250 likes | 434 Views
FFYDDLONDEB Yn gymaint ag i chwi wneud i un o’r lleiaf o’r rhain, fy ffrindiau i mi y gwnaethoch. Gair Disglair Duw.
E N D
FFYDDLONDEBYn gymaint ag i chwi wneud i un o’r lleiaf o’r rhain, fy ffrindiau i mi y gwnaethoch
Gair Disglair Duw Dad, dy gariad yn glir ddisgleiria,trech na'r t'wyllwch, yn glir ddisgleiria;Iesu, goleuni'r byd, cofia ninnau,ti yw'r gwir a'n rhyddha o'n cadwynau:Grist, clyw ein cri, goleua ni.
Cytgan Air disglair Duw,dyro d'olau i Gymru heddiw,tyrd, Ysbryd Glân,rho dy dân i ni:rhed, afon gras,taena gariad ar draws y gwledydd,dyro dy aira goleuni a fydd.
Dof o'th flaen di, O Arglwydd sanctaidd,o'r cysgodion i'th olau euraidd;gwaed y groes ddaw â mi i'r goleuni,chwilia fi a glanha fi o'm bryntni:Grist, clyw fy nghri, goleua fi.
Cytgan Air disglair Duw,dyro d'olau i Gymru heddiw,tyrd, Ysbryd Glân,rho dy dân i ni:rhed, afon gras,taena gariad ar draws y gwledydd,dyro dy aira goleuni a fydd.
Er mor danbaid yw dy ddisgleirdeb,ni fydd raid i mi guddio f'wyneb;a phob dydd wrth im syllu a sylludaw fy mywyd yn ddrych i'th oleuni,gwir olau gwiw, gair disglair Duw.
Heibio drychau ffenestri’r cymdeithasau adeiladu A’u dyledion deniadol drud
A neb yn becso nac yn gwylio Heblaw llygad y CCTV
Er bod dwy ochr i bob stryd Nid du a gwyn yw popeth yn y byd
Dros Gymru’n Gwlad Dros Gymru'n gwlad, O Dad, dyrchafwn gri,y winllan wen a roed i'n gofal ni;d'amddiffyn cryf a'i cadwo'n ffyddlon byth,a boed i'r gwir a'r glân gael ynddi nyth;er mwyn dy Fab a'i prynodd iddo'i hun,O crea hi yn Gymru ar dy lun.
O deued dydd pan fo awelon Duwyn chwythu eto dros ein herwau gwyw,a'r crindir cras dan ras cawodydd nefyn erddi Crist, yn ffrwythlon iddo ef,a'n heniaith fwyn â gorfoleddus hoenyn seinio fry haeddiannau'r addfwyn Oen.