle magwyd ef” Mae ei dras yn bwysig iddo – mae’n rhestru ei holl hynafiaid. Cael ei ddylanwadu’n hawdd gan Meg – eisiau ei phlesio.

  5. Datblygiad Ellis Puw • Yn ofni pwer Huw – ei allu i‘w ddilyn a’i wylio heb iddo ddeall.Ond roedd yn dechrau deall sut i’w drin. • Byth yn dweud celwydd. • Natur ofalgar ac addfwyn wrth helpu Ifan Roberts yn y carchar. Rhoi triniaeth i’w goes a dod â “eli” arbennig iddo. “ Tra siaradai Ellis yn dyner fel mam wrth ei phlentyn roedd ei ddwylo’n brysur”

  6. Huw Morris • Llabwst o ddyn cnodiog • Gwawdio a phlagio Ellis yn barhaus. • Dweud straeon “glas” wrth Ellis er mwyn ei wneud i deimlo’n annifyr a’i weld yn cochi at fôn ei wallt coch! • O ddeall nad yw Ellis am fynd i’r Plygain mae’n dechrau amau ei fod yn Grynwr. • Mae Huw wedi bod efo Nans y Goetre ac yn yfwr mawr.

  7. Dyn da – Crynwr Tal /cryf a llawen Tad i 9 o blant. Yn y carchar o “achos cydwybod”. Am i Ellis edrych ar ôl ei deulu. Gweithio i Robert Owen Dolserau. (Crynwr arall) Awyddus i Rowland ymuno â hwy. Dynes ddewr a chryf Ei phlant yn wael Wedi troi at y Crynwyr oherwydd dylanwad ei gŵr. Angen arweiniad ei gŵr. Mam Dorcas a Lisa. Ifan Roberts a Sinai Roberts

  8. Arddull Y Bennod: • Cyffelybiaeth: “ Hebddo roedd hi (Sinai) fel glas bach y wal wedi colli ei chymar” Personoli: “..rhes o risiau carreg yn disgyn i groth yr adeilad”

  9. Parhâd • Deialog mewn iaith anffurfiol dafodieithol: “ Mae Ellyw fach yn dechrau dwndrio a cherdded ei gorau rwan” Disgrifiad cryno llawn ansoddeiriau effeithiol: Sion Pyrs “dyn hagr, tal ac wyneb eryr ganddo”

  10. Cwestiynau… • Ysgrifennwch bortread byr o Huw Morris. • Ysgrifennwch ddiwrnod yn nyddiadur Ellis Puw ar y diwrnod arbennig yma 24/12/1672. • Pam fod ein hadnabyddiaeth o Ifan Roberts yn bwysig o ystyried nad yw yn byw rhyw lawer yn hirach?

More Related