140 likes | 363 Views
Rhaglenni Cyflogadwyedd (Edrych Ymlaen) Heather Davidson Uwch Reolwr Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc Ian Raybould Uwch Reolwr, Datblygu Adeiladu Sgiliau Nick Lee Pennaeth Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc. www.cymru.gov.uk. Cynnwys y Gweithdy. Gwybodaeth ystadegol
E N D
Rhaglenni Cyflogadwyedd (Edrych Ymlaen)Heather Davidson Uwch Reolwr Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc Ian Raybould Uwch Reolwr, Datblygu Adeiladu Sgiliau Nick Lee Pennaeth Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc www.cymru.gov.uk
Cynnwys y Gweithdy • Gwybodaeth ystadegol • Cynllun gweithredu ymgysylltiad a chyflogaeth pobl ifanc (y rheini rhwng 16 a 24 oed) • Cwestiynau i'w trafod yn y gweithdy
Cyfraddau diweithdra ymhlith pobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) • Mae tua 14,000 o bobl ifanc (rhwng 16 a 18 oed) sy'n NEET yng Nghymru (h.y. 12%) • mae'r gyfran o bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed sy'n NEET wedi cynyddu 4% rhwng 2008 a 2009 i tua 32,000 (h.y. 22 %) • Diweithdra ymhlith pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru • 45,900 yn 2009 sy'n gyfradd o 19.9 y cant, sy'n uwch na chyfradd y DU o 18.7 y cant.
Ystadegau - Dadansoddiad allweddol • Y rhagolygon presennol yw y bydd diweithdra ymhlith pobl ifanc yn parhau i gynyddu • Mae toriadau yn swyddi'r sector cyhoeddus yn annhebygol o gael effaith uniongyrchol ar ddiweithdra ymhlith pobl ifanc • Gall cynnydd mewn ffioedd dysgu gael effaith
Sectorau â blaenoriaeth sy'n cael cymorth • Mae asesiad o anghenion sgiliau wrthi'n cael ei gynnal. • Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi blaenoriaethu sectorau sy'n cael cymorth gan ystyried Rhaglen Adnewyddu'r Economi a blaenoriaethau polisi ehangach • Y diwydiannau carbon isel ac ynni, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch, TGCh / telathrebu a'r diwydiannau creadigol
Cynllun gweithredu ymgysylltiad a chyflogaeth pobl ifanc (y rheini rhwng 16 a 24 oed)
Datblygiadau Allweddol Beth sydd wedi digwydd hyd yma? • Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru • Grŵp Gorchwyl a Gorffen Diweithdra ymhlith Pobl Ifanc • Grŵp Gweithredol Adolygu NEET
Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc Un rhaglen waith sy'n datblygu - Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc Un o'r Canlyniadau Allweddol yw darparu cyfleoedd i bobl ifanc gael sgiliau cyflogadwyedd a phrofiad gwaith gyda'r nod o ddatblygu yn eu gyrfa o fewn fframwaith pendant.
Llwybrau at Waith • Un llwybr hyblyg a chydlynol i bobl ifanc nad ydynt yn ymgysylltu mewn ffordd gadarnhaol neu gynaliadwy ag un o'r prif opsiynau ôl-16. Gallai edrych fel y canlynol: Dilyniant Ymgysylltu Datblygu Sgiliau / Profiad Gwaith Cyflogaeth gyda hyfforddiant ffurfiol neu hebddo Cyflogaeth Barhaol
Llwybrau at Waith • Wynebir nifer o heriau er mwyn cyflawni hyn: • Dull aml-asiantaeth • Ymgysylltu â chyflogwyr • Dathlu llwyddiant, dilyniant a chyflawniad • Darpariaeth integredig er mwyn diwallu anghenion unigolyn e.e. y rheini ag anabledd
Gweithdy Grŵp Un Beth yw'r rhwystrau sy'n wynebu cyflogwyr sydd am gyflogi person ifanc (rhwng 16 a 24 oed) a beth y gallem ei wneud, nad yw eisoes yn digwydd, i'w goresgyn? Grŵp Dau Sut y gallwn wella darpariaeth bresennol i ymgysylltu â phobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) sydd ag anabledd neu anghenion dysgu ychwanegol a diwallu eu hanghenion er mwyn iddynt gael gwaith? Grŵp Tri Sut y gallwn sicrhau bod llwyddiannau a dilyniant pobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) ar eu Llwybrau at Waith yn cael eu dathlu yn unol â chyflawniadau academaidd?