250 likes | 740 Views
RHAGENW. Beth yw RHAGENW?. Mae dau fath o ragenw: RHAGENW ANNIBYNNOL RHAGENW DIBYNNOL. Rhagenw annibunnol. Mae’r rhagenwau yma’n gallu cael eu defnyddio ar eu pen eu hunain. Gellir eu defnyddio yn lle enw e.e. Cwestiwn : “Pwy biau’r llyfr yma?” Ateb : “Hi”
E N D
Beth yw RHAGENW? Mae dau fath o ragenw: RHAGENW ANNIBYNNOL RHAGENW DIBYNNOL
Rhagenw annibunnol Mae’r rhagenwau yma’n gallu cael eu defnyddio ar eu pen eu hunain. Gellir eu defnyddio yn lle enw e.e. Cwestiwn: “Pwy biau’r llyfr yma?” Ateb: “Hi” Gellid rhoi enw person yn lle’r rhagenw annibynnol ‘hi’ yn yr ateb yma e.e. Sian. Mae’r rhagenw annibynnol ‘HI’ yn gwneud yn lle’r enw’r ‘Sian’.
Rhagenw annibynnol Y rhagenwau annibynnol yw: FI TI FO / HI NI CHI NHW Dysgwch y rhagenwau hyn ar y cof! unigol lluosog
Rhagenwau dibynnol blaen Mae’r gair dibynnol yn awgrymu na ellir defnyddio’r gair ar ei ben ei hun. Mae’r rhagenw yma’n dibynnu ar rywbeth arall. Y rhagenwau dibynnol yw: FY DY EI EIN EICH EU
Rheolau’n dilyn y rhagenwau dibynnol Mae FY yn achosi TREIGLAD TRWYNOL pen – fy mhen troed – fy nhroed coes – fy nghoes bys – fy mys dannedd – fy nannedd garddwrn – fy ngarddwrn Sut ydw i’n esbonio’r treiglad yma? Treiglad trwynol ar ôl y rhagenw dibynnol ‘fy’
Beth sy’n digwydd ar ôl DY? Mae’r rhagenw dibynnol ‘DY’ yn achosi TREIGLAD MEDDAL coes – dy goes trwyn – dy drwyn pen – dy ben bys – dy fys dannedd – dy ddannedd garddwrn – dy *addwrn
Beth am ‘EI’? Yn y Gymraeg, mae ‘EI’ yn golygu ‘his’ a ‘her’. Y treiglad sy’n dilyn sy’n ein galluogi ni i wahaniaethu rhwng y ddau. Ystyriwch y frawddeg ganlynol: Mae ei bensil ar ei gadair. (his) Mae ei phensil ar ei chadair. (her)
Beth yw’r rheolau gydag ‘EI’? Treiglad MEDDAL ar ôl y rhagenw dibynnol ‘EI’ gwrywaidd: ei ben, ei fys, ei droed, ei goes, ei ddannedd, ei *arddwrn Treiglad LLAES ar ôl y rhagenw dibynnol ‘EI’ benywaidd e.e. ei phen, ei choes, ei throed [Dim ond P, T a C sy’n treiglo’n LLAES]
Beth am EIN, EICH ac EU? Does dim treiglad ar ôl y rhagenwau lluosog: ein pen eich pen eu pen ein traed eich traed eu traed
Ble mae’r gwallau yn y brawddegau? Mae fy brawd a fy tad yn tal iawn. [3] Cafodd sian ei penblwydd ddoe. [2] Mae dy braich a dy llaw yn budr. [3] Dathlodd fy taid ei penblwydd ddoe. [2]
Adolygu’r rheolau… Treiglad TRWYNOL ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘FY’ Treiglad MEDDAL ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘DY’ Treiglad MEDDAL ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘EI’ gwrywaidd Treiglad LLAES ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘EI’ benywaidd
Rhagenw dibynnol ôl Yn aml gyda rhagenw dibynnol blaen, byddwn yn defnyddio rhagenw dibynnol ôl e.e. Fy nghath I Dy gi DI Ei geffyl O Ei physgodyn HI Ein defaid NI Eich mochyn CHI Eu gwartheg NHW *Does dim rhaid defnyddio rhain*
Rhagenw mewnol Weithiau byddwn yn defnyddio rhagenw mewnol yn lle rhagenw dibynnol blaen. Ystyriwch y brawddegau canlynol: Tyrd i fy nhŷ i heno > Tyrd i’m tŷ i heno Cer i dy wely rwan! > Cer i’th wely rwan! Dyma’r rhagenw mewnol – ‘m. Mae’n cymryd lle FY. Dyma’r rhagenw mewnol – ‘th. Mae’n cymryd lle DY.
Gyda ‘EI’ fe welwch ei bod yn fwy amlwg ein bod eisiau defnyddio’r rhagenw mewnol: Fe es i i ei barti > Fe es i i’w barti Aeth Sion i ei gweld > Aeth Sion i’w gweld Dyma’r rhagenw mewnol – ‘w. Mae’n cymryd lle EI. Dyma’r rhagenw mewnol – ‘w. Mae’n cymryd lle EI.
Beth am y lluosog? Mae’r un peth yn digwydd gyda’r lluosog: Tyrd i ein gweld yfory > Tyrd i’n gweld yfory Down i eich gweld heno > Down i’ch gweld heno Dewch i eu gweld nhw > Dewch i’w gweld nhw
Beth am y treigladau? ‘m – DIM TREIGLAD ‘th – treiglad meddal ‘w (gwrywaidd) – treiglad meddal ‘w (benywadd) – treiglad llaes ‘n ‘ch ‘w DIM TREIGLAD GYDA’R LLUOSOG
Beth yw’r gwahaniaeth? Yr unig wahaniaeth ydy: Ar ôl y rhagenw dibynnol blaen FY, mae angen TREIGLAD TRWYNOL Ar ôl y rhagenw mewnol ‘m - DOES DIM TREIGLAD
Gwallau cyffredin gyda’r rhagenwau dibynnol… • Peidio â threiglo ar ôl y rhagenwau dibynnol blaen FY, DY, EI(gwr), EI (ben) • Treiglo ar ôl y rhagenwau dibynnol lluosog • Peidio â defnyddio’r rhagenw dibynnol blaen o flaen enwau a berfau • Peidio â defnyddio’r rhagenwau mewnol
Ble mae’r gwallau? Dywedodd fy brawd bod fi’n cael benthyg ei car yfory. [3] Daeth fy taid i ein gweld ni. [2] Mae ein ddosbarth yn fy gwylltio. [2] Bydd Sion yn dod i gweld fi heno. [1]