1 / 18

CERDDORIAETH

CERDDORIAETH. ARLUNWYR A’U GWAITH. CERI RICHARDS.

roz
Download Presentation

CERDDORIAETH

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. CERDDORIAETH ARLUNWYR A’U GWAITH

  2. CERI RICHARDS • Ganed Ceri Richards yn Nynfant ar gyrion Abertawe yn 1903. Mae llawer yn ystyried ei weithiau o'r 1930au fel rhai o'r mwyaf enwog o'r cyfnod yma gan unrhyw artist Prydeinig. Roedd yn ddrafftsmon naturiol, yn gwneud lluniadau a hefyd yn gynllunydd gwydr lliw ond, yn anad dim, roedd yn arlunydd hynod o rinweddol. Lluniau trwy ganiatad caredig Ceri Richards

  3. Roedd hefyd yn wneuthurwr printiau o fri a, dro ar ôl tro, fe'i gwelwyd yn troi at y cyfrwng hwn trwy gydol ei yrfa. Roedd yn ei weld fel ffordd bwysig o fynegi celfyddyd. Yn wir, disgrifiwyd un o'i brintiau fel y gorau a gynhyrchwyd yn yr 20fed Ganrif. Mae dwy gyfres o brintiau yn neilltuol iawn, sef Cyfres Beethoven a Chyfres Dylan Thomas. Lluniau trwy ganiatad caredig Ceri Richards

  4. Lluniau trwy ganiatad caredig Ceri Richards

  5. REBECCA HORN • Mae Rebecca Horn yn un o artistiaid cyfoes mwyaf enwog yr Almaen. Yn ei gwaith, mae'n cyfuno amrywiaeth o gyfryngau: fideo, perfformiad, gosodiadau, a cherflunio. Ers y 1970au cynnar, mae wedi bod yn gysylltiedig â gwneud ffilmiau hefyd. • Mae'n cynllunio ac yn gwneud offerynnau a ddefnyddir er mwyn cyflwyno'r corff dynol: gosodiadau gofodol lle mae'r bod dynol yn un o'r prif elfennau cyflwyno.

  6. Yn ei gwaith, mae Horn yn cynnal sgwrs aml-haenog ar faterion Natur, Diwylliant a Thechnoleg. Yn aml, mae'n defnyddio cyfeiriadau mytholegol. Testun sylfaenol ei gwaith yw gorsensitifrwydd dynol, natur emosiynol, obsesiynau ac ofnau • Yn aml, mae'n defnyddio lleoliadau sydd wedi eu nodi'n hanesyddol neu'n emosiynol mewn rhyw ffordd benodol fel gosodiad ar gyfer ei phrosiectau; weithiau, mae'n creu ei hamgylcheddau tu allan i ardaloedd unrhyw amgueddfeydd.

  7. Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd. • Mae'r enghraifft hon, River of the Moon: Room of Lovers, yn cynnwys ffidlau, motorau a gwely. Tynnwyd y llun yng Ngwesty'r Peninsular, Barcelona yn 1992. Mae'r teitl, y ffaith ei bod yn defnyddio ystafell mewn gwesty a sŵn y ffidlau yn cyfleu delweddau o ramant; mae gosodiad mympwyol y ffidlau niferus yn awgrymu dawnsio. Mae fel petai'r cariadon wedi gadael yr ystafell ac wedi gadael atgof gweledol o'u hatgofion nhw ar ein cyfer ni.

  8. CLAES OLDENBURG • Claes Oldenburg yw un o artistiaid mwyaf creadigol a phoblogaidd yr Amerig. • Ganed ef yn Stockholm yn y flwyddyn 1929. Tra’n ifanc symudodd ei deulu i Efrog Newydd, yna ymgartrefu yn Chicago. Mynychodd Brifysgol Yale rhwng 1946 a 1950 ac yna ar ôl cyfnod fel newyddiadurwr (news reporter) dechreuodd ddysgu cyrsiau yng Ngholeg Celf Chicago. • Mae Claes Oldenburg wedi newid y ffordd mae eitemau pob dydd yn edrych. Mae Claes Oldenburg yn gwneud hyn drwy newid deunyddiau caled yn feddal a meddal yn galed. Roedd yn newid pethau bach yn fawr. Roedd yn defnyddio lliwiau llachar a rhoi’r cerfluniau mewn lleoedd cyhoeddus e.e. mewn parc lleol neu ynghanol y ddinas fel bod pawb yn gallu eu hedmygu. Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd

