180 likes | 368 Views
Sut i wneud bag llinyn tynnu. Dewisiad o ffabrig. Dewisiad o edau ar gyfer brodwaith a gwneud. Rhwydwaith poced wedi’i dorri a’i wnio’n barod. T â p ffabrig/rhuban i roi’r pocedi’n sownd. Cortyn i’r handlenni. siswrn. Rhai pethau y byddwch eu hangen i wneud bag. CAM 1.
E N D
Sut i wneud bag llinyn tynnu. Dewisiad o ffabrig Dewisiad o edau ar gyfer brodwaith a gwneud. Rhwydwaith poced wedi’i dorri a’i wnio’n barod Tâp ffabrig/rhuban i roi’r pocedi’n sownd Cortyn i’r handlenni siswrn Rhai pethau y byddwch eu hangen i wneud bag.
CAM 1 Uno’r ddau ddarn ffabrig Mae neilon neu twil cynfas yn ddelfrydol ar gyfer bag. Dylai’r ddau ddarn o ffabrig fod yr un lled. Dewiswch eich ffabrig. Dylai’r ffabrigau fod mewn lliwiau cyferbyniol / cyflenwol yn dibynnu ar yr effaith rydych chi’n dymuno’i gael. Dylai’r darn hwn fod yn hwy. 2. Dylai un darn o ffabrig fod yn hwy na’r llall, mae hyn er mwyn creu un ai top neu waelod y bag llinyn tynnu.
Cam 2 Uno’r ddau ddarn Gosodwch y ddau ddarn ffabrig ar ben ei gilydd. Yr ‘ochrau cywir gyda’i gilydd’. Trowch/gosodwch waelod y bag ar y darn top – yr ochr cywir yn wynebutuag atoch– wyddoch chi pam? Gwnewch yn siwr fod y ddau ffabrig yn dod gyda’i gilydd mewn llinell syth i wneud semau taclus. Mae angen dal top a gwaelod y bag gyda’i gilydd. Defnyddir semau i wneud hyn. Semau yw dau ddarn o ffabrig sydd wedi cael eu pwytho gyda’i gilydd.
Cam 3 Uno’r ddau ddarn Nodwydd Piniwch y ddau ffabrig gyda’i gilydd – pam mae pennau’r pinnau’n wynebu i ffwrdd o’r ymylon. Pinnau Defnyddiwch bwyth tacio neu bwyth rhedeg Taciwch ddwy ochr y ffabrig i’w dal gyda’i gilydd. Pwyth syml sy’n mynd i mewn ac allan yw’r pwyth rhedeg. Pwyth tacio
Cam 4 Pwytho’r bag gyda’i gilydd Tynnwch y pinnau allan cyn pwytho Gosodwch ymyl troed y peiriant gwnio ar ymyl y ffabrig a dewiswch bwythau syth. Tynnwch y pinnau a defnyddio’r peiriant i wnio’r ddau ddarn. Pwyth tacio Bydd y pwythau syth yn ffurfio semau. Bydd hyn yn dal y ddau ddarn ffabrig yn sownd ac yn wastad. Sylwch lle y gosodir troed y peiriant gwnio. Pwythau syth wedyn i ddal y darnau gyda’i gilydd.
Cam 5 Tacluso ymylon crai Tra bod y defnydd yn dal i fod wedi’i blygu (ymylon ar y dde gyda’i gilydd) rhowch bwyth igam ogam ar yr ymyl hwn i dacluso’r ymylon crai. Pwyth igam ogam i dacluso. Pam rydyn ni’n tacluso’r ymylon crai? Defnyddiwch bwyth igam ogam ar dop y bag i dacluso’r ymyl hon. Sylwch lle y gosodir troed y peiriant gwnio. Rydych chi wedyn yn defnyddio pwyth igam ogam i ddal ymylon y ffabrig gyda’i gilydd.
Cam 6 Parod i roi’r llinyn tynnu’n sownd. Gofynnwch i’r athro wnio tyllau botymau yn y ffabrig. Unwaith rydych chi wedi rhoi pwyth igam ogam ar yr ymylon agorwch y ffabrig a’i smwddio. Cymerwch ofal nad yw’r haearn smwddio’n rhy boeth ar rai mathau o ffabrig rhag ofn iddynt doddi (e.e. neilon) Mae’n rhaid i chi weithio’n ofalus Cofiwch fod yr haearn smwddio’n boeth Gofynnwch i’ch athro i’ch helpu i wnio tyllau botymau / rhoi llygadennau’n sownd er mwyn i’r llinyn tynnu fynd trwyddynt. Ochr cywir y ffabrig
Cam 7 Gosod y boced Dewiswch le i’r boced yng nghanol y rhan isaf. Torrwch rhubannau / tâp yn stribedi i’w defnyddio i osod y boced yn sownd. Piniwch ddwy ymyl y boced. Poced rhwyll – sylwch ar ei safle!! Piniwch y tapiau hyn
Cam 8 Gosod y boced Cymerwch nodwydd ac edau a dechreuwch osod pwyth tacio ar ddwy ochr y tâp. Mae hyn yn ffasno’r tâp yn barod i’w bwytho. Unwaith rydych chi wedi pwytho’r tacio’r top tynnwch eich pinnau allan yn barod i bwytho â’r peiriant.
Cam 9 Gosod y boced Ar ôl tynnu’r pinnau gallwch bwytho â’r peiriant gwnio gan ddefnyddio’r pwyth syth a dilyn siap U. (Sylwch ar y deiagram) Sylwch lle y gosodir troed y peiriant gwnio!!!! Tynnwch y pwyth tacio – Pam rydyn ni’n tacio’r stribedi? 1. Gwaelod i’r top – STOPIWCH & THROWCH Adolygu’n gyflym! 2. Ar hyd y top – STOPIWCH I DROI 3. I lawr yr ymyl.
