120 likes | 291 Views
Y ‘Stafell Ddirgel Pennod 7. Marion Eames. Cynnwys. Haf poeth tu hwnt – Pawb yn gorfod mynd i’r eglwys i dalu gwrogaeth neu yn cael eu hystyried i fod yn fradwyr i’r brenin a’r ffydd Brotestanaidd.
E N D
Y ‘Stafell Ddirgel Pennod 7 Marion Eames
Cynnwys • Haf poeth tu hwnt – Pawb yn gorfod mynd i’r eglwys i dalu gwrogaeth neu yn cael eu hystyried i fod yn fradwyr i’r brenin a’r ffydd Brotestanaidd. • Gwrthgyferbyniad amlwg rhwng yr eglwys ac arferion creulon y werin e.e. y bwriad o fynd i’r Ceffyl Gwinau ( Ffowc sy’n cadw’r dafarn) yn syth ar ôl yr oedfa ac yna i ymladd ceiliogod yn y fynwent! Yr un bobl sy’n mynd i’r eglwys ac i’r dafarn, y ffair, yr ymladd ceiliogod ac yn boddi gwrachod.
Parhad • Y Rheithor fyddai’r cyntaf i’r dafarn – RHAGRITH. • Y Rheithor a Hywel Vaughan yn ffrindiau da. • Robert Owen Dolserau yn torri ar draws y cyfarfod cyn diwedd y fendith. Datgan ei gred a’i ffydd yn gyhoeddus. Galw’r rheithor yn “Was y diafol”. • Samuel Ifan(Twrne) yn ymosod ar Robert Owen – yn ei ddyrnu a thynnu ei het oddi ar ei ben er mwyn ei fychanu. • Pawb yn ymateb drwy ymosod ar Robert Owen.
Parhâd.. • Robert Owen yn wynebu Samuel Ifan wyneb yn wyneb yn y fynwent. Mae hyn yn adloniant gwych i’r dorf – gwell na’r ymladd ceiliogod. • Robert yn gorchfygu ei elyn heb ymladd!Hyn yn syndod i’r dorf. • Rowland Ellis yn sylwi ar dynerwch a threfnusrwydd a dewrder Marged Owen Dyffrydan yn sychu’r gwaed oddi ar wyneb Robert Owen. • Robert Owen yn gyn –filwr felly – mae ei agwedd newydd o ymatal rhag paffio yn groes i’r graen iddo.
Parhâd… • Sian Morris yn noeth ar y comin a’r bobl yn ei gwawdio ac yn ymosod yn gorfforol arni. • Rowland Ellis yn ei chodi yn ei freichiau ac yn rhoi ei glogyn amdani.( Symbol cyhoeddus cyntaf Rowland o’i berthynas â’r Crynwyr.)Mae Rowland yn mynd â hi gartref. • Rowland wrth gario Sian yn teimlo ei fod wedi ymateb gymaint gwell nac a wnaeth i ddigwyddiad boddi Betsan Prys. • Teimlo ei fod wedi amddiffyn merch ynghanol creulondeb torf – dylai fod wedi gwneud hynny i Betsan.
Parhâd… • Mae hyn yn symbol o’r newid mawr sydd wedi dod drosto ers hynny. • Marged Owen wedi ymddangos yn nhŷ’r teiliwr er mwyn rhoi cymorth i Rowland. • Cydweithio clos a dealltwriaeth dda rhwng Rowland a Marged. • PAWB yn gwybod rwan am ymlyniad Rowland i fod yn Grynwr. Gwnaeth ymrwymiad cyhoeddus drwy amddiffyn Sian. • Y Cyfeillion yn edrych arno fel olynydd i Robert Owen.
Parhâd… • George Fox mewn cysylltaid â Chrynwyr Dolgellau . Methu â deall nad ydynt yn rhugl yn y Saesneg. – credu bod hyn yn amharu ar ddatblygiad eu ffydd. • Datblygiad ym mherthynas Rowland a Marged –Rowland yn gallu siarad am ei broblemau priodasol gyda Marged. Trafod ofnau Meg fod Rowland am gael ei garcharu.
Marged Owen(Cyfnither RE) • Trefnus • Cysurlon • Ymarferol ei gweithredoedd • Caredig. • “ Roedd cadernid iachusol yn perthyn i ferch Dyffrydan” • Direidi yn ei gwên. • Dangos tosturi tuag at Rowland yn ei sefyllfa â Meg.
Cynlluniau Meg: • Casglu arian i ddianc. Uchafbwynt ei diwrnod oedd rhoi arian yn y bocs pren afal. • Eisiau prynu rhyddid iddi hi ei hun. • Teimlo’n gas at Rowland am ei fod o am fradychu ei gefndir moethus a holl waith caled ei gyndadau. • “Gallai feddwl am Rowland.. Fel dyn nad oedd yn perthyn iddi mwyach.”
Cynllwynio Meg… • Huw Morris yw’r unig un sy’n sylweddoli fod rhywbeth o’i le ar Meg – yn sylwi ei bod hi’n cynllwynio rhywbeth. • Huw Morris wedi cael gwybodaeth gan Nans y Goetre wrth gysgu â hi rhyw noson. • Ellis a Rowland yn mynd i Tabor i gyfarfod y Crynwyr – Huw yn manteisio ar y sefyllfa. • Huw yn gweld Meg yn dwyn o’r ddresal. • Huw yn mynd i’w herio. Dangos i Meg ei fod yn gwybod am ei hymgais i erthylu’r babi.
Parhâd… • Huw yn (rhoi’r argraff mai) amau mai oherwydd mai nad Rowland oedd y tad oedd rheswm Meg dros erthylu’r babi! • Huw yn herio Meg – dangos ei fod yn gwybod ei bod hi wedi dwyn arian. • Huw yn mynnu cael hanner yr arian (neu ffafr rywiol) Meg yn ei ddarbwyllo mai am brynu cwpan aur i Rowland mae hi gyda’r arian. Ond Huw yn cael y fuddugoliaeth.
Parhâd… • Newyddion drwg i’r Crynwyr yn y cyfarfod – George Fox yn y carchar gyda nifer fawr o Grynwyr eraill. • Rhybudd o ddyddiau blin ac anodd o’u blaen. ERLID MAWR. • Si fod Robert Owen am gael ei roi yn ôl yn y carchar. • Meg yn marw ar enedigaeth ei merch.