  9. WASSILY KANDINSKY • Wassily, Kandinsky, gŵr o Rwsia. Enw llawn VASILY VASILYEVICH KANDINSKY • Artist a anwyd yn Rwsia, ac un o'r cyntaf i greu haniaeth pur mewn paentio modern. Ar ôl arddangosfeydd avant-garde llwyddiannus, sefydlodd grŵp dylanwadol yn Munich sef Der Blaue Reiter (Y Marchog Glas; 1911-14) a dechreuodd arlunio paentiadau haniaeth pur. Esblygodd ei ffurfiau o hylif ac organig i geometrig ac, yn olaf, pictograffig (e.e., Tempered Élan, 1944). Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.

  10. Mae yna hanes hir i'r cysyniad fod cysylltiad rhwng lliw a harmoni cerddorol, ac mae wedi ennyn chwilfrydedd gwyddonwyr fel Syr Isaac Newton. Fe ddefnyddiodd Kandinsky liw mewn ffordd hynod o ddamcaniaethol gan gysylltu tôn ac ansawdd (cymeriad y sain), arlliw gyda thraw, a dirlawnder gyda maint y sŵn. Roedd hyd yn oed yn honni pan yr oedd yn gweld lliw ei fod yn clywed cerddoriaeth. • Ac yntau'n gerddor medrus ei hun, fe ddywedodd Kandinsky rhyw dro mai lliw yw'r allweddellau, a'r llygaid yw'r harmonïau, yr enaid yw'r piano gyda'i linynnau lawer. Yr artist yw'r llaw sy'n chwarae, gan gyffwrdd ag un allweddell neu'r llall, i achosi dirgryniadau yn yr enaid.

  11. Mae'r gwyliwr yn cael tipyn o sioc wrth symud o emosiwn apocalyptaidd Cyfansoddiad VII i rythm geometregol Cyfansoddiad VIII. Paentiwyd Cyfansoddiad VIII ddeng mlynedd yn ddiweddarach ym1923, ac mae'n adlewyrchu dylanwad Swprematiaeth (Suprematism) a Lluniadaeth (Constructivism) a amsugnodd Kandinsky tra yn Rwsia cyn iddo ddychwelyd i'r Almaen i addysgu yn y Bauhaus. Cyfansoddiad VII Cyfansoddiad VIII

  12. Yma, mae Kandinsky wedi symud o liw i ffurf fel elfen y cyfansoddiad sy’n dominyddu fwyaf. Nawr, mae cyferbyniad rhwng ffurfiau yn rhoi cydbwysedd deinamig y gwaith; mae'r cylch mawr yn y chwith uchaf yn chwarae yn erbyn y rhwydwaith o linellau manwl gywir yng nghyfran dde'r cynfas. Sylwer hefyd fel y mae Kandinsky'n defnyddio gwahanol liwiau o fewn y ffurfiau i nerthu eu geometreg: cylch melyn gyda lleugylch glas yn erbyn cylch glas gyda lleugylch melyn; ongl sgwâr wedi'i llenwi'n las ac ongl lem wedi'i lliwio'n binc. Mae'r cefndir hefyd yn gweithio i gyfoethogi natur ddeinamig y cyfansoddiad. Nid yw'r cynllun yn ymddangos fel ymarfer geometregol ar wastatir, ond mae'n ymddangos fel petai'n cymryd lle mewn gofod sydd heb ei ddiffinio. Mae haenau'r lliwiau cefndir - glas golau ar y gwaelod, melyn golau ar y top a gwyn yn y canol - yn diffinio'r dyfnder hwn. Mae'r ffurfiau'n tueddu encilio a symud ymlaen o fewn y dyfnder hwn, gan greu effaith tynnu a gwthio deinamig.

