60 likes | 224 Views
DARLLENWCH YR HANES!. Arth Sbectolog yn Dychwelyd i Warchodfa yn Ecwador…. A allwch chi ddarganfod pedair ffaith ynghylch yr Arth Sbectolog?. Sut effeithiwyd ar eu cynefin, yn eich barn chi?. Rwyf yn frodor o Dde America – nid wyf yn byw yn unrhyw le arall!.
E N D
DARLLENWCH YR HANES! Arth Sbectolog yn Dychwelyd i Warchodfa yn Ecwador….
A allwch chi ddarganfod pedair ffaith ynghylch yr Arth Sbectolog? Sut effeithiwyd ar eu cynefin, yn eich barn chi?
Rwyf yn frodor o Dde America – nid wyf yn byw yn unrhyw le arall! Nid wyf yn gwisgo sbectol – Oherwydd y ffwr gwyn o gwmpas fy llygaid mae'n edrych fel pe bawn yn gwneud! A OEDDECH CHI'N GWYBOD? Gallai arth fenyw roi genedigaeth i 1 neu 2 genau ar y tro ar ôl bod yn dorrog am 8 i 8½ mis Y fi yw'r lleiaf o'r eirth ac rwyf yn dal i fod yn rhywogaeth mewn perygl Rwyf yn feistr ar ddringo coed a byddaf yn bwyta cnau, ffrwythau a dail yn bennaf. Weithiau, efallai byddaf yn bwyta anifeiliaid bychain megis ceirw hefyd.
Y STORI FAWR Arth Sbectolog yn Dychwelyd i Warchodfa yn Ecwador…. Gwelwyd teulu o Eirth Sbectolog rhai lathenni yn unig o gaban Maquipucuna, a leolir yn un o'r gwarchodfeydd preifat mwyaf yn Ecwador. Dyma'r tro cyntaf ers wyth mlynedd bron iawn i eirth gael eu gweld yn yr ardal. Roedd y bobl leol, sydd wedi bod yn gefnogol iawn i anghenion yr eirth ers tro, wedi cynhyrfu'n fawr gan hyn. Mae Maquipucuna yn golygu 'llaw dyner’ ac mae hyn yn bendant yn disgrifio agwedd y bobl tuag at eu coedwig law. Agorwyd y caban ym 1998 a'i nod oedd gwarchod y goedwig drwy addysg, ecodwristiaeth a thyfu cnydau. Mae'r ardal o gwmpas y caban yn dynfa bwysig i fywyd gwyllt, yn un o ddwy yn unig yn Ecwador ac o bymtheg ar hugain yn yr holl Fyd.
Camau ar gyfer arbed cynefin • Mae perchenogion y caban yn gweithio gyda phobl leol i ddatblygu eu sgiliau e.e. fel arweinwyr twristiaid. • Mae'r arian a godir yn cael ei roi yn ôl i'r bobl leol a fydd yn ei ddefnyddio i helpu i gadw ac i ddiogelu'r goedwig. • Mae ailgylchu'n bwysig iawn ac fe dyfir yr holl fwyd yn lleol ac yn organig, mae hyn yn cael ond ychydig o effaith ar yr amgylchedd. • Dyluniwyd y caban fel y byddai'n ymdoddi i'w amgylchoedd - defnyddiwyd pren a defnyddiau naturiol eraill yn unig. • Mae'r offer glanhau a ddefnyddir yn y caban yn fioddiraddadwy. • Mae ysgolion yn Quito (prif ddinas Ecwador) yn ymweld â'r caban i ddysgu am gynaladwyedd a rôl y goedwig.
A ydych CHI yn dinistrio cynefin?... Mae’r niferoedd o ddraenogod yng Nghymru yn syrthio. Yn ôl rhai amcangyfrifon byddant wedi diflannu o'r wlad erbyn 2025! Beth allwch CHI ei wneud? Meddyliwch am weithredoedd y bobl yng nghaban Maquipucuna. A allech chi wneud gweithredoedd tebyg? Beth am ddatblygu gwarchodfa natur ar dir eich ysgol? Sut allwch chi leihau eich effaith ar eich amgylchedd lleol? Dathlwch amrywiaeth y planhigion a'r anifeiliaid yn eich ardal chi! www.bbc.co.uk/breathingplaces/schools