100 likes | 323 Views
Pennod 2 Y ‘Stafell Ddirgel. Marion Eames. Cynnwys Pennod 2. Noswyl Nadolig 1672 – Ann yn dri mis oed Meg yn edrych ymlaen i fynd i’r Plygain er mwyn ail gydio yn ei bywyd cymdeithasol. Rowland ddim mor siwr ond mae Meg yn llwyddo i’w berswadio i adael Ann yng ngofal Malan.
E N D
Pennod 2Y ‘Stafell Ddirgel Marion Eames
Cynnwys Pennod 2 • Noswyl Nadolig 1672 – Ann yn dri mis oed • Meg yn edrych ymlaen i fynd i’r Plygain er mwyn ail gydio yn ei bywyd cymdeithasol. • Rowland ddim mor siwr ond mae Meg yn llwyddo i’w berswadio i adael Ann yng ngofal Malan. • Huw yn dechrau amau fod Ellis yn Grynwr am nad ydi o’n bwriadu mynd i’r Plygain. • Ellis yn mynd i weld Ifan Roberts yng ngharchar Cae Tanws –rhoi triniaeth i’w goes.
Parhâd… • Disgrifiad effeithiol o’r carchar a’r bobl sydd ynddo. • Ifan Roberts (32 oed cryf, tal a thad i naw o blant) yn ddifrifol wael. • Mae’r carcharorion sydd yno oherwydd “achos cydwybod” am gael eu rhyddhau yn fuan – derbyn pardwn y brenin. • Ifan Roberts yn holi Ellis am Rowland… “A Rowland Ellis…A ddaeth ef yn nes atom?”
Datblygiad Rowland • Cawn wybod ei fod wedi derbyn addysg yn yr Amwythig ond ei fod wedi gorfod dod adref yn 17 oed ar ôl marwolaeth ei dad. • Wedi gwirioni ar ei fro ei hun.Yn meddwl y byd o’i ardal a’i harddwch hi. “Llanwodd ei galon â chariad poenus at y fro lle magwyd ef” Mae ei dras yn bwysig iddo – mae’n rhestru ei holl hynafiaid. Cael ei ddylanwadu’n hawdd gan Meg – eisiau ei phlesio.
Datblygiad Ellis Puw • Yn ofni pwer Huw – ei allu i‘w ddilyn a’i wylio heb iddo ddeall.Ond roedd yn dechrau deall sut i’w drin. • Byth yn dweud celwydd. • Natur ofalgar ac addfwyn wrth helpu Ifan Roberts yn y carchar. Rhoi triniaeth i’w goes a dod â “eli” arbennig iddo. “ Tra siaradai Ellis yn dyner fel mam wrth ei phlentyn roedd ei ddwylo’n brysur”
Huw Morris • Llabwst o ddyn cnodiog • Gwawdio a phlagio Ellis yn barhaus. • Dweud straeon “glas” wrth Ellis er mwyn ei wneud i deimlo’n annifyr a’i weld yn cochi at fôn ei wallt coch! • O ddeall nad yw Ellis am fynd i’r Plygain mae’n dechrau amau ei fod yn Grynwr. • Mae Huw wedi bod efo Nans y Goetre ac yn yfwr mawr.
Dyn da – Crynwr Tal /cryf a llawen Tad i 9 o blant. Yn y carchar o “achos cydwybod”. Am i Ellis edrych ar ôl ei deulu. Gweithio i Robert Owen Dolserau. (Crynwr arall) Awyddus i Rowland ymuno â hwy. Dynes ddewr a chryf Ei phlant yn wael Wedi troi at y Crynwyr oherwydd dylanwad ei gŵr. Angen arweiniad ei gŵr. Mam Dorcas a Lisa. Ifan Roberts a Sinai Roberts
Arddull Y Bennod: • Cyffelybiaeth: “ Hebddo roedd hi (Sinai) fel glas bach y wal wedi colli ei chymar” Personoli: “..rhes o risiau carreg yn disgyn i groth yr adeilad”
Parhâd • Deialog mewn iaith anffurfiol dafodieithol: “ Mae Ellyw fach yn dechrau dwndrio a cherdded ei gorau rwan” Disgrifiad cryno llawn ansoddeiriau effeithiol: Sion Pyrs “dyn hagr, tal ac wyneb eryr ganddo”
Cwestiynau… • Ysgrifennwch bortread byr o Huw Morris. • Ysgrifennwch ddiwrnod yn nyddiadur Ellis Puw ar y diwrnod arbennig yma 24/12/1672. • Pam fod ein hadnabyddiaeth o Ifan Roberts yn bwysig o ystyried nad yw yn byw rhyw lawer yn hirach?