Cam 10 Gwneud casin Trowch 4cm o’r ymyl top yn union uwch ben y llygadennau/tyllau botymau. Plygwch drosodd yr ymyl top ar yr ochr tu chwith i’r ffabrig. Trowch y bag drosodd i’r ochr tu chwithig. Ar y dudalen nesaf mae Rhybudd Diogelwch – dydy rhywbeth ddim yn iawn a dydy hi ddim y saff i weithio – Fedrwch chi weld beth sydd o’i le? Plygwch drosodd 4cm Yr ochr tu chwith
Troed y peiriant gwnio Cam 11 Gwneud casin Ydy’r pinnau hyn yn wynebu’r ffordd gywir? pinnau Trowch oddi tanodd 4 cm o’r ymyl. Ychwanegwch y pinnau – pa ffordd mae pennau’r pinnau wedi cael eu gosod? Pwythau syth ar hyd ochr ymyl y ffabrig– lle dylid gosod ymyl troed y peiriant gwnio? Wnaethoch chi stopio’r ymarfer peryglus? Dylai eich pwythau fod o dan y llygadennau. Tynnwch y pinnau. Ie, rydych chi’n gywir – mae’r pinnau’n wynebu’r ffordd anghywir. Da iawn. Yr ochr anghywir
Logos Dylunio logo i’r bag Am ein bod yn defnyddio sganiwr llaw i greu ein logo bydd angen i chi gadw nifer o bethau mewn cof: 50mm 1. Maint mwyaf y logo fydd: 50mm 2. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio inc du yn unig – pam? 3. Mae’n rhaid i chi ystyried faint o fanylion i’w cynnwys yn y logo – dydy’r sganiwr ddim yn gallu ymdopi â llinellau mân neu ysgrifen. Pa un o’r dyluniadau hyn fydd yn sganio orau?
Logos Gosod y dyluniad logo ar y bag. • Os ydych yn defnyddio’r cyfrifiadur i ddylunio bydd angen i chi feddwl am yr agweddau canlynol: • gwnewch yn siwr nad yw eich dyluniad yn rhy agos at ymyl y papur. Byddai’r sganiwr yn cofnodi ymyl y dudalen, yn ei gofrestru fel llinell ac felly’n difetha’ch dyluniad.. 1. Lluniadwch/argraffwch y dyluniad gyda digon o le o’i amgylch. Ystyriwch safle’r logo ar y bag – Pam? • I osgoi gwastraffu adnoddau gwiriwch faint eich dyluniad cyn ei argraffu. • argraffwch ddau gopi o’r dyluniad ar un dudalen – un ychydig yn fwy na’r llall; y ddau ar wahan ac ar ganol y dudalen.
Cam 12. Gosod Logo Gall y logo fynd yma. Cofiwch- Dylai’r logo fod yn amlwg!! Mae hi’n haws gosod logo / nodwedd addurnol tra bod y bag yn wastad. Yn y llun mae cylch yn cynrychioli’r logo a gellir ei osod unrhyw le ar y bag. Caiff rhai syniadau eu cynrychioli yma. Gall y logo /nodwedd addurnol fod mewn lliwiau cyferbyniol neu liwiau cyflenwol. Mae’n rhaid iddo wella’ch bag. Syniadau eraill ar gyfer lleoliad y logo. Cliciwch yma am syniadau logo
Plygwch y bag fel ei fod y tu chwith allan. Cam 13 Pwytho’r bag gyda’i gilydd. Pwythau syth Troed y peiriant gwnio 1. Plygwch y bag yn ei hanner – yr ochrau cywir gyda’i gilydd a’u pinio. – cofiwch y rheol pinio. 2. Pwythau syth – gosodwch ymyl y droed ar ymyl y ffabrig. 3. Mae ymyl grai i‘r ffabrig. Beth ydych chi’n feddwl ydy’r cam nesaf? sêm Bag tu chwith allan pinnau
Cam 14 Pwytho’r bag gyda’i gilydd. 1. Gosodwch y sêm yn ôl yng nghanol y bag a gofynnwch i’ch athro i osod y cordyn yn ei le. 2. Pinniwch a defnyddiwch bwythau syth i bwytho’r sêm, unwaith eto defnyddiwch bwythau igam ogam i dacluso’r ymyl grai. Troed y peiriant 3. Tynnwch y pinnau a throwch y bag y ffordd iawn. Pinio a phwythau syth ar hyd yr ymyl hwn, yna’i dacluso gyda phwythau igam ogam. Mae’r cordyn yn mynd yn y bag i osod y llinyn tynnu, mae hwnnw’n mynd yma
Mae’n rhaid i chi weithio’n ofalus cwlwm STEP 15 Cofiwch fod yr haearnsmwddio’n boeth. Gosod y cordyn Darn hir o gordyn wedi cael ei dynnu drwy’r casin a thrwy’r tyllau botymau, ac yna wedi gwneud cwlwm yn y gwaelod. Cymerwch ddarn o’r cordyn a gan ddefnyddio pin cau gwthiwch y cordyn yn ofalus drwy’r tyllau botymau / llygadennau, yna gwnewch gwlwm yn y gwaelod. Smwddiwch y bag yn gyflym i wella’r cyflwyniad. Byddwch yn wyliadwrus gyda’r gwres – peidiwch â thoddi’r bag. 2. Torrwch unrhyw edau sydd dros ben i wella’r cyflwyniad. 3. Nawr rydych chi wedi cwblhau’ch bag. Da iawn. Eich bag gorffenedig