150 likes | 531 Views
Grace Darling. Merch William Darling ceidwad y goleudy yn Longstonear Ynys Farne oedd Grace Darling. Roedd e’n lle unig iawn ac roedd neb arall yn byw ar yr ynys. Roedd William a Grace yn cadw’r golau i fynd er mwyn rhybuddio llongau ynglyn a’r creigiau peryglus.
E N D
Merch William Darling ceidwad y goleudy yn Longstonear Ynys Farne oedd Grace Darling.
Roedd e’n lle unig iawn ac roedd neb arall yn byw ar yr ynys. Roedd William a Grace yn cadw’r golau i fynd er mwyn rhybuddio llongau ynglyn a’r creigiau peryglus.
Un noson stormus fe wnaeth llong ager o’r enw Forfarshire, gyda 60 o bobl arno basio Farne pan dorrodd y peiriant. Pan geisiodd y capten hwylio’r llong i ffwrdd o’r lan fe wnaeth y llong gael ei bwrw yn erbyn creigiau Harcar.
Fe welodd Grace Darling y llong ddrylliad o’i goleudy ac fe alwodd ar ei thad. “Dwi’n gweld llong", dywedodd wrth edrych drwy’r tywyllwch.
Roedd e’n storm erchyll ac roedd Grace a’i thad ddim yn meddwl y byddai unrhyw un yn medru goroesi. Ond wrth i’r wawr dorri gwelson nhw bobl ar y creigiau.
Fe wnaeth Grace a’i thad ddechrau rhwyfo cwch allan i achub y bobl. Pan gyrhaeddon nhw y creigiau fe ffeindion nhw naw person ond dim ond lle i bump o bobl oedd i gael yn y cwch.
Fe wnaethant rwyfo nol yn ddewr i Longshore. Yna fe wnaeth William a dau o’r criw fynd nol am y bobl oedd ar ol.
Pan glywodd pobl am ddewrder Grace Darling yn helpu ei thad fe gafodd hi fedal arian i gofio am ei dewrder.