340 likes | 499 Views
Modiwl 1: Cyflwyniad i addysg ariannol a lle mae ‘Rheoli arian’ wedi’i gynnwys yn y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru. Amcanion y modiwl. Gwybodaeth am sail resymegol a phwrpas addysg ariannol.
E N D
Modiwl 1: Cyflwyniad i addysg ariannol a lle mae ‘Rheoli arian’ wedi’i gynnwys yn y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru
Amcanion y modiwl • Gwybodaeth am sail resymegol a phwrpas addysg ariannol. • Rhoi syniad o ble mae gallu ariannol wedi’i gynnwys o fewn y cwricwlwm ysgol yng Nghymru, a phwysigrwydd cydlynu addysgu rhwng meysydd pwnc gwahanol yn yr ysgol. • Cyfleoedd i ystyried datblygu sgiliau fel y nodir yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh).
Sail resymegol a phwrpas addysg ariannol • Mae cyfle unigryw gan ysgolion a cholegau i feithrin agweddau cadarnhaol at gyllid mewn plant ifanc a chyrraedd pob rhan o gymdeithas, gan gynnwys nifer y gall fod yn llawer mwy anodd eu cyrraedd yn nes ymlaen. • Nod addysg ariannol yw rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder i ddysgwyr i’w galluogi i reoli eu harian yn dda. Mae hefyd yn archwilio agweddau, emosiynau ac ymddygiad tuag at arian. • Mae addysg ariannol yn annog dysgwyr i wneud dewisiadau gwybodus am bynciau megis anghenion a dyheadau, cyllidebu, benthyca, cynilo a gwerth gorau am arian.
Gallu ariannol • Gellir rhannu gallu ariannol yn dair thema gydberthynol: • gwybodaeth a dealltwriaeth ariannol: cael gwybodaeth a dealltwriaeth o natur arian a rhyw syniad o’i swyddogaeth a’i ddefnydd • sgiliau a chymhwysedd ariannol: gallu cymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion ariannol ar draws ystod o gyd-destunau er mwyn delio â materion rheoli arian o ddydd i ddydd a dechrau ystyried sut i gynllunio ar gyfer y dyfodol • cyfrifoldeb ariannol: datblygu’r gallu i lunio barn dda ynghylch sut y gall arian gael ei ddefnyddio’n effeithiol neu ei wastraffu.
Pwyntiau i’w hystyried wrth gynllunio i gyflwyno addysg ariannol mewn ysgolion • Ar ddechrau’r broses gynllunio, dylai staff ysgol ystyried natur y gymuned ysgol ac anghenion a chefndiroedd ei dysgwyr. • Bydd gwahaniaeth mewn cefndir a phrofiad yn effeithio ar brofiad dysgwyr o arian a chyllid. • Mae profiad rhai dysgwyr o arian yn parhau i fod o fewn economi arian parod i raddau helaeth. • Gall amrywiaeth ddiwylliannol roi profiadau amrywiol/gwahanol i ddysgwyr am arian.
Gall cyflwyno addysg ariannol ar draws y cwricwlwm: • ddarparu cyfleoedd dysgu perthnasol, heriol ac ymgysylltiol i bob dysgwr gan gysylltu dysgu â bywyd y tu allan i’r ysgol • datblygu sgiliau datrys problemau dysgwyr yng nghyd-destun bywyd go iawn • annog dysgwyr i wneud cysylltiadau rhwng gwahanol bynciau yn y cwricwlwm • annog trosglwyddo sgiliau a datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd.
‘Mae’r hafaliad yn syml: dim addysg ariannol yn hafal i benderfyniadau ariannol gwael, yn hafal i ddyled bersonol a gofid, ac iechyd gwael sy’n hafal i broblem economaidd-gymdeithasol, genedlaethol.’ • (pfeg*, Tachwedd 2009) • Mae pfeg (Personal Finance Education Group) yn elusen addysg ariannol yn y DU. Rhagor o fanylion i’w gweld yn www.pfeg.org
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Wyth oed yw’r oedran cyfartalog pan fydd plant o’r DU yn cael eu ffôn symudol cyntaf. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Deg oed yw’r oedran cyfartalog pan fydd plant yn dechrau prynu eitemau ar-lein. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Mae 1 ym mhob 5 plentyn wedi defnyddio cerdyn eu rhieni neu eu brodyr a’u chwiorydd hŷn i brynu eitemau ar-lein. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Mae dros 75% o blant 7–11 oed eisoes yn cynilo ar gyfer y dyfodol. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Mae 54% o bobl ifanc 17 oed yn dweud eu bod nhw mewn dyled i’w teulu a’u ffrindiau. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Mae 90% o blant yn eu harddegau yn dweud eu bod nhw’n poeni am arian bob dydd. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Mae 51% o blant yn eu harddegau yn dweud yr hoffen nhw ddysgu sut i reoli faint maen nhw’n ei wario. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Mae 26% o blant yn eu harddegau yn meddwl bod cardiau credyd neu orddrafftiau ar gyfer ‘gorwario’. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Plant ac arian . . . rhai casgliadau gwaith ymchwil Mae 93% o athrawon a rhieni/gofalwyr yn meddwl y dylai addysg cyllid personol gael ei haddysgu mewn ysgolion. Ymchwil gan pfeg – ‘Money on our Minds – a student consultation project’ (2009)www.pfeg.org/projects-funding/projects/money-our-minds-student-consultation-project
