130 likes | 315 Views
Cwrs bydwreigiaeth. Llawer o gystadleuaeth Mae llawer iawn o geisiadau wedi dod i law am ychydig yn unig o leoedd. Bu ansawdd y ceisiadau yn uchel. Cystadleuaeth am bob lle mewn cyfweliad. Mae’r data iisod wedi’u llunio’n rhannol ar sail gwybodaeth gan UCAS. Dewis ar gyfer y rhestr fer.
E N D
Cwrs bydwreigiaeth Llawer o gystadleuaeth Mae llawer iawn o geisiadau wedi dod i law am ychydig yn unig o leoedd. Bu ansawdd y ceisiadau yn uchel. Cystadleuaeth am bob lle mewn cyfweliad. Mae’r data iisod wedi’u llunio’n rhannol ar sail gwybodaeth gan UCAS
Dewis ar gyfer y rhestr fer Meini prawf ar gyfer rhestr fer 2010: Cyraeddiadau addysgol Efallai y bydd Pwyntiau UCAS yn cynyddu ar gyfer 2012 Profiad ymarferol priodol ym maes gofal iechyd – â thâl neu’n wirfoddol A roesoch fanylion am hyd y cyfnod y buoch yn gwneud hyn? Dealltwriaeth o broffesiwn bydwreigiaeth.
Gwneud cais am le ar y cwrs Yr holl geisiadau trwy UCAS A yw’r pwyntiau UCAS gennych? Wnaethoch chi wirio cyn llenwi’r ffurflen? Llenwi’r ffurlen yn ofalus Gofalwch eich bod yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n angenrheidiol Dim camsillafu na gwallau gramadegol
Addysg flaenorol A roesoch fanylion am eich ysgolion neu’ch colegau? A fuoch yn rhestru eich cymwysterau, fesul un? Wnaethoch chi gynnwys yr holl ysgolion, colegau a phrifysgolion a fynychwyd gennych o 11 oed ymlaen, hyd yn oed os rhoesoch y gorau i’ch cwrs? Os na chawsoch gymwysterau o’ch ysgol, a roesoch fanylion am eich ysgolion?
Cyflogaeth A ddywedasoch wrthym am eich profiad o gyflogaeth â thâl? A roesoch fanylion cryno am hyd at 5 o gyflogwyr, yn cynnwys disgrifiad o’ch swydd, a dyddiadau cychwyn a gorffen? A ddywedasoch p’un a oeddech yn gweithio’n llawn-amser neu’n rhan-amser? A wnaethoch chi gynnwys swyddi penwythnos a swyddi gwyliau? Os na chawsoch dâl am eich profiad gwaith, wnaethoch chi gynnwys y cyfnod hwnnw yn eich datganiad personol?
Datganiad personol: o bwys tyngedfennol! Y datganiad personol yw eich cyfle chi i ddweud wrthym am eich addasrwydd ar gyfer proffesiwn bydwreigiaeth ac ar gyfer y cwrs. Waethoch chi ddangos eich brwdfrydedd a’ch ymrwymiad? Coifiwch fod y Tiwtor Debyn a ddarllenodd eich datganiad personol yn fydwraig ac yn ddarlithydd. Roedd am wybod y rhesymau eich bod yn awyddus i ymuno â’r proffesiwn.
Datganiad personol Wnaethoch chi egluro pam roeddech yn awyddus i astudio ar gyfer cymhwyster bydwreigiaeth? Wnaethoch chi ddangos eich bod yn deall yr hyn sy’n ofynnol i ddilyn y cwrs? Os sonioch am eich diddordebau personol a’ch gweithgareddau hamdden, a wnaethoch eu cysylltu â’r medrau a’r profiad sy’n ofynnol ar gyfer bydwreigiaeth/ y cwrs? Wnaethoch chi ddangos y modd yr oedd astudiaethau cyfredol neu flaenorol yn gysylltiedig â bydwreigiaeth? Wnaethoch chi sôn am unrhyw weithgareddau a oedd yn dangos eich diddordeb mewn bydwreigiaeth? Roesoch chi fanylion am swyddi, lleoliadau, profiad gwaith neu waith wirfoddol a oedd yn berthnasol?
