80 likes | 228 Views
UG Y Gyfraith Adborth LA1 2011 Prif Arholwr Yr Athro Iwan Davies. Cyfres Mehefin. Cofrestriad mawr, rhai ohonyn nhw’n ailsefyll.
E N D
UG Y GyfraithAdborth LA12011Prif ArholwrYr Athro Iwan Davies
Cyfres Mehefin • Cofrestriad mawr, rhai ohonyn nhw’n ailsefyll. • Cw1 - Trefniadaeth Sifil. Gwnaed hwn yn dda ar y cyfan. Trafod hanfodion rheolau trefniadaeth sifil yn unig wnaeth rhai ymgeiswyr. Roedd bron y cyfan o’r ymgeiswyr yn cydnabod bod Datrysiad Anghydfod Amgen (ADR) yn rhan o ddiwygiadau Woolf ond i lawer o ymgeiswyr arweiniodd hyn at draethawd cyfan ar ADR ac o’r herwydd cawsant eu cyfyngu i lefel 2. • Roedd y gwerthuso’n wan ar gyfer rhan (b)
Cyfres Mehefin • Cw2. Cwestiwn poblogaidd gydag ansawdd yr atebion yn amrywio’n fawr. Ansicr o’r hyn yr oedd y cwestiwn yn ei ofyn yn rhan (b). Camddehonglwyd ystyr Ecwiti modern. • Peth dryswch a ddylai’r wybodaeth fod yn rhan (a) neu (b).
Cyfres Mehefin • Cw3 – Rheithgorau, y cwestiwn mwyaf poblogaidd ac wedi’i wneud yn dda ar y cyfan. Fodd bynnag, ni chyfeiriwyd at rôl gyffredinol y rheithgor gan lawer. • Cynhyrchodd rhan (b) gymysgedd o atebion. Mae ymgeiswyr yn dal i fethu darpariaethau’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003.
Cyfres Mehefin • Cw4 – Moesoldeb a rheolaeth cyfraith. Dewis amhoblogaidd. Atebwyd yn wael. Diffyg cyfraith achosion i gefnogi. Prin y soniwyd am ddadl Hart v Devlin. • Cw5 - Datrysiad Anghydfod Amgen (ADR). Atebwyd rhan (a) yn dda ar y cyfan. Yn rhan (b) gwerthuso wedi’i ymarfer oedd llawer o’r atebion a chyfyngwyd yr ymgeiswyr felly i lefel 2.
Cyfres Mehefin • Cw6 – Cymorth cyfreithiol. Yr ateb lleiaf poblogaidd ar y papur. Atebwyd rhan (a) yn eithaf da. Cafwyd diffiniadau da o drefniadau ffïoedd amodol yn rhan (b). Roedd y gwerthuso’n wan. • Ni ddangosodd unrhyw ymgeiswyr ymwybyddiaeth o’r adroddiad Jackson diweddar.
Strwythuro Atebion • Rhai gwendidau wrth drefnu a chynllunio atebion • Rhaid i’r ymgeiswyr gael dealltwriaeth glir o’r amcanion asesu. • Mae angen iddynt gael dealltwriaeth glir o’r hyn y mae’r cwestiwn / gosodiad yn ei ofyn.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â’r Swyddog Pwnc yn CBAC: Joanna Lewis 245 Rhodfa’r Gorllewin Caerdydd CF5 2YX joanna.lewis@wjec.co.uk