40 likes | 214 Views
FY HOFF HET. DYLUNIO. SYNIADAU CYCHWYNNOL. LLUNIADU GYDA WORD. DYLUNIO. LLUNIADU GYDA SERIF. ANODI. DATBLYGIAD DYLUNIAD. DYLUNIAD TERFYNOL. Anodi eich gwaith dylunio. Beth yw anodi ?. Anodi yw ysgrifennu sylwadau byr sy’n egluro eich gwaith dylunio, rhyw fath o ‘glebran dylunio’.
E N D
FY HOFF HET DYLUNIO SYNIADAU CYCHWYNNOL LLUNIADU GYDA WORD DYLUNIO LLUNIADU GYDA SERIF ANODI DATBLYGIAD DYLUNIAD DYLUNIAD TERFYNOL
Anodi eich gwaith dylunio Beth yw anodi ? Anodi yw ysgrifennu sylwadau byr sy’n egluro eich gwaith dylunio, rhyw fath o ‘glebran dylunio’. Esiampl o anodi Mae hi’n haws i chi ysgrifennu eich sylwadau fel rydych yn cwblhau eich taflen ddylunio – gallwch anghofio pwynt pwysig os ydych yn ei adael a dychwelyd ato’n ddiweddarach. Dyluniad sydd â chwech o bigynnau, mae lliw’r cantel yn gyflenwol i liwiau’r ffabrig streipiog, taselau fel nodwedd addurnol ychwanegol. Byddai’r gwneud yn cymryd cryn ymdrech ac cmser. Cofiwch – rydych chi’n deall yn iawn yr hyn rydych yn ei luniadu a’i feddwl ond mae angen i’ch syniadau fod yn glir i bobl eraill hefyd fel y gallant werthfawrogi’r syniadau yn eich dyluniad
Yr ysbrydoliaeth i’r siâp amlinellol. Anodi eich gwaith dylunio Siâp amlinellol – siâp anarferol – gwahanol i’r hyn sydd ar y farchnad. Yn eich anodi gallech gynnwys sylwadau ar: • rhesymau am newid siâp • e.e. adio cantel, gwneud yr het yn hirach, creu effaith fwy dramatig drwy ychwanegu côn. Bydd adio addurn ychwanegol yn gwneud yr het yn gynhesach ac yn ei gwneud yn fwy addurnol. • pa mor anodd neu hawdd fydd gwneud yr het. e.e. byddai’n anodd gwneud y dyluniad croeslinol ar ffabrig ymestyn. • ydy’r dyluniad yn ateb gofynion grŵp targed neu bwynt manyleb ddylunio. • eglurhad pellach fyddai’n anodd neu’n cymryd gormod o amser i’w luniadu. Mae adio taselau yn rhoi delwedd mwy ethnig i’r het. Mae tri thasel yn edrych yn wych.
Het ar steil draig – un rhes o sbigynnau Anodi eich gwaith dylunio • Pam anodi’ch gwaith dylunio. • Pan rydych yn dylunio mae sawl rheswm pam bod sylwadau’n gallu bod yn ddefnyddiol: • gallwch egluro ymhellach rai o’r syniadau yn eich dyluniad. Rhes ddwbl o sbigynnau i roi effaith 3D. • gallwch gael lefel TASaU neu radd uwch trwy gyfiawnhau neu egluro’r syniadau yn eich dyluniad. • weithiau mae’n gynt o lawer i ysgrifennu ychydig eiriau na gwneud llun manwl. Hanner rhes ychwanegol – mae’n edrych yn well byth.