70 likes | 210 Views
Dulliau Biolegol o Seicoleg. Pwyntiau syml i’w hadolygu. Beth yw’r dull biolegol o seicoleg?. Mae’n rhagdybio fod pobl yn cael eu rheoli gan eu bioleg. Yr ydym wedi esblygu mewn ymateb i’n hamgylchedd; felly rydym yn cael ein rheoli gan ein geneteg a’n ffisioleg.
E N D
Dulliau Biolegol o Seicoleg Pwyntiau syml i’w hadolygu
Beth yw’r dull biolegol o seicoleg? • Mae’n rhagdybio fod pobl yn cael eu rheoli gan eu bioleg. Yr ydym wedi esblygu mewn ymateb i’n hamgylchedd; felly rydym yn cael ein rheoli gan ein geneteg a’n ffisioleg. • Mae salwch seicolegol yn ganlyniad i ddifrod genetig, clefyd neu ddamwain. Dylem ystyried yr elfennau corfforol o ymddygiad dynol yn unig.
Beth yw cryfderau’r dull biolegol? • Os gwyddom beth sy’n achosi salwch yna gallwn ei drin gyda chyffuriau neu lawdriniaeth, a gellir gwneud hynny yn gymharol hawdd. • Mae’r dull hwn yn egluro rhai ymddygiadau a salwch sy’n anodd eu deall trwy ddulliau eraill: sgitsoffrenia a gorddibyniaeth.
Nodwch ddau o wendidau’r dull biolegol? • Mae popeth yn cael ei grynhoi i lefel syml; fe all iselder fod yn ymateb priodol i sefyllfa ddrwg yn hytrach nag yn salwch corfforol. • Yn aml, er mwyn gwneud synnwyr o ymddygiad pobl mae’n rhaid edrych pa arwyddocâd y maent hwy eu hunain yn ei weld yn eu gweithredoedd. Mae mwy i bobl nag ymatebion biolegol syml.
Sut mae’r dull biolegol wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer salwch meddwl? • Mae wedi defnyddio seicolawdriniaeth, megis lobotomi • Mae’n cefnogi therapïau seiliedig ar gyffuriau ar gyfer salwch meddwl.
Beth yw’r ddwy broblem gyda seicolawdriniaeth? • Mae problemau moesegol gan fod niwed difrifol wedi cael ei wneud i bersonoliaethau pobl. • Ni ellir cywiro camgymeriadau felly mae’n ddull radicalaidd iawn o drin problemau personoliaeth.
Pa ddwy broblem sydd gyda cemotherapi? • Yn aml, nid yw trin â chyffuriau yn unig yn arbennig o effeithiol ar gyfer rhai cyflyrau ac nid yw pob triniaeth yn briodol ar gyfer pob claf sy’n dioddef o’r un cyflwr. • Mae gan lawer o gyffuriau seicotropig ganlyniadau difrifol ac annifyr.