170 likes | 391 Views
Astudio’r Cyfryngau. Cyrychiolaeth Rhyw. Ail-ddal. Beth yw ystyr y term semioteg? Beth yw ystyr y geiriau cynodaid a dynodiad? Beth yw ystyr y term rhyngdestuniaeth? Beth yw ystyr ymateb/darlleniad ffafriol neu’r gwrthwyneb?. Nod y Wers.
E N D
Astudio’r Cyfryngau Cyrychiolaeth Rhyw
Ail-ddal • Beth yw ystyr y term semioteg? • Beth yw ystyr y geiriau cynodaid a dynodiad? • Beth yw ystyr y term rhyngdestuniaeth? • Beth yw ystyr ymateb/darlleniad ffafriol neu’r gwrthwyneb?
Nod y Wers • Dysgu mwy o derminoleg sy’n berthnasol i ddadansoddi codau gweledol a semioteg • Erbyn diwedd y wers bydd disgyblion yn deall y term Ôl-Ffeministiaeth • Erbyn diwedd y wers bydd disgyblion wedi dadadeiladu fideo gerddoriaeth Madonna ‘Express Yourself’ gan ganolbwyntio ar gynrychiolaeth merched a dynion
Terminoleg… Weithiau wrth ddadansoddi codau gweledol o fewn y cyfryngau yn lle dynodiad a chynodiad defnyddir y termau ‘arwyddwr’ ac ‘arwyddocáu’. Yn syml mae’n golygu mwy neu lai yr un peth sef beth yw’r arwydd a beth yw ei arwyddocâd. Saesneg ‘signifier’ a ‘signifies’.
Ôl Ffeministiaeth • Creuwyd y term yn yr 80au • Defnyddir y term i ddisgrifio’r amryw o ymatebion i Ffeministiaeth • Nid ydw’n gysyniad ‘wrth-ffeministaidd’ • Dywed Ôl-Ffeministiaid nad yw theorïau ac ideolegau’r mudiad Ffeministaidd yn berthnasol i ferched heddiw • Gellir gweld enghreifftiau o ferched ôl-ffeministiadd o fewn cyfryngau cyfoes megis ffilmiau a rhaglenni fel ‘Bridget Jones’ Diary’ a ‘Sex and the City’ ble mae’r merched yn annibynnol a rhywiol ond eu prif nod mewn bywyd yw darganfod y dyn perffaith a byw gyda hwy yn hapus byth a mwy
Astudiaeth Achos Fideo:Ymdriniaeth Ôl-Ffeministaidd Express Yourself (Madonna)
Madonna Gwrywaidd • Gwisgo cyfuniad o siwtiau gwrywaidd y byd busnes cyhyd a dillad merchetaidd fel ‘lingerie’ • Osgo dynol sgwariog sy’n barodi o iaith corff dynol • Arddangos ei chyhyrau yn chwareus mewn ystumiau gwrywaidd e.e. dyrnau
Madonna Gwrywaidd • Cyfeiriadau at Marlene Dietrich • Eicon y Sinema yn enwog am arbrofi gyda rolau rhyw: • Nodweddion - Dynol/’Adrogynous’/Gwisgo Drag
Dynion fel Peiriannau • Y dynion yn llythrennol yn ymddangos fel darnau o’r peiriant • Dynion fel caethweision, chwysu, rhywiol • Dim hunaniaeth, i gyd wedi gwisgo yr un peth • Arwyddocáu eu bod yn gaeth i ystradebau gwrywdod: pŵer corfforol/cryfder/arwyr/enillwr cyflog
Arsylliad Benywaidd • Cyrff Cyhyrog Delfrydol • ‘Hunks’ Del yr Olwg • Sefydlu ‘arsylliad benywaidd’ – mynegi chwant, rheolaeth a phŵer i ferched
Merched yn y Ddinas • Merched yn y ‘sffêr gyhoeddus’ (public sphere); yn meddiannu gofodau dynol - y brifddianas – yn hytrach na’r ‘sffêr ddomestig’ (domestic sphere) • Cysylltiadau rhyngdestunol â Metropolis, Fritz Lang 1926 – perthnasau/statws rhwng y gweithwyr a’r ‘elite’ – Madonna yw yr ‘elite’ Fritz Lang: Metropolis
Y Fenyw Grymus • Defnyddio dull cyfarch benywaidd “Come on Girls…Don’t go for second best baby…” • Defnyddio gwrthrychau ffalig – Y Madonna hudolus yn rhoi mwythau i symbol ffalig benywaidd (y gath) • Dywedodd Madonna mai arwyddocád y gath oedd “Pussy rules the world” (BBC 1990) • Cysylltiadau a’r dihiryn enwog pwerus Bond Blofeld(DDE)
Parodiau a pherfformwyr gwrywaidd Gafael yn y mannau cenhedlu i ddynwared ser Hip Hop/Rock
Gwadu’r Arsylliad • Mae ‘striptease’ Madonna yn digwydd tu ôl i sgrîn • Cysgod ‘androgynous’, cyhyrog • Ffocws yr arsylliad – gorwedd ar wely wedi ei chadwyno – hyn yn symbol o ferched sy’n gaeth i’r arsylliad