110 likes | 310 Views
Nodau:- Trafod technegau holi a defnyddio distawrwydd mewn cyd-destun cwnsela Ymarfer sgiliau mewn lleoliad arbennig. Amcanion:- Cydnabod pwysigrwydd holi agored Adnabod pan fydd holi yn briodol ac yn amhriodol Trafod distawrwydd mewn perthynas â sgiliau cwnsela
E N D
Nodau:- Trafod technegau holi a defnyddio distawrwydd mewn cyd-destun cwnselaYmarfer sgiliau mewn lleoliad arbennig Amcanion:- Cydnabod pwysigrwydd holi agored Adnabod pan fydd holi yn briodol ac yn amhriodol Trafod distawrwydd mewn perthynas â sgiliau cwnsela Rhoi sgiliau ar waith oddi mewn i sesiwn ymarferol
Distawrwydd Weithiau gall rhywun gyfleu diddordeb a gofal drwy ddistawrwydd ac ymddygiad di-eiriau
Gall distawrwydd fod o gymorth. • Annog neu hwyluso cleient/datgelwr i siarad ymhellach. • Sicrhau’r cleient/datgelwr fod y gwrandawr yn disgwyl, yn llawn diddordeb ac â chonsyrn am yr hyn allai gael ei ddweud. • Yn y broses o adnabod teimlad neu emosiwn arbennig.
Angen i’r gwrandawr ‘aros yn ôl’ a chaniatáu’r distawrwydd. • Peidio â cheisio ‘achub’ y cleient rhag anesmwythyd. • Fodd bynnag nid ymryson am rym ydyw ychwaith – pwy fydd y cyntaf i dorri’r distawrwydd? • Yna’n mae’n mynd yn antherapiwtig • Angen i’r gwrandawr fod wedi tiwnio i mewn mewn difri i’r gofod hwnnw, ac mae hyn felly yn galw am allu barnu’n sensitif.
Defnyddio Cwestiynau • A oes angen cwestiynau? • Pam defnyddio cwestiynau? • (a) HOLI • (b) GWYBODAETH • (c) SICRHAU DEALLTWRIAETH • (ch) HERIO • (d) SYMUD YMLAEN
Cwestiynau sy’n gadael i gleientiaid siarad yn fwy rhydd a sylweddol • Bydd helpwyr yn aml yn holi gormod o gwestiynau. Heb fod yn sicr beth i’w ddweud na’i wneud, tuedda helpwyr di-glem i holi cwestiynau, fel petai pentyrru gwybodaeth yn nod i’r cyfweliad helpu. Ond gall cwestiynau, wedi eu defnyddio’n ddoeth, fod yn rhan bwysig o’ch rhyngweithio gyda’ch cleientiaid.
Peidiwch â holi gormod o gwestiynau. • Holwch gwestiynau sydd â phwrpas iddynt • Wrth holi cwestiynau, cadwch y ffocws ar y cleient • Holwch gwestiynau penagored sy’n helpu’r cleientiaid drafod profiadau, ymddygiad a theimladau penodol.
Defnyddio cwestiynau ‘agored’ a ‘chaeedig’ • Ar ôl dechrau holi cwestiynau, rydych yn aml wedi’ch dal i orfod dal ati i ofyn cwestiynau. • Cwestiynau ‘caeedig’ yw’r rhai y gallwch eu hateb gydag ‘ie’ neu ‘nage’. • Mae cwestiynau ‘agored’ yn well, megis: • Beth oedd y math o bethau a ddigwyddodd i ddod â chi yma? • Beth sy’n eich poeni chi fwyaf ar y funud?
Mae’n teimlo fel petaech yn ei chael hi’n anodd iawn siarad. Beth fyddai’r peth hawsaf i ddechrau gydag e? • Mae’n teimlo fel petaech chi’n dadlau rhywbeth yn eich pen. Allwch chi ei roi mewn geiriau? • Rydych chi’n edrych fel petaech wedi cael digon / wedi ypsetio / yn flin. Beth sydd yn mynd ymlaen yn eich meddwl?
Awgryma Egan mai rheol fuddiol bob amser yw aralleirio ateb i gwestiwn bob amser. • Gallwch hefyd ddilyn aralleiriad gyda chwestiwn a bydd hwnnw yn anorfod yn gorffen fel cwestiwn agored. • (enghraifft) Cyng: Beth ydych chi yn ei hoffi am y cwrs cwnsela (cwestiwn agored) • Cleient: Rwy’n teimlo fy mod yn dysgu llawer o bethau newydd nad oeddwn i yn eu gwybod cynt fel fy mod i’n teimlo’n well amdanaf fy hun. • Cyng: Felly rydych yn teimlo bod y cwrs yn gadarnhaol iawn i chi? Sut hoffech chi fynd â’r sgiliau hyn ymhellach?
Ymarferiad • Yn barau – Ymarfer holi cwestiynau agored drwy droi’r cwestiynau ar y ddalen o fod yn rhai ‘caeedig’ yn rhai ‘agored’