150 likes | 473 Views
Seren Hollywood. Llyfr 4. Dw i eisiau mynd i’r dref. Beth wyt ti eisiau wneud nawr?. Syniad da Ben. Mae Nia, Catrin, Si ôn, Ceri a Ben yn chwarae yn y parc. Mae hi’n heulog a braf. Dydy hi ddim yn bwrw glaw, diolch byth! Mae Ben wedi blino chwarae yn y parc. Tudalen 1. Dewch ar y bws.
E N D
Seren Hollywood Llyfr 4
Dw i eisiau mynd i’r dref. Beth wyt ti eisiau wneud nawr? Syniad da Ben. Mae Nia, Catrin, Siôn, Ceri a Ben yn chwarae yn y parc. Mae hi’n heulog a braf. Dydy hi ddim yn bwrw glaw, diolch byth! Mae Ben wedi blino chwarae yn y parc. Tudalen 1
Dewch ar y bws. Pump tocyn i’r dref os gwelwch yn dda ‘Dw i eisiau eistedd yn y cefn. Mae’r plant yn mynd i’r dref. Ydy’r plant yn mynd yn y car? Ydy’r plant yn mynd ar y trên? O edrychwch! Tudalen 2
‘Dw i’n dwlu ar byrgers, pop, hufen iâ … ‘Dw i eisiau mynd i’r caffi. Beth wyt ti eisiau wneud yn y dref, Ben? Mae’r plant yn mynd i’r dref ar y bws bach glas. Ydy Ben yn mynd gyda’r plant ar y bws? Wel ydy wrth gwrs! Tudalen 3
‘Dw i eisiau siopa Mae’n well ‘da fi fynd i’r sinema. Ych a fi! Mae’n gas da fi siopa. O byddwch yn dawel! ‘Dw i’n gofyn i Ben. Mae Catrin eisiau prynu dillad newydd, ond dydy Siôn a Ceri ddim yn hoffi siopa. Beth am Ben? Ydy Ben eisiau siopa, neu ydy e eisiau mynd i’r caffi? Wel ........ Tudalen 4
‘Dw i’n dwlu mynd i’r sinema. .... Mae Ben eisiau mynd i’r sinema fawr yn y dref. Mae pump ffilm yn y sinema – ffilm gowboi, ffilm ddoniol, ffilm Disney, ffilm dditectif a ffilm gartŵn. Mae’r sinema yn agor am dri o’r gloch. Tudalen 5
Oes pum punt ‘da ti Ben? Nag oes, dim ond dwy bunt. Mae un tocyn yn costio pum punt. Oes pum punt ‘da Ben? Nag oes, does dim pum punt ‘da Ben. O trueni! Tudalen 6
‘Dw i eisiau mynd i weld ffilm. Beth sy’n bod Ben? Mae Ben eisiau mynd i’r sinema ond does dim pum punt ‘da fe. Mae e’n drist, yn drist iawn. Tudalen 7
Mae dwy bunt ‘da ti Ben. Beth am y siop fideo? Mae syniad ‘da Siôn. Mae siop fideo yn y dref. Tudalen 8
O ‘dw i eisiau bwyd. A fi. Hwyl Ben! Mae Ben yn mynd i’r siop fideo. Mae Nia a Catrin yn mynd i’r siop ddillad, ac mae Siôn a Ceri yn mynd i’r caffi. Tudalen 9
Mae hi’n wyth o’r gloch ac mae’r plant yn y tŷ. Pa ffilm sy ‘da ti? Barod? Mae Ben yn rhoi’r ffilm ymlaen. Mae’r teledu ar y bwrdd. Tudalen 10
O na!! “The Wizard of Oz” Beth? Mae ffilm ‘da Ben ond dim “Superman” na “Star Wars”. Tudalen 11
Edrychwch ar y bwgan brain. Tudalen 12
Ben – Seren Hollywood Tudalen 13
Llyfr 4 Seren Hollywood Delyth Pollard Lluniau: Jamie Todd (Flying Bear Productions) Artist Digidol: Mark Lee Diwedd y stori. Cliciwch ar Ben i ddechrau’r stori eto. Cliciwch ar y drws i orffen.