200 likes | 637 Views
Oes Fictoria. Sut fywyd oedd gan y plant ysgol yn ystod yr oes?. Nod y Wers: Deall a chymharu y gwahaniaethau rhwng bywyd ysgol plant Oes Fictoria a phlant heddiw. TALU AM GAEL FYND I’R YSGOL.
E N D
Oes Fictoria Sut fywyd oedd gan y plant ysgol yn ystod yr oes?
Nod y Wers: Deall a chymharu y gwahaniaethau rhwng bywyd ysgol plant Oes Fictoria a phlant heddiw.
TALU AM GAEL FYND I’R YSGOL Cyn 1891 byddai’n rhaid i blant ysgol wneud yn siwr, cyn gadael cartref bob bore Llun, fod ganddyn nhw ddigon o arian i dalu am gael mynychu’r ysgol. Roedd yn rhaid i’r plant dalu rhwng 2d (1c) a 12d (5c) yr wythnos. Ond nid oedd rhai rhieni yn gallu fforddio talu, a byddai rhai yn cadw eu plant o’r ysgol. Beth yw eich barn am hyn? Oes rhaid i chi dalu am bethau yn yr ysgol heddiw? Trafodwch yn eich grwpiau.
Disgybl Athro ac Athrawon Yn ystod y cyfnod hwn, byddai dosbarth yn aml yn cynnwys cymaint a hanner cant a rhagor o blant. Roedd hyn yn ormod i un athro, felly cai rhai o’r plant hyn, tua tair ar ddeg oed, eu dewis i helpu i ddysgu’r bechgyn a’r merched iau. Rydw i yn llym iawn gyda’r plant. Disgybl athrawon oedd y rhain. Roedd disgwyl iddyn nhw gyrraedd yr ysgol tua siath o’r gloch y bore a chael eu gwersi cyn I’r plant gyrraedd Hoffech chi fod yn ddisgybl athro?
Y Dril Un o hoff wersi’r rhan fwyaf o blant oedd y ‘Dril’. Roedd yn gyfle iddyn nhw fynd i iard yr ysgol i wneud ymarferion . Dyma lun o blant ym yn ymarfer dril ar iard yr ysgol.
Yr Ystafell Ddosbarth Mae’r ffotograff nesaf yn dangos ystafell ddosbarth Oes Fictoria.
Rhestrwch yr hyn sydd i’w weld yn eich ystafell ddosbarth chi a’r hyn sydd i’w weld yn ystafell ddosbarth Oes Fictoria.
Llyfr Cosb Mewn ysgol ar ddiwedd Oes Fictoria, fel heddiw, roedd llenwi’r gofrestr yn bwysig. Byddai’r plant a fyddai’n methu dod i’r ysgol yn cael ymweliad oddi wrth y swyddog arbennig – y Whipper in. Os nad oedd rheswm da dros fod yn absennol, byddai’r plentyn yn cael cosb. Dyma ddarn o lyfr cosb un ysgol. Mae’n rhestru enwau’r bechgyn yn unig, ond cai merched y gansen hefyd.
Gwobrwyo Nid cosbi oedd yr unig ffordd o geisio cael plant i ddod i’r ysgol yn gyson. Bydden nhw’n derbyn gwobrau hefyd. Rhoddai’r ysgolion wobrau i’r plant a oedd yn bresennol yn gyson. Dyma’r gwobrau a gai’r plant am bresenoldeb cyson mewn ysgol yn y Bari. Blwyddyn 1af llyfr Ail flwyddyn llyfr 3edd flwyddyn medal 4edd flwyddyn set geometreg 5ed flwyddyn oriawr arian
Ydych chi’n meddwl bod rhoi gwobrau’n ffordd dda o gael plant i ddod i’r ysgol? Meddylwich am resymau o blaid ac yn erbyn hyn. Yn Erbyn O Blaid
Roedd y disgyblion yn treulio llawer o’u hamser yn…. darllen ysgrifennu a rhifyddeg Dyma rhai o’r adnoddau roeddent yn defnyddio.
Dyddiau Hapusaf Eich Bywyd? Ar ol dysgu am fywyd ysgol ar ddiwedd Oes Fictoria, ydych chi’n meddwl y byddai’r plant a arferai fynd i’r ysgol gan mlynedd yn ol wedi cytuno?
Dychmygwch eich bod yn ddisgybl yn un o’r Ysgolion Bwrdd yn y 1890au. • Gan ddefnyddio’r wybodaeth a gawsoch yn y wers, ac unrhyw ffeithiau eraill sydd gennych, ysgrifennwch ddyddiadur am ddiwrnod ysgol. • Yn eich dyddiadur, efallai yr hoffech son am : • Yr ystafell ddosbarth • Yr athrawon • Y gwersi
Ydyn ni wedi cyrraedd nod y wers? Nod y Wers: Deall a chymharu y gwahaniaethau rhwng bywyd ysgol plant Oes Fictoria a phlant heddiw.
Chwilair Dril Abacws Disgybl Cofrestr Darllen Rhifyddeg Ysgrifennu Gwnio Cansen Llechen Marblis Chwip a thop