170 likes | 388 Views
ADOLYGU GRAMADEG. Rheolau ENW ANSODDAIR ARDDODIAD RHAGENW. Chwiliwch am y gwallau yn y brawddegau canlynol ac yna ar lafar, ceisiwch gywiro’r brawddegau yn ôl y drefn arferol: GWALL CYWIRIAD ESBONIAD
E N D
ADOLYGU GRAMADEG Rheolau ENW ANSODDAIR ARDDODIAD RHAGENW
Chwiliwch am y gwallau yn y brawddegau canlynol ac yna ar lafar, ceisiwch gywiro’r brawddegau yn ôl y drefn arferol: GWALL CYWIRIAD ESBONIAD Bydd yr atebion yn cael eu datgelu fesul un. Mae nifer y gwallau yn y brawddegau wedi ei nodi mewn cromfachau ar ddiwedd y frawddeg. Mae esiampl i chi ar y sleid nesaf.
Mae’r merch mwyaf ifanc yn y dosbarth yn tal ac yn tenau iawn. [4] • mae’r merch > mae’r ferch Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod 2. mwyaf ifanc > ieuengaf Gradd eithaf yr ansoddair ifanc yw ‘ieuengaf’ 3. yn tal > yn dal Ansoddair yn dilyn yr ‘yn’ traethiadol yn treiglo’n feddal 4. yn tenau > yn denau Ansoddair yn dilyn yr ‘yn’ traethiadol yn treiglo’n feddal
Aeth y fachgen i gweld ei modryb. [3] • y fachgen y bachgen Nid yw enw unigol gwrywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod 2. i gweld i weld Angen treiglad meddal ar ôl yr arddodiad ‘i’. • ei modryb ei fodryb Treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ gwrywaidd.
Mae sian yn merch dymunol. [3] • sian Sian Angen llythyren fawr i enw priod. • yn merch yn ferch Enw yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol. • merch dymunol merch ddymunol Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal.
Mae’r blwyddyn hwn yn blwyddyn naid. [3] • Mae’r blwyddyn Mae’r flwyddyn Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod. • blwyddyn hwn blwyddyn hon Angen yr ansoddair dangosol benywaidd gyda’r enw benywaidd. • yn blwyddyn yn flwyddyn Enw yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol.
Mae fy brawd yn cael ei penblwyddyfory. [2] • fy brawd fy mrawd Angen treiglad trwynol ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘fy’. • ei penblwydd ei benblwydd Angen treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘ei gwrywaidd.
Roedd prif mynedfa’r ysgol ar cau yn dilyn y damwain. [3] • prif mynedfa prif fynedfa Ansoddair o flaen enw yn achosi i’r enw dreiglo’n feddal. • ar cau ar gau Angen treiglad meddal ar ôl yr arddodiad ‘ar’. • y damwain y ddamwain Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod.
Mae’r coeden derwen yn tal iawn. [3] • mae’r coeden mae’r goeden Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod. • coeden derwen coeden dderwen Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal • yn tal yn dal Ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol.
Cafodd y fachgen mwyaf drwg yn y ddosbarth ei cosbi. [4] • y fachgen y bachgen Nid yw enw unigol gwrywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod. • mwyaf drwg gwaethaf Gradd eithaf yr ansoddair drwg yw ‘gwaethaf’. • y ddosbarth y dosbarth Nid yw enw unigol gwrywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod. • ei cosbi ei gosbi Treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ gwrywaidd.
Edrychodd y mam ar hi’n blin. [3] • y mam y fam Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod • ar hi arni hi Angen yr arddodiad yn ei ffurf redadwy 3ydd person unigol • yn blin yn flin Ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol.
Mae’r cath du yn dof iawn. [3] • Mae’r cath Mae’r gath Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod 2.cath du cath ddu Ansoddair yn dilyn enw benywaidd yn treiglo’n feddal. • yn dof yn ddof Ansoddair yn treiglo’n feddal ar ôl yr ‘yn’ traethiadol.
Roedd llawer o fobl yn y drama. [2] • o fobl o bobl Angen treiglad meddal ar ôl yr arddodiad ‘o’. Treiglad meddal y llythyren ‘p’ yw ‘b’nid ‘f’. • y drama y ddrama Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod
Roedd gan fo cur yn ei pen. [3] • gan fo ganddo fo Angen yr arddodiad yn ei ffurf redadwy 3ydd person unigol. • ganddo fo cur ganddo fo gur Treiglad meddal ar ôl yr arddodiad ‘gan’. • ei pen ei ben Angen treiglad meddal ar ôl y rhagenw dibynnol blaen ‘ei’ gwrywaidd.
Bydd dathlu yn yr ysgol hwn y blwyddyn nesa. [2] • ysgol hwn ysgol hon Angen yr ansoddair dangosol benywaidd gydag enw benywaidd. • y blwyddyn y flwyddyn Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod
Hwn yw’r merch mwyaf da. [3] • Hwn Hon Angen y rhagenw dangosol benywaidd. • yw’r merch yw’r ferch Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod • mwyaf da gorau Ffurf gywir gradd eithaf yr ansoddair ‘da’ yw ‘gorau’
Roedd y merch a gwelwyd ar y stryd yn digartref. [3] y merch y ferch Enw unigol benywaidd yn treiglo’n feddal ar ôl y fannod a gwelwyd a welwyd Treiglad meddal ar ôl y rhagenw perthynol ‘a’ yn digartef yn ddigartref Ansoddair yn dilyn yr ‘yn’ traethiadol yn treiglo’n feddal