40 likes | 235 Views
Cyfres o wersi rhyngweithiol a chanllawiau i’r athrawon ar gyfer prosiect Celf: Blwyddyn 5 a 6. Gwers 12. Gweithwyr a gweithdai yn ystod Oes Fictoria. Tudalen nesaf. Gwerthuso eich gwaith.
E N D
Cyfres o wersi rhyngweithiol a chanllawiau i’r athrawon ar gyfer prosiect Celf: Blwyddyn 5 a 6 Gwers 12 • Gweithwyr a gweithdai yn ystod Oes Fictoria Tudalen nesaf
Gwerthuso eich gwaith Trafodwch eich gwaith mewn ffordd synhwyrol a phositif gan son am beth sydd wedi eich dylanwadu a sut aethoch ati i greu’r cynnyrch. Cliciwchyma am frawddegau a geirfagwerthuso Mae’r athro yn chwilio am ddefnydd da o eirfa gan gynnwys y technegau a ddefnyddiwyd, yr arlunwyr wnaethoch ymchwilio â’r cyfarpar a ddefnyddiwyd. Cofiwch fynegi barn am eich gwaith eich hun ac mewn ffordd bositif am waith eich cyfeillion. Tudalen nesaf Nol i’r dudalen flaenorol
Gwerthuso eich gwaith • Cwestiynau i’ch sbarduno: • Pa arlunwyr wnaethoch astudio, a sut wnaeth eu gwaith hwy ddylanwadu arnoch? • Pa dechnegau ddefnyddioch er mwyn cyflawni’r gwaith celf gorffenedig? • Oedd unrhyw broblemau gyda’r technegau a ddefnyddiwyd? • Pa gyfarpar oedd angen arnoch? • Beth ydych yn hoffi am eich darn gorffenedig? • Beth fyddech yn newid petaech yn cael y cyfle eto? • Sut ydych yn mynd i arddangos eich gwaith celf nawr? • Oes yna waith arall yn y dosbarth rydych yn hoffi? Pam? Tudalen nesaf Nol i’r dudalen flaenorol
Brawddegau a geirfagwerthuso Fy mhrif ddylanwad wrth greu’r gwaith oedd... Cefais fy ysbrydoli gan... Testun neu thema fy ngwaith oedd... Y technegau defnyddiais oedd... Fe benderfynnais ar rain oherwydd... Y cyfarpar oedd angen arnaf oedd... Fy hoff ran o fy ngwaith yw... Un peth hoffwn newid yw... Yn fy marn i roedd y prosiect yn... Y peth fwynheais orau oedd... Y peth fwynheais lleiaf oedd... Un sgil newydd a ddysgais oedd... arlunydd/ arlunwyr ymchwilio testun naws lliw a thon technegau cyfryngau efelychu steil cyfleu emosiwn cyfarpar llwyddiant sgiliau newydd fy marn Nol i’r dudalen flaenorol