110 likes | 336 Views
Adolygiad Arweinyddiaeth Unigol (AAU) Beth ydyw? Pam ddylwn i ddatblygu fy AAU? Pwy ddylai ddefnyddio'r AAU? Pryd ddylwn i gyfrannu at fy AAU? Sut ddylwn i gyfrannu at fy AAU? Pa mor aml y dylwn i ychwanegu at fy AAU? Ble fyddwn i'n defnyddio fy AAU?. Beth ydyw?.
E N D
Adolygiad Arweinyddiaeth Unigol • (AAU) • Beth ydyw? • Pam ddylwn i ddatblygu fy AAU? • Pwy ddylai ddefnyddio'r AAU? • Pryd ddylwn i gyfrannu at fy AAU? • Sut ddylwn i gyfrannu at fy AAU? • Pa mor aml y dylwn i ychwanegu at fy AAU? • Ble fyddwn i'n defnyddio fy AAU?
Beth ydyw? • Matrics o'r safonau arweinyddiaeth yng Nghymru yw'r • Adolygiad Arweinyddiaeth Unigol (AAU) • Mae'r safonau o fewn yr AAU wedi'u trefnu o dan y • meysydd allweddol canlynol • Pennu Cyfeiriad Strategol • Arwain ar Ddysgu ac Addysgu • Datblygu a gweithio gydag eraill • Rheoli'r ysgol • Sicrhau atebolrwydd • Cryfhau'r ffocws cymunedol
Rhoddir disgrifydd fel rhagddodiad ar gyfer pob maes • allweddol sy’n pennu ffocws y safonau yn y maes allweddol • Mae lle yn yr AAU i’r ymarferydd gynnwys tystiolaeth • o'r graddau y mae ei arferion eisoes yn bodloni anghenion • y safonau, ac i nodi blaenoriaethau ar gyfer • datblygu arweinyddiaeth yn y dyfodol. • Mae'r AAU yn 'ddogfen fyw' gyfredol sy’n cynnwys • tystiolaeth o'ch arweinyddiaeth yn erbyn y safonau • arweinyddiaeth cenedlaethol.
Pam ddylwn i ddatblygu fy AAU? • I ddod yn ymarferydd myfyriol • I ddatblygu darlun cynhwysfawr o fy mhrofiad arweinyddiaeth • I nodi meysydd i'w datblygu neu i'w datblygu ymhellach • I gynllunio dysgu proffesiynol i’r dyfodol sy'n seiliedig • ar angen
Pwy ddylai ddefnyddio'r AAU? • Mae'r AAU ar gyfer ymarferwyr sy'n gweithio ar bob • lefel yn y system addysg sy'n dymuno cofnodi tystiolaeth • o'u profiad o arweinyddiaeth a nodi anghenion at y dyfodol.
Pryd ddylwn i gyfrannu at fy AAU? • Unrhyw bryd yn ystod eich gyrfa fel ymarferydd • Gorau po gynted rydych yn dechrau • Cyn dechrau rôl newydd • Adolygu'r AAU cyfredol cyn dechrau unrhyw rolau newydd • dilynol • Fel rhan o'ch datblygiad proffesiynol
Sut ddylwn i gyfrannu at fy AAU? • Mae perchenogaeth yn bwysig, ysgrifennwch am yr hyn rydych chi • yn ei wneud • Nid yw trefn y safonau yn bwysig • Dechreuwch drwy lenwi'r safonau y mae gennych dystiolaeth glir • ohonynt • Os nad ydych yn gallu ei gwblhau i gyd, peidiwch â phoeni. Bydd • gwneud hynny yn rhan o’ch datblygiad • Mae'n bosibl y bydd rhai meysydd yn gorgyffwrdd a gallai tystiolaeth • godi o ymgymryd â gwahanol rolau dros amser
Defnyddiwch dystiolaeth o fewn eich cyd-destun eich hun – • gallai fod yn berthnasol i adran/cyfnod neu ysgol gyfan • Dylech ei lenwi'n unigol ond, yn aml, mae trafod mewn grwpiau i • ddechrau yn gallu bod yn ddefnyddiol, trwy sesiwn taflu • syniadau am yr holl dystiolaeth bosibl • Rhannu gydag uwch arweinydd yr ydych yn ei ymddiried ynddynt • er mwyn cael persbectif gwahanol • Bydd tystiolaeth yn adeiladu dros amser, a bydd newidiadau yn • cael eu gwneud • Cofiwch fod yr AAU yn ddogfen fyw
Pa mor aml y dylwn i ychwanegu at fy AAU? • Mae'n ddogfen fyw a gallwch chi ei diweddaru unrhyw • bryd • Mae adolygu’r hyn rydych wedi’i wneud bob • hanner tymor/tymor yn arfer da • Bob tro rydych yn cael profiad newydd neu delio • gyda sefyllfaoedd newydd
Ble fyddwn i'n defnyddio fy AAU? • Tystiolaeth ar gyfer hunanasesu • Dull o nodi cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol • Tystiolaeth pan fyddwch yn ceisio am swyddi • Tystiolaeth ichi ei defnyddio ar gyfer rheoli eich • perfformiad • Tystiolaeth ar gyfer rhoi cais i gamu ymhellach mewn • arweinyddiaeth
Dilynwch y ddolen hon am fersiwn ryngweithiol a deunyddiau ategol ychwanegol i'ch helpu chi i ddefnyddio eich AAU - http://dysgu.cymru.gov.uk/yourcareer/leadershipdevelopment/?lang=cy