Materion Ariannol: darpariaeth addysg ariannol i bobl ifanc rhwng 7 ac 19 mlwydd oed mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru • Mae adroddiad 2011 Estyn Materion Ariannol yn cyflwyno saith astudiaeth achos arfer orau o’r ymagweddau a arddelir gan ysgolion i ddatblygu addysg ariannol. Mae’n defnyddio tystiolaeth a gasglwyd o ymweliadau ag 20 o ysgolion ac yn adrodd ar gasgliadau mewn perthynas ag addysg ariannol yn seiliedig ar y canlynol: • sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ariannol dysgwyr • cynllunio a chyflwyno addysg ariannol • gweithio mewn partneriaeth • datblygiad staff ac adnoddau • arweinyddiaeth. www.estyn.gov.uk/cymraeg/docViewer-w/200982.6/Materion%20Ariannol:%20%20darpariaeth%20addysg%20ariannol%20i%20bobl%20ifanc%20rhwng%207%20ac%2019%20mlwydd%20oed%20mewn%20ysgolion%20cynradd%20ac%20uwchradd%20yng%20Nghymru%20-%20Mehefin%202011/?navmap=30,119,196,
Cyfleoedd yn y cwricwlwm i gyflwyno addysg ariannol • Mae elfennau penodol o addysg ariannol wedi cael eu cynnwys yn adnoddau canlynol Llywodraeth Cymru: • Cyfnod Sylfaen: Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru (2008) • Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) (2013) • Mathemateg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru(2008) • Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru (2008) • Gyrfaoedd a’r byd gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru (2008).
Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) • Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) yn canolbwyntio ar bedwar llinyn rhifedd: • Llinyn 1: Datblygu ymresymu rhifyddol • Llinyn 2: Defnyddio sgiliau rhif • Llinyn 3: Defnyddio sgiliau mesur • Llinyn 4: Defnyddio sgiliau data.
Cydran rhifedd y FfLlRh • Llinyn: Defnyddio sgiliau rhif • Elfennau: • Defnyddio ffeithiau rhif a’r berthynas rhwng rhifau • Ffracsiynau, degolion, canrannau a chymhareb • Cyfrifo gan ddefnyddio dulliau meddwl ac ysgrifenedig • Amcangyfrif a gwirio • Rheoli arian
Cydran rhifedd y FfLlRh Edrychwch yn fwy manwl ar y sgiliau a nodir yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh. Ble yn eich cwricwlwm ysgol neu yn eich addysgu mae cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu’r sgiliau hyn?
Deilliannau dysgu’r FfLlRh Mae’r tablau canlynol yn dangos y deilliannau dysgu fel y’u nodir yng nghydran rhifedd y FfLlRh. Canolbwyntir yma ar yr elfen ‘Rheoli arian’.
Deilliannau dysgu Cyfnod Sylfaen y FfLlRh Rheoli arian Tasg barhaus: meddyliwch am y cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau canlynol ac ychwanegwch nhw at y ‘Cynllunydd rheoli arian’. learning.wales.gov.uk/resources/nlnf/?skip=1&lang=cy
Deilliannau dysgu Cyfnod Allweddol 2 y FfLlRh Rheoli arian Tasg barhaus: meddyliwch am y cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau canlynol ac ychwanegwch nhw at y ‘Cynllunydd rheoli arian’.
Deilliannau dysgu Cyfnod Allweddol 3 y FfLlRh Rheoli arian Tasg barhaus: meddyliwch am y cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau canlynol ac ychwanegwch nhw at y ‘Cynllunydd rheoli arian’.
Ar drywydd dysgu yn y FfLlRh Os yw’n berthnasol i’ch dysgwyr chi, oes cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau uchod? Ychwanegwch eich syniadau at y ‘Cynllunydd rheoli arian’.
Gallu ariannol Sut gallai dysgwr sydd â gallu ariannol edrych yn yr ysgol gynradd? Sut gallai dysgwr sydd â gallu ariannol edrych mewn lleoliad 11–19? Gall y ddogfen ganllawiau Addysg ariannol i ddysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru helpu gyda’r cwestiynau uchod.
Cyfleoedd trawsgwricwlaidd Mae’r ddogfen ganllaw Addysg ariannol i ddysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru yn nodi rhai cyfleoedd i ddatblygu addysg ariannol ar draws y cwricwlwm (tudalennau 27–28). Gall ysgolion ddefnyddio’r canllaw hwn ochr yn ochr â chydran rhifedd y FfLlRh i helpu i ddatblygu sgiliau ariannol dysgwyr fel y’u hamlinellir yn yr elfen ‘Rheoli arian’. Mae’r modiwlau eraill yn y pecyn dysgu hwn yn edrych yn fwy manwl ar bynciau penodol ac yn cynnig syniadau i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.