90 likes | 526 Views
CYMHARU ANSODDEIRIAU. Y mae pedair gradd i’r ansoddair yn y Gymraeg;. CYSEFIN CYFARTAL CYMHAROL EITHAF. Y MAE TAIR FFORDD O GYMHARU:. 1. Trwy ychwanegu –ed, -ach, -af: Du du ed du ach du af Cryf cryf ed cryf ach cryf af Trwm trym ed trym ach trym af.
E N D
CYMHARU ANSODDEIRIAU Y mae pedair gradd i’r ansoddair yn y Gymraeg;
CYSEFIN • CYFARTAL • CYMHAROL • EITHAF
Y MAE TAIR FFORDD O GYMHARU: • 1. Trwy ychwanegu –ed, -ach, -af: Du dued duach duaf Cryf cryfed cryfach cryfaf Trwmtrymed trymach trymaf
2. Trwy roi MOR , MWY, MWYAF o flaen yr ansoddair: Mor wyntog; mwy gwyntog; mwyaf gwyntog Mor gostus; mwy costus; mwyaf costus Mor weithgar; mwy gweithgar; mwyaf gweithgar
3. Afreolaidd Da cystal gwell gorau Drwg cynddrwg gwaeth gwaethaf Hen hyned hyn hynaf
Llenwch y bylchau: • Mae Dafydd yn gryf ac mae Elfed • ____________ ag yntau ond Gwyn yw’r _________. • 2. Merch dda yw Sian ond nid yw _________â Mair. cyn gryfed cryfaf cystal
Beth am roi cynnig ar fwy… • Mae Taid yn _______na fi. (hen) • 2. Nid yw’r llun yma ___________â’r llall. (da) • 3. Edrychai’r dringwr _______ __________ â phryf yn y pellter. (bach) hyn cystal cyn lleied
Oeddech chi'n gywir?! Da iawn!