70 likes | 250 Views
Wedi darllen y ffynhonnell hon, sut yn eich barn chi roedd pobl yr Almaen yn teimlo ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf?.
E N D
Wedi darllen y ffynhonnell hon, sut yn eich barn chi roedd pobl yr Almaen yn teimlo ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf? “Trwy’r drysau yn y pen pellaf … daeth y pedwar swyddog o Ffrainc, Prydain, America a’r Eidal. Ac yna, yn unig a thruenus, daeth y ddau Almaenwr, Dr. Muller a Dr. Bell. Mae’r distawrwydd yn ddychrynllyd … Maent yn cadw eu golygon oddi wrth y dwy fil o lygaid sy’n rhythu arnynt, gan syllu i fyny tua’r nenfwd. Maent yn wyn fel y galchen … Mae tensiwn cyffredinol i’w deimlo. Maent yn arwyddo. Mae pethau’n ymlacio … Aros ar ein heistedd a wnaethom ni tra roedd yr Almaenwyr yn cael eu harwain i ffwrdd fel carcharorion o’r doc.” (Harold Nicolson, Peacemaking,(1919) Treaty
Beth mae’r ffynhonnell hon yn ei ddweud am deimladau pobl Prydain tuag at yr Almaen yn 1918? “Os caiff y llywodraeth hon ei hethol, bydd yr Almaenwyr yn talu pob ceiniog; mae nhw am gael eu gwasgu, fel y byddwn yn gwasgu lemon, nes bydd yr hadau’n gwichian.” (Syr Eric Geddes, Rhagfyr 1918) Syr Eric Geddes oedd Gweinidog Arfau Prydain, bu hefyd yn Oruchwyliwr y Llynges a Phrif Arglwydd y Morlys ar wahanol adegau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
A yw’r wybodaeth isod yn eich helpu i ddeall pam roedd cymaint o bobl eisiau dial wedi’r rhyfel? Cafodd tua 8 miliwn o bobl eu lladd Roedd cost y rhyfel tua £9,000 miliwn Gwnaed difrod enfawr i dir, cartrefi, ffermydd a ffatrïoedd Bu farw miliynau eto o bobl wedi’r rhyfel oherwydd newyn ac afiechyd “Yn Ffrainc a Gwlad Belg, lle digwyddodd y rhan fwyaf o’r ymladd, dinistriwyd 300,000 o dai, 6,000 o ffatrïoedd, 1,000 milltir o reilffordd, 2,000 o fragdai a 112 o byllau glo… Mewn rhai ffyrdd, ni lwyddodd y ddynoliaeth erioed i ddod dros erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf.” John D. Clare, First World War (1994) A yw’r wybodaeth uchod yn eich helpu i ddeall pam roedd cymaint o bobl eisiau heddwch wedi’r rhyfel?
Disgrifiwch ymateb pobl yr Almaen i Gytundeb Versailles? (2 farc) CBAC, Papur 1, Astudiaeth Fanwl, Mehefin 2004 Cynllunio eich ateb: