150 likes | 325 Views
Creu Getoau. ....yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bydd y sioe sleidiau yma’n chwarae’n awtomatig. 5. 4. 3. 2. 1. 0. Gan Des Quinn a Martin Williams.
E N D
Creu Getoau ....yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bydd y sioe sleidiau yma’n chwarae’n awtomatig 5 4 3 2 1 0 Gan Des Quinn a Martin Williams
Mewn ymgais i wahanu’r Iddewon oddi wrth yr Ariaid oddi mewn i wledydd Ewrop a feddiannwyd gan y Natsïaid, fe’u gorfodwyd gan y Natsïaid i ardaloedd penodedig oedd â waliau o’u cwmpas ac a elwid yn getoau. Unwaith roedd yr Iddewon y tu mewn nid oedd ganddynt fawr ddim cyfle i ddianc. Roeddent yn dibynnu ar y Natsïaid am bopeth – bwyd, gwaith a hyd yn oed yr hawl i fyw. Roedd yr amodau o fewn y getoau yn ofnadwy ac roedd llawer o bobl yn llwgu i farwolaeth neu’n cael eu taro i lawr gan salwch. Pan ddifodwyd/losgwyd y getoau cafodd y rhai a oroesodd eu casglu ynghyd yn y diwedd a’u hanfon i wersylloedd crynhoi a gwersylloedd angau.
Gorfodwyd pobl i gyfnewid nwyddau er mwyn goroesi. Roedd y system ‘gyfnewid’ hon yn golygu bod yn rhaid i nifer o Iddewon ildio eu heiddo personol mewn ymgais i ‘brynu’ bwyd a dillad. Llanwyd y strydoedd â phlant oedd wedi’u gwisgo mewn carpiau, oedd yn llefain ac yn marw o newyn. Llun trwy garedigrwydd Des Quinn
Llun trwy garedigrwydd Des Quinn Rhai o’r plant mwyaf ‘lwcus’ yn gwenu ar Swyddog Almaenig…
Llun trwy garedigrwydd Des Quinn tra bod eu rhieni yn ciwio am fwyd a chael eu trwyddedau gweithio wedi’u llofnodi a’u papurau wedi’u gwirio.
Mewn ymgais i wneud i’r Iddewon deimlo bod o leiaf rhai agweddau ar fywyd normal yn bodoli oddi mewn i’r getoau, roedd y Natsïaid yn caniatáu iddynt ysgrifennu cardiau post at berthnasau a ffrindiau oedd yn byw yn rhywle arall yn Ewrop. Er hynny, dim ond ‘ar yr wyneb’ y dangoswyd y goddefgarwch hwn. Doedd dim bwriad gan y Natsïaid ganiatáu i’r Iddewon gael cyswllt â’r byd y tu allan. Pan roedd y cardiau yn cael eu postio yn y getoau, byddai’r Natsïaid yn eu casglu, eu rhoi mewn bagiau a’u storio mewn stordai neu’n eu dinistrio.
Po hiraf roedd y getoau mewn bodolaeth mwyaf annioddefol oedd bywyd i’r trigolion. Roedd gwrthdaro rhyngddynt â milwyr yr Almaen yn gyffredin ac yn aml roedd cosb am ateb yn ôl – niwed corfforol neu ddienyddio. Yr un peth oedd y gosb am smyglo bwyd i mewn i’r geto. Llun trwy garedigrwydd Des Quinn
Wrthifwy a mwy o Iddewonfyndi’rgetoauroeddhi’nfwyanoddi’rNatsïaidreoli’rbobloeddynbywyno ac atalsalwch ac afiechydrhaglledaenu. DechreuoddyrIddewonhefydsylweddolinafyddentfythyncaeleurhyddhau ac felly bucynnyddynyrymdrechion a wnaediddianc. Felly cynllunioddyrAlmaenwyrigaelgwaredaryrIddewonunwaith ac am byth. Llun trwy garedigrwydd Des Quinn
Casglwyd trigolion y getoau ynghyd a chafodd eu henwau eu ticio ar restr swyddogol. Erlidiwyd y rhai oedd yn cuddio rhag y milwyr a chafodd nifer ohonynt eu saethu. Dyma ddifodiant y getoau. Unwaith roedd yr Iddewon wedi eu casglu ynghyd cafodd yr adeiladau eu rhwygo i lawr. Llun trwy garedigrwydd Des Quinn
Rhoddwyd nifer o bobl ar lorïau a gorfodwyd eraill i gerdded. Gydag dim ond ychydig o’u heiddo cawsant eu hebrwng gan filwyr arfog i’r gorsafoedd trenau lle roedd wagenni gwartheg yn aros i’w cludo i waeth hunllef – naill ai gwersylloedd crynhoi neu wersylloedd angau. Llun trwy garedigrwydd Des Quinn
Llun trwy garedigrwydd Des Quinn Rhoddwyd y dasg yn awr o chwilio drwy weddillion y getoau am Iddewon a oroesodd ac nad oedd wedi’u canfod gan y milwyr i grwpiau ‘arbennig’ oedd wedi llofruddio Iddewon wrth i fyddin yr Almaen ruthro yn ei blaen i Wlad Pwyl a Rwsia.
Dyma ddechrau’r diwedd i nifer o Iddewon Dwyrain Ewrop. Unwaith roeddent ar y trenau ar eu taith i’r gwersylloedd nid oedd unrhyw ffordd o ddianc rhag y caledi eithafol a’r farwolaeth oedd o’u blaenau. Llun trwy garedigrwydd Des Quinn
Llun trwy garedigrwydd Des Quinn Ni ddylem fyth anghofio’r hyn a ddigwyddodd i’r bobl ddewr yma. Roedd hon yn bennod dywyll ac ofnadwy yn hanes dynoliaeth ac yn un y dylid meithrin ymwybyddiaeth pob cenhedlaeth sydd i ddod ohoni fel na ddigwydd rhywbeth fel hyn fyth eto.
Amcangyfrifir bod dros 6 miliwn o Iddewon a ‘phobl israddol’ wedi colli eu bywydau mewn gwersylloedd crynhoi rhwng 1939-1945.