100 likes | 280 Views
Systemau Carbwradur. Nodau ac Amcanion. Nod Gallu adnabod sut y mae carbwradur yn gweithio mewn peiriant taniad mewnol. Amcanion Gallu disgrifio sut y mae carbwradur yn gweithio a ’ i swyddogaeth yn y system danwydd Gallu adnabod cymysgedd “ cyfoethog ” a “ thenau ” o danwydd
E N D
Systemau Carbwradur Nodau ac Amcanion Nod Gallu adnabod sut y mae carbwradur yn gweithio mewn peiriant taniad mewnol. Amcanion Gallu disgrifio sut y mae carbwradur yn gweithio a’i swyddogaeth yn y system danwydd Gallu adnabod cymysgedd “cyfoethog” a “thenau” o danwydd Adnabod sut y mae cyfuniad o danwydd ac aer yn cael eu cymysgu yn y carbwradur.
Systemau Carbwradur Y Carbwradur Mewn carbwradur syml y mae dwy gydran sylfaenol : Siambr arnofio Siambr gymysgu
Systemau Carbwradur Y Siambr Arnofio Mae’r siambr arnofio yn seiliedig ar siâp pedol. Os yw’r wasgedd yn aros yr un fath yn A a B, ni fydd newid yn yr uchder (h)
Systemau Carbwradur Y Siambr Arnofio Ond os bydd y wasgedd yn wahanol yn A bydd yn achosi i’r hylif symud i fyny, gan newid uchder yr hylif (h).
Systemau Carbwradur Er mwyn cyfyngu ar lifeiriant y tanwydd rhoddir plwg bychan gyda thwll ynddo yn nhiwb B. Bydd tyllau o faint gwahanol yn rheoli faint o danwydd sy’n mynd i mewn i’r silindr. Gelwir y rhain yn jetiau. Y Siambr Arnofio
Systemau Carbwradur Y Siambr Arnofio Cedwir yr hylif yn y siambr ar lefel gyson Cedwir top y siambr arnofio o dan wasgedd atmosfferig Mae pibell yn cysylltu pen uchaf y siambr gyda’r pwmp tanwydd Y tu mewn i’r siambr mae arnofyn. Ar yr arnofyn y mae nodwydd, ac mae blaen y nodwydd yn mynd i mewn i’r twll sy’n gadael i’r tanwydd lifo i’r siambr.
Systemau Carbwradur Y Siambr Arnofio Pan fydd y siambr yn wag bydd yr arnofyn yn gorwedd ar waelod y siambr ac mae’r fewnfa yn agored. Wrth i’r siambr lenwi mae’r arnofyn yn codi gan atal mwy o danwydd rhag dod i mewn. Mae’r cysylltiad rhwng y nodwydd a’i heistedddfa yn atal gormod o danwydd rhag llifo i mewn i’r siambr. Wrth i lefel y tanwydd syrthio mae falfiau’r nodwydd yn ailagor gan adael i fwy o danwydd ddod i mewn i’r siambr.
Systemau Carbwradur Y Fentwri Mae’r fentwri yn diwb sy’n teneuo yn ei ganol Mae nwy sy’n llifo ar hyd y tiwb hwn yn cael ei roi dan wasgedd a bydd yn symud yn gyflymach wrth basio drwy’r rhan denau Mae’r tiwb wedi ei leoli yn y bibell anwytho sy’n dod ag aer i’r peiriant Mae’r cyfuniad o ddirwasgiad a achosir gan yr aer yn pasio drwy’r fentwri a’r cyflenwad petrol o’r siambr arnofio yn caniatau i’r petrol a’r aer gymysgu gyda’i gilydd. LLIF
Systemau Carbwradur Y Tagydd Wrth gychwyn yn oer roedd peiriannau ers talwm yn anodd eu tanio. Gan hynny, roedd tagydd yn creu cymysgedd mwy cyfoethog o danwydd a oedd yn haws ei danio, fel bod y cerbyd yn cychwyn yn well. Mae’r tagydd yn cyfyngu ar lif yr aer drwy fewnfa’r carbwradur, cyn y fentwri. Mae’r gwacdod ychwanegol sy’n cael ei greu yn tynnu mwy o danwydd drwy’r brif system fesuro. Gall y gyrrwr reoli’r tagydd (trwy dynnu nobyn) neu mae’n bosib ei reoli’n awtomatig trwy Uned Reoli Electronig (ECU) y cerbyd, sy’n cymryd darlleniadau o thermostat y cerbyd a chydrannau eraill ac yn addasu’r cymysgedd aer a thanwydd fel y bo angen.
Systemau Carbwradur Crynodeb – A ydym wedi … gallu disgrifio sut y mae carbwradur yn gweithio a’i swyddogaeth yn y system danwydd? gallu adnabod system danwydd “gyfoethog” a “thenau”? deall sut y mae aer a thanwydd yn cael eu cymysgu yn y carbwradur?