90 likes | 218 Views
Dulliau Gweithredu i Ddelio ag Anghydfodau. Ymaelodi ag undeb Mathau o anghydfod Mathau o weithredu diwydiannol Datrys anghydfod.
E N D
Dulliau Gweithredu i Ddelio ag Anghydfodau Ymaelodi ag undeb Mathau o anghydfod Mathau o weithredu diwydiannol Datrys anghydfod
…hawliau a chyfrifoldebau cyflogwyr a gweithwyr, yn cynnwys dulliau gweithredu i ddelio ag anghydfodau ac ymdrin ag anghydfodau diwydiannol a materion iechyd a diogelwch mewn perthynas â’r gyfundrefn dan sylw.
Mathau o Undeb Llafur Undebau Crefft – yn cefnogi crefftwyr medrus, e.e. Undeb y Cerddorwyr Undebau Diwydiannol – wedi tyfu o ddiwydiannau trwm traddodiadol e.e. Undeb Gweithwyr Siopau a Dosbarthu a Gwaith Perthynol (USDAW) Undebau Cyffredinol – fel arfer gweithwyr lled-fedrus a di-grefft e.e. GMB Undebau Coler Wen – pobl sy’n gweithio mewn swyddi clercio e.e. UNISON
Pam Undebau? • I ddarparu cyswllt cyfathrebu gwerthfawr rhwng rheolwyr a’r gweithlu • Nid oes angen i weithwyr unigol drafod • Gall undeb cryf annog rheolwyr i gymryd anghenion gweithwyr o ddifrif
Beth yw anghydfod? • Anghydfod disgyblaethol • Anghydfod cwyn • Anghydfod diwydiannol Gall y rhain fod yn gyfunol neu’n unigol!
Gweithredu Diwydiannol Gweithio’n araf Gwneud gwaith yn fwy araf na’r arfer Gwahardd goramser aelodau’n gwrthod gweithio goramser Picedu Aelodau’n sefyll y tu allan i’r cwmni Meddiannu Aelodau’n meddiannu adeiladau i roi cyhoeddusrwydd i’w protest Gweithio i reol Aelodau’n dilyn eu disgrifiad swydd Streiciau Aelodau’n tynnu eu llafur yn ôl
Sut rydych chi’n datrys anghydfod? Yn fewnol • Dull gweithredu disgyblaeth • Dull gweithredu cwynion Yn allanol • Tribiwnlys cyflogaeth • ACAS • Llys Cyfiawnder Ewropeaidd
Tasg: Beth fyddai eich cyngor? Nid yw gweithiwr gwrywol abl, sydd wedi gweithio i gwmni ers 12 mlynedd, wedi cael ei ddyrchafu o gwbl, tra bo sawl merch sydd wedi gweithio yno am lawer llai o amser wedi cael eu dyrchafu. Mae gweithiwr wedi cwyno am ei fod wedi cael ei osod yn yr un adran o’r ffatri â’i gyn-wraig.
Beth rydych chi wedi’i ddysgu… • Gall gweithwyr ymaelodi ag undeb i ofalu am eu hanghenion. • Tri phrif fath o anghydfod: • Disgyblaethol • Cwyn • Diwydiannol • Mae gwahanol fathau o weithredu diwydiannol • Mae ffyrdd mewnol ac allanol o ddatrys anghydfod