Datganiad personol A roesoch fanylion am hobïau, diddordebau a gweithgareddau cymdeithasol a oedd yn dangos eich medrau a’ch galluoedd? A roesoch fanylion am fedrau a llwyddiannau heb eu hachredu a gawsoch trwy weithgareddau fel gwirfoddoli? Wnaethoch chi ymhelaethu ar eich diddordebau a’ch gweithgareddau? Wnaethoch chi ymhelaethu ar y rheswm y byddai profiad, gweithgaredd neu ddiddordeb yn eich gwneud yn ymgeisydd da? Er enghraifft: Os dywedasoch rywbeth fel “Rwy’n mwynhau tennis”, a roesoch gyd-destun yn dangos sut y byddai’n eich helpu ar y cwrs?
Datganiad personol A oedd eich daganiad yn drefnus ac yn ddarllenadwy? A oedd y ramadeg, y sillafu a’r atalnodi’n gywir? A roesoch chi ormod o sylw i un mater penodol, yn hytrach nag i ddiddordebau a medrau perthnasol eraill? A wnaethoch gais am gyrsiau niferus? Os gwnaethoch gais am wahanol broffesiynau, e.e. bydwreigiaeth a nyrsio, wnaethoch chi nodi’r themâu a’r medrau sy’n gyffredin i’ch dewisiadau?
Datganiad personol Os nad ydych mewn addysg lawn-amser, a roesoch chi fanylion am unrhyw brofiad gwaith perthnasol, â thâl neu heb dâl, a gwybodaeth am eich swydd bresennol neu flaenorol? Wnaethoch chi sôn am y canlynol: Llwyddiannau yr ydych yn falch ohonynt? Swyddi o gyfrifoldeb yr ydych yn eu dal/ wedi’u dal yn yr ysgol a hefyd y tu allan iddi? Nodweddion sy’n eich gwneud yn ddiddorol, yn arbennig neu’n unigryw? A ydych yn dal/ wedi dal swydd o awdurdod neu wdi defnyddio eich medrau cyfathrebu mewn unrhyw weithgaredd?
Awgrymiadau ar gyfer y dyfodol Ysgrifennu eich ffurflen yn glir Yr angen i ddweud pam rydych yn gwneud cais am le ar y cwrs Bod yn glir ynglŷn â swyddogaeth bydwraig Profiad o gyflogaeth mewn gofal iechyd nodi ei phethnasedd i fydwreigiaeth os nad oedd ym maes gofal mamolaeth am faint? Os nad oes gennych wybodaeth o gyflogaeth ym maes gofal iechyd rhowch fanylion am leoliad gofal iechyd yn ystod y cwrs, manylion am waith gwirfoddol ym maes gofal iechyd Argymell canolwr o fyd addysg Gallem ddefnyddio’r dataniad personol fel sail ar gyfer mwy o gwestiynau, felly byddwch yn barod i gadarnhau’r honiadau a wnewch yn y daganiad personol
Ar gyfer y dyfodol Os dymunwch, gwnewch gais arall ar gyfer y mewnlif nesaf, y diswylir iddo fod ym Medi 2011. Awgrymaf y gallech ddymuno ystyried unrhyw brofiad ymarferol o ofalu y gallech ei gael cyn cyflwyno ail gais. Gorau oll, rhowch fanylion am yr hyn yr ydych yn ei wneud ar hyn o bryd, nid am yr hyn yr ydych eisoes wedi gwneud cais ar ei gyfer. Nid yw gwneud hyn yn gwarantu gwahoddiad i’r diwrnod dewis ……
Ar gyfer y dyfodol: Dymuniadau gorau, a diolch am ddod.