  13. Ciwbaeth • Mae ciwbiaeth yn pwysleisio pwysigrwydd ffurf (form) dros bopeth gan gynnwys lliw. • Fel arfer dim ond y lliwiau du, brown a llwyd a ddefnyddiwyd. • Mae’n dangos pwnc mewn modd geometrig, gan ddefnyddio siapau fel silindr, côn a chiwbiau. • Yn aml fe newidir delweddau cymaint fel nad adnabyddir y ddelwedd. • Roedd ciwbiaeth a chelf fodern yn rhywbeth gweledol ac yn dod o’r llygad a’r meddwl. • Ciwbiaeth yw rhannu ffurf 3D yn arwynebedd fflat o liw a phatrwm.

  14. PABLO RUIZ PICASSO • Aeth Pablo Picasso drwy nifer o gyfnodau yn ystod ei fywyd pryd y bu’n defnyddio llawer o ddulliau celf gwahanol i gyfleu emosiynau gwahanol roedd e’n eu profi ar y pryd, sef realaeth, digrifluniau, y cyfnod glas a’r cyfnod rhosyn, a chiwbiaeth. Girl with a Mandolin

  15. Ciwbiaeth Ddadansoddol(Analytical Cubism) • Erbyn 1910, datblygodd Picasso Giwbiaeth yn giwbiaeth ddadansoddol. • Cai'r gwrthrychau eu rhannu’n gydrannau, ac yna cai’r rhannau eu rhoi at ei gilydd fel bod y cefn a’r blaen yn cael eu gweld ar yr un pryd. • Cai gwrthrych ei baentio o wahanol onglau gan ddefnyddio mwy na un ffynhonnell olau. • Nod ciwbiaeth ddadansoddol oedd dangos delwedd mewn modd cysyniadol gan ddangos ffeithiau hefyd, yn hytrach na fel delwedd weledol. The Guitar Player

  16. Arlunwyr eraill Ciwbaeth • Braque • Metzinger • Gris • Leger • Diwylliant Affrica yn enwedig mygydau

  17. HENRI MATISSE • Roedd Matisse yn arweinydd y symudiad Fauvist yn gynnar yn ei yrfa. Dull a bwysleisia fynegiant o liwiau llachar, cryf a llinellau brws grymus. Credai fod y trefniant o liw yr un mor bwysig â’r pwnc o fewn y llun i gyfleu ystyr i’r llun, a mynegiant emosiwn. Roedd llawer o’i bynciau yn ffigurol. Dioddefa o dyndra nerfus, ac fe dro hyn yn gelf tawel. Gwela ei gelf fel cysur a saib i’w hun. • Dadl Matisse oedd nad oedd rheolaeth gan arlunydd dros liw a ffurf, yn hytrach bod lliw, siâp a llinell yn galw ar arlunwyr teimladwy. Dywedodd ei fod yn rhoi ei hun i liw a ffurf, ac yn gweithio allan sut mae lliw a siâp yn cael eu trefnu i greu llun sy’n gweddu’n dda. Image La Musique

  18. NEALE HOWELLS • Mae’n anodd dychmygu unrhyw arlunydd yn gweithio mewn amodau gweithio mwy gwael na Neale Howells. Ar waelod ardd ei dŷ ger Castell-nedd mae ei stiwdio a’i stordy. Mae’n gymeriad gwyllt ac ymosodgar, ond yn hollol angerddol am ei waith. Mae teitlau ei waith yn codi braw “Perverts in Chapel” a “Buy this or I’ll Kill my Wife and Kids”. • Mae peintiadau Neale Howells yn taro rhywun yn syth yn ei wyneb! Mae’n defnyddio paent emylsiwn, paent ‘glos’ cyffredin a golosg, pensil, colaj, unrhyw beth a ddaw i law. Mae hyd yn oed yn chwilio am bethau ar y stryd ac mewn ‘skips’. Nid portreadau na thirluniau mo gwaith Howells ond yn hytrach yn ddarluniau o agwedd ein cymdeithas, graffiti, sloganau, y marciau a welwn ar waliau strydoedd ein cymoedd a’n dinasoedd. Mae ei waith yn llawer mwy dyfeisgar na’r hyn mae’n edrych ar yr olwg gyntaf. Cliciwch yma i weld gwaith yr arlunydd.

More Related